Hedfan yn y nos
Gwasanaethu Cymru, achub bywydau, 24 awr y dydd
Ym mis Rhagfyr 2021, dechreuom ddarparu gwasanaeth 24 awr gan weithio dros nos o’n canolfan yng Nghaerdydd rhwng 7pm a 7am.
Ein gweledigaeth bob amser oedd darparu gwasanaeth 24/7 i bobl Cymru, ac ym mis Rhagfyr 2021 fe wnaethom gyflawni’r nod hwnnw. Gwnaethom lansio gwasanaeth 24/7 o’n canolfan yng Nghaerdydd a hynny diolch i’ch rhoddion hael chi.
Yn flaenorol, roedd y gwasanaeth ar waith 12 awr y dydd, rhwng 8am ac 8pm. Roedd hynny’n golygu nad oeddem yn gallu rhoi cymorth i gleifion a oedd angen gofal critigol ar ôl 8pm.
Nodwyd yr angen am wasanaeth dros nos yn dilyn ymchwil fanwl i argyfyngau lle’r oedd bywydau mewn perygl a ddigwyddodd y tu allan i oriau gwaith arferol y gwasanaeth rhwng 7am a 8pm. Dros gyfnod o 12 mis, roedd tua 990 o achosion ‘heb eu diwallu’ gyda’r galw mwyaf yn Ne-ddwyrain Cymru.
Nawr, a ninnau’n wasanaeth 24/7, gallwn gyrraedd mwy o gleifion bob blwyddyn.
Helpwch ni i ddal ati i hedfan drwy’r nos!
Ffeithiau am Hedfan yn y Nos
Mae yna heriau unigryw sy’n gysylltiedig â hedfan yn y nos. Dyma rai ffeithiau:
Ar ôl 7pm
15 munud
Google Earth
Risgiau
Ardal lanio
Goleuadau Chwilio
Gweld drwy’r Tywyllwch
Golau gwyn
Ar ôl 7pm
15 munud
Google Earth
Risgiau
Ardal lanio
Goleuadau Chwilio
Gweld drwy’r Tywyllwch
Golau gwyn
Ar ôl 7pm
15 munud
Google Earth
Risgiau
Ardal lanio
Goleuadau Chwilio
Gweld drwy’r Tywyllwch
Golau gwyn
Hedfan yn y Nos – Persbectif y Peilot
Fe wnaethon ni ofyn i’n Pennaeth Gweithrediadau Hedfan, James Grenfell, sut beth yw hedfan yn y tywyllwch.
“Ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Brys mewn Hofrennydd (HEMS), mae yna wahaniaeth sylweddol rhwng gweithio yn y dydd a’r nos. Mae diffyg gwelededd a phroblemau gweld gwifrau a rhwystrau yn un o lawer o beryglon rydym yn eu hwynebu yn y nos.
Ar gyfer teithiau golau dydd, pan fyddwn wedi nodi lleoliad y claf, rydym yn dewis safle glanio wrth hofran uwchben a chynnal recce. Fodd bynnag, yn y nos mae’r dasg hon yn llawer anoddach, felly rydym yn treulio mwy o amser cyn codi i’r awyr yn chwilio am y safle glanio cyntaf a safle wrth gefn. Dewisir safle glanio wrth gefn rhag ofn nad yw’n bosibl glanio yn y prif safle.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnal gwasanaeth aml-beilot yn y nos lle mae llawer o weithdrefnau a rheolau ar waith sy’n lliniaru llawer o heriau, ac yn sicrhau ein bod yn cadw pawb yn ddiogel.
Yn ogystal â bod yn beilot HEMS cymwys, mae gweithrediadau 24 awr yn gofyn am ddefnyddio NVG (Gogls Gweld yn y Nos) a chymhwyster aml-beilot. Rhaid gwneud oriau o hyfforddiant gyda’r Gogls Gweld yn y Nos ac archwiliadau blynyddol i sicrhau ein bod yn cyflawni’r lefel o brofiad a’r cymwysterau gofynnol.
Mae ein canolfannau peilot sengl hefyd yn hedfan yn y nos, ond dim ond y rheini sydd â rôl aml-beilot sy’n cael glanio mewn lleoliad HEMS. Er mwyn glanio’n ddiogel yn y nos, mae ein peilotiaid yn chwilio am safleoedd glanio tua 30 metr wrth 60 metr.
