Darparu gofal meddygol manwl sy’n achub bywydau pobl ledled Cymru, pryd bynnag a ble bynnag y bo angen.
Pwy Ydym Ni
Darparu gofal meddygol manwl sy’n achub bywydau pobl ledled Cymru, pryd bynnag a ble bynnag y bo angen.
Eich elusen achub bywyd lleol
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gofal meddygol manwl sy’n achub bywydau ledled Cymru 24/7.
Ni yw’r unig elusen ambiwlans awyr sydd wedi’i lleoli yng Nghymru ac sy’n benodol i bobl Cymru. Rydym yn dibynnu’n llwyr ar eich rhoddion elusennol i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr a fflyd o gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
Ffurfiwyd yr Elusen ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth 2001 ac mae’n gweithredu o ganolfannau ledled Cymru. Ers ein sefydlu, rydym wedi cyflawni dros 50,000 o deithiau ac rydym bob amser yn barod i helpu’r rheini sydd wedi dioddef anaf neu salwch sy’n peryglu eu bywyd.
Mae ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu trwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Adfer a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu ymgynghorwyr GIG ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.
Gyda chanolfannau ledled Cymru, gall y criw medrus iawn gynnal triniaethau meddygol a fyddai fel arfer dim ond yn bosib mewn lleoliad ysbyty. Gallant ddarparu trallwysiadau gwaed, gweinyddu anesthesia ac ymgymryd â llawdriniaethau brys ar y safle, cyn mynd â’r claf yn uniongyrchol i ofal arbenigol. I’r claf, gall hyn olygu ei fod wedi cael y driniaeth briodol sawl awr yn gynt na gofal safonol.
Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal brys sy’n achub bywydau.
Rydyn ni yno i bobl Cymru, pryd bynnag a ble bynnag y bo angen.
Ein Cenhadaeth
Ein Gweledigaeth
Gwella bywydau cleifion a’u teuluoedd, trwy fod yn arweinydd byd-eang mewn gofal manwl sy’n amser-gritigol.
We can’t save lives without you
Rydym yn dibynnu’n llwyr ar eich rhoddion elusennol i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Hebddoch chi, ni fyddem yn bodoli.
£2,900
Cost fras un genhadaeth (cyfuniad o mewn awyr a cherbyd ymateb cyflym).
£1,950
Cost dim ond un helmed criw.
£195
Y gost i ‘gymryd i ffwrdd’.
£48
Tanysgrifiad wythnos i feddalwedd cynllunio hedfan hanfodol.
£31
Awr o gymorth ôl-ofal.
Achub bywydau heddiw
Achub bywydau heddiw
Mae eich rhoddion yn ailuno teuluoedd â’u hanwyliaid, ac yn rhoi dyfodol i’n cleifion.
Gallwch achub bywyd heddiw, mewn llai na 60 eiliad.
Ein Gwerthoedd
Ymddiriedaeth
Rydym yn gweithredu gydag integriti digyfaddawd ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud.
Angerdd
Rydym yn ymrwymo’n llwyr i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru ac yn credu ym mhopeth rydym yn ei wneud a’i ddweud.
Uchelgeisiol
Rydym yn edrych y tu hwnt i’r presennol i ddarparu gwerth yn y dyfodol.
Cyfrifol
Rydym yn credu’n gryf mewn gwneud y peth iawn a chymryd perchnogaeth am ein gweithredoedd a’n canlyniadau.
Cwestiynau Cyffredin
Sut ydw i'n gwneud rhodd?
Diolch am ddewis cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch dalu yn eich rhoddion, o dalu dros y ffôn, siec, ar-lein neu drwy drosglwyddiad BACS. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.
Alla i gyfrannu eitemau ac arian yn unrhyw safle Ambiwlans Awyr Cymru?
Gellir mynd â rhoddion i unrhyw un o’n siopau a chanolfan awyr Dafen. Fodd bynnag, ni allwch fynd ag eitemau na rhoddion i ganolfan Caerdydd, y Trallwng na Chaernarfon.
Dwi am godi arian i chi – sut ydw i'n mynd ati i wneud hyn?
Diolch am ddewis ein cefnogi, byddem wrth ein bodd i chi ymuno â’n tîm o godwyr arian. Mae yna ddigon o ffyrdd o gymryd rhan, o drefnu digwyddiad, cymryd rhan yn un o’n digwyddiadau neu ymgymryd â her bersonol. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i roi gwybod i’n tîm codi arian am eich codi arian fel y gallwn eich cefnogi ar hyd y ffordd.
Beth yw amseroedd agor eich siopau a'ch canolfan rhoddion?
Mae ein siopau ar agor rhwng 9:30am a 4:30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac eithrio’r Fenni sydd hefyd ar gau ar ddydd Iau.
Mae’r ganolfan rhoddion yng Nghwmdu ar agor rhwng 10:30am a 3:30pm ar gyfer gollwng rhoddion.
Pa eitemau y mae siopau yn eu cymryd?
Efallai nad ydych chi eisiau gwisgo’r gôt y gwnaethoch ei phrynu’r gaeaf diwethaf ddim mwy, neu nad ydych chi’n hoffi’r bwrdd yn eich cegin, ond mae siawns y bydd rhywun arall yn eu hoffi. Felly, beth am roi bywyd newydd iddyn nhw a’u trawsnewid yn arian a fydd yn achub bywydau.
Yn anffodus, mae rhai eitemau na allwn eu derbyn, gellir dod o hyd i restr lawn o’r rhain yma.
Ydych chi'n casglu rhoddion?
Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu am ddim ar gyfer eitemau dodrefn mawr. Darganfyddwch fwy yma.
A fyddwch chi'n casglu dillad ac eitemau bach?
Yn anffodus, nid ydym yn gallu casglu eitemau bach a dillad. Fodd bynnag, gallwn gasglu dodrefn mawr yn rhad ac am ddim.
Beth os yw ein blwch casglu yn llawn?
Pan fydd eich blwch casglu yn llawn, cwblhewch y ffurflen dalu hon. Fel arall, cysylltwch â enquiries@walesairambulance neu ffoniwch 0300 0152 999.
A yw canfaswyr yn mynd allan o ddrws i ddrws ar ran yr Elusen mewn ardaloedd penodol?
Ydyn, ond dim ond i hyrwyddo’r Loteri Achub Bywyd. Mae canfaswyr yn dilyn cod ymddygiad moesegol llym, ac argymhellir eu bod ond yn curo ar ddrysau rhwng 10am ac 8pm (er bod y gyfraith yn eu caniatáu i guro drysau rhwng 9am a 9pm).
Ein fflyd
Mae pob rhodd rydych chi’n ei wneud yn ariannu ein fflyd. Tarwch olwg fanylach ar ein hofrenyddion a’n cerbydau ymateb cyflym.
Ein Fflyd