Canfaswyr y Loteri
I’n helpu i godi arian hanfodol drwy’r Loteri Achub Bywydau, mae gennym ganfaswyr sy’n recriwtio pobl i chwarae’r loteri. Mae ein canfaswyr yn ymgysylltu â’r cyhoedd, yn rhannu ein cenhadaeth, ac yn annog cefnogwyr i gofrestru am y cyfle i ennill bob wythnos. Mae’r canfaswyr i’w gweld mewn archfarchnadoedd, mewn digwyddiadau ac yn mynd o ddrws i ddrws ledled Cymru.
Mae pob tocyn sy’n cael ei werthu yn ein helpu i achub bywydau, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.
Adnabod Canfaswyr y Loteri
Mae modd adnabod y canfaswyr sy’n gweithio i ni drwy eu dillad coch a’u bathodyn ID.
Ar hyn o bryd mae chwaraewyr y loteri yn cael yr opsiwn i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu siec. Ni fyddwn yn gofyn i chi am arian parod, nac yn derbyn arian parod, pan fyddwn yn gofyn i chi ymuno â’r loteri.
Mae canfaswyr yn dilyn cod ymddygiad moesegol llym, ac argymhellir eu bod ond yn curo ar ddrysau rhwng 10am ac 8pm. Maen nhw’n gwneud hyn er bod y gyfraith yn caniatáu iddyn nhw guro drysau rhwng 9am a 9pm.
Mae canfaswyr y loteri yn recriwtio chwaraewyr loteri YN UNIG a dydyn nhw ddim yn derbyn unrhyw fathau eraill o roddion, gan gynnwys rhoddion ariannol.
Canfaswyr y Loteri
Ymunwch â’n tîm o ganfaswyr!
Rydyn ni’n chwilio am unigolion llawn cymhelliant, ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â’n tîm o ganfaswyr fel codwyr arian sy’n cael eu talu i fynd o ddrws i ddrws neu i safleoedd preifat.
Mae’r manteision yn cynnwys y potensial i ennill cyflog heb ei gapio, cyfle i ddewis eich oriau gwaith eich hun, ac yn y broses, codi arian ar gyfer ein helusen sy’n achub bywydau.
Darperir hyfforddiant i adeiladu’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch er mwyn denu aelodau o’r cyhoedd i gefnogi ein loteri wythnosol lwyddiannus.
Gofynion y Swydd:
- Ymrwymiad
- Prydlondeb
- Sgiliau Cymell
- Brwdfrydig
- Rhaid bod â phersonoliaeth hyderus, egnïol, ac uchelgeisiol
- Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, ond mae parodrwydd i ddysgu yn hanfodol
Manteision:
- Gweithio’n agos at adref ac mewn ardaloedd o’ch dewis
- Hyfforddiant a chefnogaeth barhaus
- Dewis eich oriau gwaith eich hun, a gweithio o amgylch eich bywyd personol
- Oriau rhan-amser neu lawn amser ar gael
- Cael eich talu’n wythnosol am y gwaith rydych chi’n ei wneud yn uniongyrchol i’ch cyfrif
- Gwerthu drwy berswâd ysgafn oherwydd yr ymateb anhygoel i Ambiwlans Awyr Cymru
I gael rhagor o fanylion am y swydd a sut i wneud cais, cysylltwch â’n Rheolwr Cyfrifon, Mark Harris, ar 07541 622196 neu anfon e-bost at mark.harris@towerlotteries.co.uk