Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Cwrdd â’n Gwirfoddolwyr

Mae gan bawb reswm gwahanol dros wirfoddoli. Gyda’i gilydd, mae ein gwirfoddolwyr yn cynnig amrywiaeth o sgiliau ac maen nhw’n cael llawer yn ôl o roi eu hamser.

Cwrdd â’n Gwirfoddolwyr

Lynne Press

Ar Fehefin 21, 2022, newidiodd byd Lynne Press am byth.

Ar y diwrnod hwnnw, roedd ei ŵyr Ethan, mewn damwain ddifrifol. Roedd yn gyrru car ger Pen y Fan gyda’i gariad ar y pryd.

Tarodd drol lludw ac, ar unwaith, fe gafodd anafiadau a oedd yn peryglu ei fywyd.

Yn ffodus, roedd dau barafeddyg yn digwydd bod yn teithio i’r cyfeiriad arall ac yn fuan roedd arbenigwyr Ambiwlans Awyr Cymru wrth law i roi gofal hanfodol.

Er hynny, ar un adeg roedd siawns Ethan o oroesi’r ddamwain yn 70/30.

Ar ôl cael ei drosglwyddo i’r ysbyty, roedd angen llawdriniaeth frys ar Ethan ar ôl i’w goluddyn rwygo. Yna datblygodd sepsis ac roedd angen triniaeth hanfodol bellach arno.

Roedd Ethan yn yr uned gofal dwys am bythefnos, ond mae’n wyrth ei fod wedi gwella a’i fod yn dychwelyd i’w fywyd arferol yn araf bach.

Newidiodd y digwyddiad hwn fywyd Lynne, a dyma arweiniodd ati’n ystyried gwirfoddoli.

Ar ôl ymddeol yn gynnar, penderfynodd Lynne dalu’n ôl am yr help a gafodd Ethan.

Dywedodd: “Oni bai am yr ambiwlans awyr, ni fyddai yma. Dyma fy ffordd o ddweud diolch.”

Ond mae hi hefyd yn cael llawer o foddhad o wirfoddoli, meddai:

“Rydw i wir yn ei fwynhau. Rydw i wedi cwrdd â phobl hyfryd. Mae’n wych yma. Ar hyn o bryd rydw i’n gwneud pethau yn y warws, ac rydyn ni’n cael hwyl.”

Mae gan bawb reswm gwahanol dros wirfoddoli, ond i Lynne roedd yn benderfyniad personol iawn.

Lynne smiling at camera
Cwrdd â’n Gwirfoddolwyr

Graham Hirst

Mae Graham Hirst yn un o hoelion wyth gwirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru.

Gyda dros 15 mlynedd o brofiad o wirfoddoli y mis hwn (Ionawr), mae Graham yn wyneb adnabyddus yn ein pencadlys Dafen.

Yn ei hetiau Cowboi, mae ganddo wên ar ei wyneb bob amser, a phob amser yn dweud helo wrth bawb y mae’n cwrdd â nhw.

Ond ymddeol yn gynnar yn 54 oed a oedd wedi sbarduno Graham, o Dreboeth, i ymuno â’n tîm gwirfoddoli.

Wrth chwilio am her newydd, gwelodd Graham hysbyseb yn yr Evening Post ar gyfer gwirfoddolwyr.

Dechreuodd yn ein warws yn Llansamlet a helpodd hefyd i osod ein siop gyntaf yng Nghwmdu.

Mae llawer wedi newid ers i Graham droi ei law at wirfoddoli am y tro cyntaf. Ar y pryd, yn ein canolfan yn Fairwood, Abertawe, dim ond dau adeilad cludadwy ac un hofrennydd oedd ar gael.

Nid yw ymroddiad llwyr Graham i’r achos wedi newid. Gellir dibynnu arno bob amser i helpu, ac mae bellach yn cynnal amrywiol sgyrsiau â grwpiau, yn rhoi trefn ar flychau arian parod ac yn helpu’n rheolaidd gydag ymgyrchoedd, ymysg nifer o dasgau eraill.

Ei gyngor i unrhyw un sy’n ystyried gwirfoddoli yw: “Dewch i ymuno â ni a gweld a ydych chi’n ei hoffi.

“Rwy’n gweithio gyda chriw o bobl wych. Maen nhw’n ymroddedig iawn. Pan rwy’n gweld yr hofrennydd hwnnw’n mynd i fyny – mae’n hyfryd! Rydyn ni’n rhan o hynny. Mae bywydau pobl yn cael eu hachub oherwydd ein gwirfoddolwyr.”

Nid yw gwirfoddoli yn un ffordd syml. Yn anffodus, collodd Graham ei wraig o 55 mlynedd dair blynedd yn ôl, ac mae gwirfoddoli wedi ei helpu drwy’r cyfnod anodd hwn.

Mae ei rodd o amser i’r elusen yn ei gadw’n brysur ac yn ei gael allan o’r tŷ.

