Hyfforddeion PHEM
Mae ein Hyfforddeion PHEM (Pre-Hospital Emergency Medicine) yn feddygon ar lefel cofrestrydd sy’n ymgymryd â hyfforddiant mewn meddygaeth frys cyn-ysbyty a gallant gael eu goruchwylio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan ddarparu’r un ymyriadau â meddyg ymgynghorol EMRTS.
Mae’r rhaglen hyfforddi PHEM yn gyfle i hyfforddi meddygon gradd mewn Meddygaeth Frys, Anaesthesia, Meddygaeth Gofal Dwys neu Feddygaeth Fewnol Acíwt i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol mewn Meddygaeth Frys Cyn-Ysbyty o fewn gwasanaethau clinigol a gefnogir yn broffesiynol ac a lywodraethir yn dda. Mae’n targedu’r unigolion hynny sydd â dyheadau gyrfa hirdymor ym maes Gofal Brys Cyn-ysbyty. Ar ôl cwblhau’r rhaglen hyfforddi yn llwyddiannus, rhoddir achrediad arbenigol mewn Meddygaeth Frys Cyn-Ysbyty
Dyma beth sy’n rhan o’r hyfforddiant…
Yn ystod rhaglen hyfforddi amser llawn 12 mis, mae hyfforddeion yn gwneud mis ar Gam 1a o’r rhaglen, sy’n cynnwys mynychu’r cwrs cynefino cenedlaethol yn ogystal â hyfforddiant cynefino lleol. Yna, bydd yn cwblhau pum mis o hyfforddiant Cam 1b gyda lefel uchel o oruchwyliaeth gan feddyg ymgynghorol. Ar ôl gorffen yr asesiad “cwblhau” Cam 1 lleol, gall hyfforddeion wedyn ddarparu gofal critigol llawn cyn-ysbyty o dan oruchwyliaeth meddyg ymgynghorol o bell gan arwain y timau EMRTS ar ddyletswydd ddydd a nos a darparu gofal critigol llawn cyn-ysbyty gyda goruchwyliaeth o bell trwy gydol Cam 2.
Mae’r hyfforddeion yn gweithio ar draws ein holl ganolfannau, gan ennill profiad ‘system gyfan’ ym maes ymarfer gofal critigol cyn-ysbyty. Mae hyfforddeion hefyd yn elwa o bartneriaethau agos â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, y Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol i Oedolion (ACCTS Cymru), Rhaglenni Meddygaeth Frys Cymunedol rhanbarthol, ac asiantaethau ymateb brys eraill i gael profiad o holl waith PHEM.
Mae hyfforddiant PHEM yng Nghymru yn cynnig cyfle unigryw i brofi cymysgedd o arferion PHEM mewn cyd-destunau gwledig a threfol o fewn system genedlaethol y Gwasanaeth Iechyd sy’n darparu gofal o’r radd flaenaf i bobl Cymru.
Cymrodyr Clinigol
Mae ein cymrodyr clinigol yn feddygon iau sy’n chwilio am brofiad mewn gofal cyn-ysbyty fel rhan o swydd yn gweithio mewn ysbyty lleol.
Mae’r rhaglen gymrodoriaeth wedi’i chynllunio ar gyfer clinigwyr sydd eisiau gwella eu sgiliau clinigol a’u gwybodaeth am feddygaeth gofal critigol.
Yn y rhan fwyaf o achosion, pan fydd cymrodyr clinigol yn gweithio ochr yn ochr â thîm dan arweiniad CCP, rhaid iddynt weithio o fewn cwmpas ymarfer y tîm CCP. Dim ond wrth weithio ochr yn ochr â meddyg ymgynghorol EMRTS y gallant weithredu yn yr holl faes ymarfer.
Cymrodyr Ymarferwyr Gofal Critigol
Mae’r rhaglen Cymrodoriaeth Ymarferwyr Gofal Critigol (CCPF) yn rôl ddatblygu sy’n galluogi cymrodyr i weithio ochr yn ochr â thimau gofal critigol am gyfnod o 12 mis, gan ennill profiad gwerthfawr a gwella gwybodaeth a sgiliau mewn meddygaeth cyn-ysbyty a throsglwyddo.
Mae’r CCPF yn rôl wirfoddol, gan weithio tua 24 shifft (yn ddelfrydol 2 y mis) ar blatfformau trafnidiaeth ar y ffyrdd ac yn yr awyr.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i roi cyfle i’r clinigwyr hynny nad oes ganddynt y cymwysterau neu’r profiad angenrheidiol o weithio yn yr amgylchedd hwn eto. Mae’r rôl yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr brwd i’ch galluogi i loywi eich gwybodaeth mewn gofal critigol drwy gael profiad o ddigwyddiadau difrifol.
Trwy gydol y gymrodoriaeth, dwi wedi bod yn lwcus i gael mynd i amrywiaeth o achosion meddygol a thrawma ac ymwneud â throsglwyddiadau rhwng ysbytai. Dwi wedi cael y pleser o weithio ochr yn ochr â pheilotiaid, CCPs a meddygon profiadol.
Jo Thomas, Critical Care Practitioner Fellow