Rhoddion Untro
Rydyn ni’n dibynnu ar eich rhoddion elusennol i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a chadw’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn barhau i achub bywydau ledled Cymru.
Rydyn ni’n gobeithio na fydd angen ein gwasanaeth arnoch chi neu eich teulu, ond drwy ein cefnogi, byddwch yn gwybod y byddwn yno i chi os bydd ein hangen arnoch unrhyw bryd.
Mae pob rhodd yn bwysig, fawr neu fach. P’un a ydych chi’n rhoi cost eich coffi, neu wedi cynnal digwyddiad, mae gan bob rhodd y pŵer i newid bywydau.
Diolch am eich cefnogaeth
Rydych chi’n achub bywydau
Diolch i godwyr arian hael fel chi, gallwn:
- Ymateb i argyfyngau 24/7 – Mae ein criwiau yn barod ddydd a nos i ddarparu gofal sy’n achub bywydau ledled Cymru.
- Cyrraedd yr ardaloedd mwyaf gwledig – Mae ein hofrenyddion yn golygu y gallwn gyrraedd lleoliadau anghysbell yn gyflym, gan ddarparu triniaeth neilltuol yn y fan a’r lle.
- Darparu gofal ar lefel ysbyty wrth symud – Mae ein timau’n cynnwys meddygon medrus iawn, gan ddod â gofal dwys yn uniongyrchol i gleifion.
- Cadw ein fflyd yn weithredol – Mae’n costio tua £11.2 miliwn y flwyddyn i gynnal ein gwasanaethau awyr a ffordd.
- Ailuno teuluoedd – diolch i’ch cefnogaeth chi mae ein cleifion yn gallu parhau i dreulio amser gyda’u hanwyliaid.
Achub bywyd mewn llai na 60 eiliad
Achub bywyd mewn llai na 60 eiliad
Ailuno teuluoedd fel Nick, a fyddai, heb Ambiwlans Awyr Cymru, wedi colli’r cyfle i weld ei dair merch yn tyfu i fyny!
Ffyrdd eraill o’n cefnogi ni