Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Gofal Critigol Neilltuol

Mae’r elusen yn cael ei chyflwyno drwy bartneriaeth unigryw â’r Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus.

Rhoi Heddiw

Mae’r elusen yn cael ei chyflwyno drwy bartneriaeth unigryw â’r Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn cyflenwi ymgynghorwyr medrus iawn o’r GIG ac ymarferwyr gofal critigol sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Drwy gyflwyno EMRTS, ni oedd y gweithrediad ambiwlans awyr ymroddedig cyntaf yn y DU a oedd yn cael ei arwain gan ymgynghorwyr. Mae’r cynllun wedi ymrwymo i ddarparu’r gofal gorau cyn mynd i’r ysbyty ac uwchsgilio a denu meddygon a CCPs i fyw a gweithio yng Nghymru.

Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal brys sy’n achub bywydau.

Gall y criw medrus iawn roi triniaethau meddygol a fyddai ond ar gael mewn ysbyty fel arfer.

Mae ein cleifion wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, ac rydyn ni eisiau gwella bywydau ein cleifion drwy arwain y byd ym maes gofal uwch lle mae amser yn hanfodol.

Beth mae gofal critigol a meddygaeth frys cyn mynd i’r ysbyty yn ei olygu?

Cyfeirir ato weithiau fel meddygaeth gofal dwys. Mae gofal critigol yn arbenigedd meddygol sy’n delio â chleifion sy’n ddifrifol wael â salwch neu anaf sy’n peryglu eu bywyd neu rannau o’r corff.

I bob pwrpas, mae meddygon Ambiwlans Awyr Cymru yn dod â’r uned gofal dwys i’r claf – gan ddarparu ymyrraeth feddygol hanfodol i’r claf yn gynt a thu allan i amgylchedd yr ysbyty.

Mae meddygaeth frys cyn mynd i’r ysbyty (PHEM) yn faes gofal meddygol lle mae cleifion sy’n ddifrifol wael neu sydd ag anafiadau difrifol yn cael gofal critigol cyn cyrraedd yr ysbyty. Mae’n faes ymarfer meddygol unigryw sy’n gofyn am ddefnyddio ystod benodol o wybodaeth a sgiliau i lefel nad yw fel arfer ar gael y tu allan i’r ysbyty.

Medic in a real life simulation training and administering medical care.
Critical Care Practitioners moving a patient on the trolley in intense circumstances. (Simulation).

Beth yw tîm EMRTS?

Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu tîm gofal critigol medrus iawn sy’n cynnwys:

  • Meddygon Gofal Critigol (o gefndir meddygaeth frys, anaesthesia, a gofal dwys).
  • Ymarferwyr Gofal Critigol (CCPs) sy’n gyn-barafeddygon a nyrsys hyfforddedig iawn.

Mae dau brif weithgaredd yn y gwasanaeth, sef Casglu a Gofal Critigol Cyn Mynd i’r Ysbyty, ac mae’r ddau yn cael eu darparu gan dimau sy’n cynnwys Ymgynghorydd ac Ymarferydd Gofal Critigol.

Hefyd, bydd EMRTS yn darparu cymorth gofal critigol mewn digwyddiadau mawr a digwyddiadau lle mae nifer fawr o anafiadau.

EMRTS and Wales Air Ambulance attend the scene of seriously injured or ill patients requiring specialist care together with senior decision-making skills. The aim is to take the intensive care unit to the patient, providing rapid access to critical care interventions and safe transfer of critically ill or injured patients to an appropriate centre.

Healthcare facilities in Wales may request the support of a Critical Care Consultant and a Critical Care Practitioner to resuscitate, stabilise and safely transfer patients to definitive care. This includes hospitals, urgent care facilities, GP practices and Midwife Lead Units and is for patients of all ages who have life threatening illnesses or injuries.

Sut mae’n gweithio?

Mae’r tîm o glinigwyr gofal critigol yn gweithio 24 awr y dydd ar ein fflyd i ddarparu gofal critigol neilltuol i’r rhai mewn sefyllfa sy’n peryglu eu bywyd neu rannau o’u corff. Maen nhw’n rhoi triniaethau meddygol a fyddai fel arfer ar gael mewn ysbyty yn unig, fel trallwysiadau gwaed, gweinyddu anaesthesia, a gwneud mân lawdriniaethau.

Diolch i’w lefel uwch o sgiliau gwneud penderfyniadau, maen nhw’n gallu mynd â chleifion yn uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu hanafiadau – gall hyn fod yng Nghymru neu mewn canolfannau arbenigol yn Lloegr – a gall hyn olygu eu bod yn arbed oriau yn cael y driniaeth briodol o’i gymharu â gofal safonol.

Byddech chi’n gweld yr un ymgynghorwyr mewn adran frys neu uned gofal dwys ysbyty. Maen nhw’n rhannu eu hamser rhwng shifftiau yn yr ysbyty a gydag Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n eu galluogi i gadw eu sgiliau a’u gwybodaeth yn gyfredol. Mae pob un ohonyn nhw wedi cael hyfforddiant ar roi meddygaeth frys cyn mynd i’r ysbyty.

Mae’r ymarferwyr gofal critigol sy’n ymuno ag EMRTS yn glinigwyr profiadol o gefndir parafeddyg neu nyrsio, ond mae’n ofynnol iddyn nhw ddechrau a chwblhau rhaglen hyfforddi EMRTS i ymarferwyr gofal critigol o hyd, sy’n cynnwys ennill gradd meistr mewn Gwasanaethau Brys Meddygol Hofrennydd.

Fel gwasanaeth Cymru gyfan gyda dim ond pum tîm yn gweithredu dros gyfnod o 24 awr ledled y wlad, rydyn ni’n adnodd prin ac arbenigol iawn. Felly, waeth ble mae’r criwiau ymroddedig wedi’u lleoli, byddan nhw’n teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywydau brys.

Rydyn ni’n ffodus i weithio ochr yn ochr â llawer o wasanaethau brys nodedig, ac un ohonyn nhw yw Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Mae ein gwasanaeth yn ychwanegol at Wasanaeth Ambiwlans Cymru, ac nid yw yn ei ddisodli. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ambiwlans ffordd wedi cyrraedd o’n blaenau.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS?

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ariannu’r seilwaith gweithredol i fynd â thîm o glinigwyr gofal critigol at glaf. Mae’r arian hael a roddir gan y cyhoedd yn talu am yr hofrennydd, cerbydau ymateb cyflym, peilotiaid, tanwydd, canolfannau a pheirianwyr.

Mae EMRTS, sy’n rhan o GIG Cymru, yn gyfrifol am gyflenwi’r staff a’r gwasanaethau clinigol, staff cymorth y GIG ac offer meddygol.

Rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (WAAC) a GIG Cymru, mae’r gwasanaeth ambiwlans awyr yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth ar gyfer pobl Cymru.

Mae EMRTS ac Ambiwlans Awyr Cymru yn ariannu’r Gwasanaeth Ôl-ofal ar y cyd, cliciwch yma i ddysgu mwy.

Cymorth Ôl-ofal
Someone holding the patient guide which has a picture of the patient nurse hugging a past patient