Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Cymorth Ôl-ofal

Mae ein gwasanaeth ôl-ofal yn helpu cleifion a’u hanwyliaid wrth iddyn nhw wella.

Cymorth ôl-ofal

Sut gallwn ni helpu

Gall bod yn rhan o argyfwng meddygol neu ddamwain ddifrifol newid eich bywyd yn sylweddol. Gall fod yn anodd i glaf a’i deulu.

Os ydych chi wedi cael triniaeth gan ein criw, nid yw’r gefnogaeth yn dod i ben ar ôl i chi gyrraedd yr ysbyty.

Os oes gennych gwestiynau heb eu hateb, neu os ydych chi eisiau siarad â rhywun, rydyn ni yma i’ch helpu wrth i chi wella.

Image of two people chatting showing only their legs and a clipboard taking notes

Nyrsys Cyswllt â Chleifion

Gall gwella o salwch neu anaf critigol fod yn broses hir a heriol wrth i bobl symud rhwng gwahanol adrannau, ysbytai, a chanolfannau adsefydlu cyn mynd adref.

Mae Jo Yeoman a Hayley Whitehead-Wright, Nyrsys Cyswllt â Chleifion, yma i gefnogi cleifion a pherthnasau ar y daith honno, gan ddarparu cysondeb a chefnogaeth drwy’r amser, gan gynnwys ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r ysbyty.

Gall y cymorth hwn gynnwys:

  • Ymweliadau dilynol ar wahanol adegau wrth wella. Bydd hyn yn wahanol o glaf i glaf yn dibynnu ar eu hangenion. Gallai fod yn fuan ar ôl iddyn nhw gael eu derbyn neu ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r ysbyty, yn dibynnu ar ba mor hir yw’r broses wella.
  • Ateb cwestiynau am y driniaeth a gawsoch cyn mynd i’r ysbyty a llenwi bylchau gan y gall hyn eich helpu i ddeall beth ddigwyddodd.
  • Cymorth emosiynol i gleifion a pherthnasau.
  • Eich cyfeirio at sefydliadau eraill a allai gynnig cymorth a chefnogaeth.
  • Y cyfle i basio neges i’r criw drwy lythyr neu e-bost.
  • Cefnogaeth profedigaeth i’r rhai sydd wedi colli anwyliaid.
Patient Liaison Nurses Hayley and Jo

Cysylltu â ni

Os ydych chi eisiau siarad ag un o’r Nyrsys Cyswllt â Chleifion, gallwch gysylltu â nhw gan ddefnyddio’r ffurflen hon neu drwy ddefnyddio’r manylion isod:

Ffôn – 0300 300 0067

E-bost – Emrts.patient@wales.nhs.uk






    This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.

    Diolch am eich ymholiad.

    Bydd aelod o’n Tîm Ôl-ofal yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.