Elusen Ambiwlans Awyr Cymru
Blychau Casglu Arian
Gofynnwch am flwch casglu gan yr elusen ac achub bywydau ledled Cymru!
Sut ydw i’n talu yn fy rhodd?
- Pan fydd eich blwch yn llawn, neu ar ôl chwe mis, pa un bynnag sy’n dod gyntaf, cyfrifwch y rhoddion a thalu’r arian i’ch cyfrif eich hun.
- Pan fydd yr arian yn eich cyfrif, gallwch ei roi i ni ar-lein, ffonio ein tîm codi arian i dalu dros y ffôn ar 0300 0152 999 neu anfon siec atom sy’n daladwy i Ambiwlans Awyr Cymru ynghyd â’ch manylion cyswllt a disgrifiad byr o’r rhodd.
- Yna byddwn yn anfon labeli diogelwch newydd atoch i’w rhoi’n ôl ar y blwch er mwyn i chi allu parhau i godi arian i ni.
Telerau ac Amodau Blychau Casglu Arian
- Gwnewch yn siŵr bod y blwch mewn lleoliad addas yn eich busnes neu’ch sefydliad. Rhaid iddo fod yn amlwg i’r cyhoedd a rhaid ei ddiogelu â chadwyn pan fo’n bosibl.
- Os na fydd y blwch yn cael ei oruchwylio drwy’r amser, rhaid defnyddio’r gadwyn ynghlwm i’w ddiogelu.
- Rhaid i’r blychau casglu arian gael seliau di-dor. Bydd y rhain yn cael eu darparu gyda’r blwch a byddan nhw’n cael eu hailgyflenwi drwy’r post.
- Rhaid gwagio’r blwch pan fydd yn llawn neu bob chwe mis (pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf), a rhaid cyflwyno pob rhodd i Ambiwlans Awyr Cymru. Os oes angen seliau newydd, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio’r ffurflen dalu ar-lein neu ein ffonio.
- Dylai dau berson (dros 18 oed) fod yn bresennol wrth ddadselio’r blwch a chyfri’r rhoddion.
- Ar ôl cyfri’r arian, dylech ei dalu i’ch cyfrif eich hun cyn ei drosglwyddo i’r elusen drwy un o’r dulliau canlynol: a) Llenwi ein ffurflen dalu b) Ffonio ein tîm codi arian i dalu dros y ffôn ar 0300 0152 999 c) Anfon siec atom sy’n daladwy i Ambiwlans Awyr Cymru ynghyd â’ch manylion cyswllt, lleoliad y blwch casglu arian, a’r gofyniad am seliau newydd.
- Rhaid cyflwyno’r holl roddion a gesglir yn llawn i Ambiwlans Awyr Cymru. Ni ellir gwneud unrhyw ddidyniadau ar gyfer treuliau na ffioedd.
- Bydd yr holl roddion a dderbynnir gan yr elusen yn cael derbynneb lawn.
- Os yw’r blwch yn cael ei golli neu ei ddwyn, neu os ydych chi’n credu bod rhywun yn ymyrryd â’r cynnwys mewn unrhyw ffordd, rhaid i chi gysylltu ag Ambiwlans Awyr Cymru ar unwaith a rhoi gwybod i’r heddlu lleol cyn gynted â phosibl. Peidiwch ag ymyrryd â’r blwch na thorri’r sêl, ac eithrio wrth gyfrif arian gyda thyst yn bresennol.
- Rhaid dychwelyd pob blwch casglu arian i’r elusen pan nad yw’n cael ei ddefnyddio mwyach neu os yw’r elusen yn gofyn am ei ddychwelyd.
Y gwahaniaeth y gall newid bach ei wneud