Rhoddion mewn Ewyllysiau
Gadewch i’ch gwaddol fyw ymlaen drwy achub bywyd rhywun arall…
Bydd Ewyllys yn gwneud amser anodd ychydig yn haws i’r rhai o’ch cwmpas. Rydyn ni’n gobeithio, ar ôl gofalu am eich anwyliaid, y byddwch hefyd yn meddwl amdanom ni.
Rydyn ni’n dibynnu ar eich cefnogaeth i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae rhoddion mewn Ewyllysiau yn ffynhonnell incwm allweddol i ni ac maen nhw wedi ariannu un o’n pedwar hofrennydd yn ystod y deuddeg mis diwethaf.
Drwy adael Rhodd i’n helusen rydych chi’n ein galluogi i achub bywydau. Rydych chi’n helpu’r rhai mewn angen pan fydd ei angen fwyaf arnyn nhw gan roi dyfodol iddyn nhw. Am waddol i’w adael.
Does dim rhaid i chi ddweud wrthym a ydych chi’n bwriadu gadael rhodd i ni, ond bydden ni wrth ein bodd yn dweud diolch a dangos i chi sut y gallai eich rhodd gael ei defnyddio. Os byddwch chi’n penderfynu gadael rhodd i ni yn eich Ewyllys, rydyn ni’n addo ei defnyddio’n ystyriol ac yn effeithiol, gan sicrhau bod eich gwaddol yn parhau.
Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am unrhyw rodd a gawn a fydd yn ein galluogi i barhau i achub bywydau ledled Cymru.
Mae’n hawdd gadael rhodd yn eich Ewyllys