Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Rhoi’n Rheolaidd

Bob blwyddyn mae angen i ni godi £11.2 miliwn er mwyn parhau â’n gwaith achub bywydau.

Eich rhodd

 

Rydych chi’n dibynnu arnom ni i’ch helpu chi neu’ch anwyliaid ar ddiwrnod gwaethaf eu bywyd, ond rydyn ni’n dibynnu ar eich cefnogaeth chi i wneud yn siŵr ein bod yn gallu parhau i fod yno os bydd ein hangen arnoch chi.

Bob blwyddyn mae angen i ni godi £11.2 miliwn er mwyn parhau â’n gwaith achub bywydau. Every donation, big or small, is vital.

Gall rhodd fisol reolaidd ein helpu i gynllunio ein hincwm yn y dyfodol, a diogelu eich teulu ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Rydych chi’n achub bywydau

Diolch i godwyr arian hael fel chi, gallwn:

  • Ymateb i argyfyngau 24/7 – Mae ein criwiau yn barod ddydd a nos i ddarparu gofal sy’n achub bywydau ledled Cymru.
  • Cyrraedd yr ardaloedd mwyaf gwledig – Mae ein hofrenyddion yn golygu y gallwn gyrraedd lleoliadau anghysbell yn gyflym, gan ddarparu triniaeth neilltuol yn y fan a’r lle.
  • Darparu gofal ar lefel ysbyty wrth symud – Mae ein timau’n cynnwys meddygon medrus iawn, gan ddod â gofal dwys yn uniongyrchol i gleifion.
  • Cadw ein fflyd yn weithredol – Mae’n costio tua £11.2 miliwn y flwyddyn i gynnal ein gwasanaethau awyr a ffordd.
  • Ailuno teuluoedd – diolch i’ch cefnogaeth chi mae ein cleifion yn gallu parhau i dreulio amser gyda’u hanwyliaid.
Close up head shot of Kosta, a consultant sat on the helicopter with his helmet on