Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Ein Cefnogi Ni

Rhoi Heddiw

Mae eich haelioni a’ch cefnogaeth yn achub bywydau. Mae gennych chi’r pŵer i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd drwy roi rhodd rheolaidd, rhoi rhodd fawr neu roi i elusen er cof am anwyliaid. Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn barhau i ddarparu gwasanaeth meddygol brys o’r radd flaenaf i bobl Cymru cyn iddyn nhw fynd i’r ysbyty.

Rhoi’n Rheolaidd

Rydych chi’n dibynnu arnom ni i’ch helpu chi neu’ch anwyliaid ar ddiwrnod gwaethaf eu bywyd, ond rydyn ni’n dibynnu ar eich cefnogaeth chi i wneud yn siŵr ein bod yn gallu parhau i fod yno os bydd ein hangen arnoch chi.

Mae eich cefnogaeth barhaus yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac achub bywydau.

Rhoi rhodd reolaidd

Rhoi er cof

Os yw ein gwaith wedi effeithio’n uniongyrchol ar eich anwyliaid neu os yw’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu yn cynrychioli achos sy’n agos at eu calon, mae rhoi er cof yn ffordd hyfryd i chi, eich teulu a’ch ffrindiau ddathlu eu bywyd a’u hanrhydeddu.

Dysgu mwy
A picture of a candle with a pretty glowing background.

Grantiau ac Ymddiriedolaethau

Mae Ymddiriedolaethau a Grantiau yn gyfranwyr hanfodol a gwerthfawr at Ambiwlans Awyr Cymru, gan ein helpu i barhau i ddarparu gofal meddygol neilltuol i achub bywydau pobl ledled Cymru.

Dysgu mwy

Rhoi’r rhodd o amser

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan allweddol o Ambiwlans Awyr Cymru. Maen nhw’n ddarparu gwybodaeth, sgiliau a chymorth ychwanegol i gefnogi’r elusen, boed hynny drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian cymunedol, helpu yn ein siopau neu gasglu blychau rhoi i elusen.

Dysgu mwy
Volunteers talking in a group smiling looking away from camera

Gadael Rhodd yn eich Ewyllys

Bydd Ewyllys yn gwneud amser anodd ychydig yn haws i’r rhai o’ch cwmpas. Rydyn ni’n gobeithio, ar ôl gofalu am eich anwyliaid, y byddwch hefyd yn meddwl amdanom ni.

Gadael Rhodd mewn Ewyllys
Critical care practitioner holding the hand of a young boy with their backs to us walking away.

Cymryd rhan mewn digwyddiad

Mae gennym amrywiaeth o heriau a digwyddiadau cymunedol ac mae eich ymroddiad a’ch brwdfrydedd i godi arian yn ein galluogi i achub bywydau.

Tarwch olwg ar ein digwyddiadau

Ymunwch â’n Loteri Achub Bywyd

By entering the Lifesaving Lottery, you aren’t just donating to a worthwhile cause – you could win a cash prize too!