Strategaeth a Llywodraethu
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen gofrestredig sy’n cael ei llywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod yr Elusen yn cyflawni ei hamcanion ac yn cydymffurfio â’r holl ofynion rheoleiddiol a’r arferion gorau.
Mae’r Bwrdd yn pennu strategaeth tymor hir yr Elusen, yn cymeradwyo’r cynllun busnes a’r gyllideb flynyddol, ac yn dirprwyo’r gwaith o reoli’r Elusen o ddydd i ddydd i’r Prif Weithredwr a’r Uwch Dîm Rheoli.
Mae pob un o’n hymddiriedolwyr yn wirfoddolwyr, maen nhw’n rhoi eu hamser a’u harbenigedd i helpu i redeg yr Elusen ac yn cael eu dewis am eu gallu i wneud cyfraniad effeithiol i’r gwasanaeth.
Mae cyfrifoldebau penodol yn cael eu dirprwyo i bum pwyllgor sy’n adrodd yn ôl i’r Bwrdd bob chwarter. Maen nhw’n cynnwys o leiaf ddau Ymddiriedolwr, ac mae un ohonyn nhw’n cael ei ethol yn Gadeirydd, ac aelod o’r Uwch Dîm Rheoli. Y pum pwyllgor yw Adnoddau Dynol a Datblygu’r Sefydliad, Cyllid, Tâl, Hedfan ac Iechyd a Diogelwch.
Sut mae ein Hymddiriedolwyr yn helpu’r Elusen?
- Diogelu sefydlogrwydd hirdymor yr elusen drwy wneud yn siŵr bod digon o gronfeydd ariannol.
- Sicrhau cydymffurfiaeth. Mae’r Ymddiriedolwyr yn gyfreithiol gyfrifol am yr Elusen ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn cydymffurfio ac yn bodloni rheoliadau.
- Maen nhw’n dod ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiad, gan gynnwys ym maes clinigol, cyllid, llywodraethu, cyfreithiol, codi arian ac adnoddau dynol, i enwi ond ychydig.
- Mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rheolaidd i adolygu a chyfarwyddo strategaeth, cyllideb a pherfformiad yr Elusen. Mae rhai materion wedi’u cadw i gael eu cymeradwyo gan y Bwrdd, gan gynnwys newidiadau i’r strategaeth a’r gyllideb.