Rydyn ni yn Ambiwlans Awyr Cymru yn credu ein bod ni’n ennill cymaint o waith girfoddoli Graham.

Mae’n anhygoel.

Graham smiling to camera
Cwrdd â’n Gwirfoddolwyr

Charlotte Merrigan

Mae Charlotte Merrigan yn iau na’r gwirfoddolwr arferol.

Mae Charlotte wedi rhoi cynnig ar nifer o dasgau yn helpu yn ein siop a’n warws yng Nghwmdu ers mis Medi diwethaf.

Mae hi wedi bod yn amhrisiadwy yn yr adran gollwng rhoddion, gan roi trefn ar bric-a-brac, dillad, DVDs a gemau. Mae hi hefyd wedi ymuno â’r tîm yn y warws – gan roi trefn ar stoc a roddwyd.

Mae gan Charlotte ddau shifft yr wythnos, ond mae gwirfoddoli yn Ambiwlans Awyr Cymru yn hyblyg iawn, ac mae modd ei drefnu i gyd-fynd ag oriau rhydd pobl.

Cyn ymuno â’r tîm yng Nghwmdu, roedd Charlotte yn y coleg, yn dysgu sgiliau byw’n annibynnol.

Mae’r wybodaeth mae hi wedi’i ennill wrth wirfoddoli wedi bod yn amhrisiadwy o ran rhoi sgiliau trosglwyddadwy iddi. Bydd rheolwyr hyd yn oed yn cynnig geirda i wirfoddolwyr sy’n chwilio am waith.

Ond mae ei thasgau hefyd wedi bod o fudd i Charlotte yn bersonol, meddai: “Pan oeddwn yn y coleg roedd yr athrawon bob amser yn dweud ‘gwirfoddolwch – bydd yn rhoi hwb i’ch gyrfa pan fyddwch chi’n barod i weithio.’

“Mae gwirfoddoli wedi cael ei ddisgrifio fel rhywbeth sy’n rhoi boddhad i chi, felly roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n rhoi cynnig arni i weld sut bydd yn gweithio allan. Rwy’n falch o ddweud ei fod wedi mynd yn dda iawn i mi.”

Un o’r manteision allweddol i Charlotte yw’r ffrindiau gwych y mae hi wedi cwrdd â nhw. Dywedodd ei bod hi’n cael ymlaen yn dda iawn gyda’r tîm i gyd a’i chyngor i unrhyw ddarpar wirfoddolwr yw: “Rhowch gynnig arni!”

Charlotte is wearing a high vis jacket smiling at camera
Cwrdd â’n Gwirfoddolwyr

Linda Jones

Pan ddechreuodd Linda Jones wirfoddoli gyda ni, roedd Gareth Gates ar frig y siartiau a byddai tŷ cyffredin yng Nghymru yn costio £78,000 i chi.

Nawr, mwy nag 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae Linda yn dal i roi ei hamser gwerthfawr i ni ac yn ddiweddar cafodd wobr arbennig i nodi ei chyfnod hir o wasanaeth.

Dechreuodd Linda gyda ni ddwy flynedd ar ôl i’r Elusen gael ei lansio, ac roedd hi’n dal i weithio fel derbynnydd mewn ysgol uwchradd ar y pryd.

Mae hi i’w gweld o hyd yn helpu yn ei thref enedigol, Corwen.

Dechreuodd taith wirfoddoli Linda gydag Ambiwlans Awyr Cymru pan welodd golofn cyfleoedd yn y Liverpool Daily Post. Roedd erthygl yn chwilio am wirfoddolwyr wedi ennyn diddordeb Linda a gwnaeth gais i ymuno â’r tîm.

Ar y dechrau, roedd Linda yn cynnal sgyrsiau â gwahanol grwpiau, ond yn ddiweddar mae hi wedi bod yn casglu bocsys casglu yn ei hardal yn bennaf.

Esboniodd pam ei bod wedi ymroi cymaint o’i hamser i’w rôl: “Mae’n elusen wych. Os gallaf fod o unrhyw gymorth, fe wna i wirfoddoli.”

Bellach yn fam ac yn nain i chwech o blant, nid yw Linda yn dangos unrhyw arwyddion o arafu.

Ychwanegodd: “Rwy’n berson gweithgar iawn a dydw i ddim yn hoffi gwneud dim byd. Rwyf hefyd yn aelod o Sefydliad y Merched (WI).

“Mae angen yr elusen hon ar Gymru. Mae mor wledig ym mhobman. Rwyf bob amser yn gwylio rhaglenni ar y teledu am ambiwlansys awyr – ac roeddwn yn falch o weld weld yr hofrennydd newydd yn y gynhadledd gwirfoddolwyr.”

Linda holds a bunch of flowers smiling at camera
Mwy o wybodaeth

Ymunwch â’n tîm

Gwneud cais nawr