Drysu rhwng Elusennau
Ambiwlans Awyr Cymru yw’r unig wasanaeth ambiwlans awyr sydd wedi’i leoli yng Nghymru ac sy’n ymroddedig i Gymru, ac mae’n mynd at gleifion ledled Cymru, o fabanod newydd-anedig i oedolion.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu rhywfaint o ddryswch ynglŷn â gweithgareddau codi arian elusen o’r enw ‘Children’s Air Ambulance’ (CAA), sydd hefyd yn defnyddio’r enw ‘The Air Ambulance Service’ (TAAS). Rydyn ni’n cael ymholiadau gan ein cefnogwyr yn rheolaidd yn gofyn a yw’r elusen hon yn gysylltiedig ag Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae CAA/TAAS yn elusen gofrestredig yn Lloegr ac nid yw’n gysylltiedig ag Ambiwlans Awyr Cymru.
Ambiwlans Awyr Cymru yw’r unig wasanaeth ambiwlans awyr sydd wedi’i leoli yng Nghymru ac sy’n ymroddedig i Gymru, ac mae’n mynd at gleifion ledled Cymru, o fabanod newydd-anedig i oedolion.
Eglurhad:
- Os oes gennych amheuaeth, gwiriwch Rif Cofrestru’r Elusen bob amser. Rhif Cofrestru Ambiwlans Awyr Cymru yw 1083645.
- Dydy Ambiwlans Awyr Cymru ddim yn postio bagiau elusennol i’ch cartref.
- Dydyn ni byth yn mynd o ddrws i ddrws yn gofyn am roddion rheolaidd.
- Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru Ganfaswyr y Loteri Achub Bywydau sy’n mynd o ddrws i ddrws o bryd i’w gilydd yn hyrwyddo’r Loteri sydd gennym. Byddwch yn cofrestru â’r loteri drwy Ddebyd Uniongyrchol (ni fyddwn byth yn cymryd arian parod yn uniongyrchol gennych yn eich cartref).
- Maen nhw’n dilyn cod ymddygiad moesegol llym.
- Gallwch adnabod y canfaswyr sy’n gweithio ar ein rhan drwy eu dillad coch a’u bathodyn ID.
Bydd post marchnata gan Ambiwlans Awyr Cymru yn hawdd ei adnabod a bydd bob amser yn cynnwys ein rhif elusen gofrestredig – 1083645