Rhoi wrth ddathlu
Dathlwch eich achlysur arbennig drwy ofyn i’ch anwyliaid roi i elusen yn hytrach na rhoi anrhegion. Trwy ddewis cefnogi ein helusen ar eich pen-blwydd, mewn dathliad neu yn eich priodas, byddwch yn ein helpu i barhau i achub bywydau ledled Cymru. Anrheg hael iawn!
Dyma syniadau i’ch helpu chi i ddechrau arni!
Gofyn am roddion yn lle anrhegion
P’un a yw’n ben-blwydd, yn briodas neu’n ben-blwydd arbennig, gallech ofyn i’ch teulu a’ch ffrindiau am roddion yn hytrach nag anrhegion. Gallwch ofyn i’r rhoddion gael eu rhoi yn uniongyrchol i chi os ydych chi mewn parti neu ddigwyddiad, neu gallwch greu tudalen JustGiving sy’n ffordd syml ar-lein o olrhain rhoddion.
Mynd i Just Giving
Creu tudalen ar gyfer eich pen-blwydd ar Facebook
Mae’n hawdd codi arian ar eich pen-blwydd gan ddefnyddio nodwedd codi arian Facebook. Mae’r llwyfan yn gadael i chi greu tudalen pen-blwydd bwrpasol i chi yn unig. Gallwch ei rannu gyda’ch ffrindiau a bydd unrhyw arian a godir yn cael ei anfon yn uniongyrchol atom ni. Dilynwch y ddolen isod, mewngofnodi i Facebook, dewis ‘Fundraisers‘ ar ein tudalen Facebook a chlicio ‘Codi Arian/Raise Money.’
Codi arian ar eich pen-blwydd
Eich diwrnod arbennig
Mae llawer o gyplau yn dewis peidio â chael ffafrau priodas traddodiadol, a gwneud rhodd ar ran eu gwesteion yn lle. Gallwn ddarparu nodiadau diolch i’ch gwesteion i roi gwybod iddyn nhw eu bod yn cefnogi ein helusen sy’n achub bywydau. Yn amodol ar argaeledd, gallwch hefyd brynu bathodynnau pin i’w rhoi fel ffafrau priodas.
Os ydych chi eisiau gofyn i westeion am roddion yn hytrach nag anrhegion priodas, gallwn eich helpu i drefnu hyn.
Cysylltu â ni