Mae’r Gogls Gweld yn y Nos yn anhygoel (ond yn ddrud iawn). Rydym yn eu defnyddio i’n galluogi i lanio ar y safle yn ystod y nos.
Serch hynny, peidiwch â chael eich camarwain gan yr hyn a welwch mewn ffilmiau, nid yw’n troi’r nos yn ddydd! Ond mae’n helpu ni i weld pethau’n gliriach. Mewn gwirionedd, mae’r Gogls Gweld yn y Nos yn canolbwyntio ar unrhyw olau sy’n bresennol ac yn ei ymhelaethu, gan roi gwell ymwybyddiaeth i’r peilotiaid o’r hyn sydd o’u cwmpas.
Dydyn nhw ddim yn berffaith ac ar nosweithiau tywyll iawn, lle mae’r golau amgylchynol yn brin mewn ardaloedd gwledig, mae’r llwyth gwaith yn cynyddu’n sylweddol.
Yn ogystal â’r Gogls Gweld yn y Nos, rydym yn defnyddio systemau eraill ar yr hofrennydd fel systemau adnabod tirwedd, systemau rheoli hedfan a meddalwedd mapio. Er enghraifft, mae ceisio adnabod gwifrau drwy’r NVG bron yn amhosibl, ond trwy ddefnyddio holl systemau’r hofrennydd, ynghyd â’r hyfforddiant a’r profiad sydd gan ein peilotiaid, rydym yn sicrhau ein bod yn cynnal pob taith yn y ffordd fwyaf diogel posibl ac yn cludo meddygon Ambiwlans Awyr Cymru i’r cleifion mwyaf sâl, lle bynnag y maen nhw yng Nghymru.”
Stori David
Mae tad o Sir Benfro yn un o nifer o gleifion sydd wedi elwa o’r gwasanaeth 24/7
Roedd David Davies o Sir Benfro, sy’n dad i dri o blant, yn paratoi i fynd i’r gwely pan lewygodd a dioddef ataliad ar y galon. Roedd ei wraig Taryan a’i fab Caleb, a oedd yn 18 ar y pryd, wedi cyflawni CPR ar David wrth aros i ambiwlans gyrraedd.
Darllen mwy
Pan gyrhaeddodd y parafeddygon, roedd rhythm calon David yn curo’n annarferol iawn. Roedd y parafeddygon wedi parhau gyda’r CPR, ac wedi rhoi dwy sioc iddo. Llwyddodd yr ail sioc i ddod â’i galon yn ôl i rythm arferol.
Pan gyrhaeddodd hofrennydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gyda’i dîm gofal critigol dros nos, roedd David yn dechrau dod at ei hun, ond roedd wedi cynhyrfu ac nid oedd yn anadlu’n effeithiol. Fe wnaethon nhw ei asesu’n gyflym a chanfod bod ei lefelau ocsigen yn isel ac roedd angen help arno i anadlu.
Fe wnaethon nhw roi anesthetig cyffredinol iddo ac yna ei roi ar beiriant anadlu i’w helpu i anadlu. Dyma driniaeth gymhleth ac amser-gritigol ac ni fyddai’n bosib y tu allan i amgylchedd ysbyty oni bai am Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’n un o lawer o driniaethau safonol adrannau brys y mae’r Elusen bellach yn gallu eu darparu yn y fan a’r lle – gan wella’r siawns o oroesi ac adferiad.
Yna cafodd y cynorthwyydd cymorth dysgu yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd lawdriniaeth i osod tri stent a’i ryddhau o’r ysbyty ychydig ddyddiau’n ddiweddarach.
Dywedodd David: “Bydda i’n ddiolchgar am weddill fy mywyd i’r gwasanaeth ambiwlans ac Ambiwlans Awyr Cymru am eu gwaith ac am fynd â fi i’r ysbyty mor gyflym. Rwy’n gwerthfawrogi popeth maen nhw wedi’i wneud i mi. Heblaw amdanyn nhw, fyddwn i ddim yma heddiw.”
Mae stori Dai yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael gwasanaeth ambiwlans awyr sy’n rhedeg drwy’r dydd a’r nos.
Mae Jo Yeoman yn nyrs cyswllt cleifion sy’n gweithio mewn partneriaeth ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Dywedodd: “Mae stori David yn dangos y gadwyn hanfodol i oroesi, o CPR, diffibriliad ac yna gofal critigol. Roedd Taryan a Caleb yn anhygoel ac roedd y gwaith partneriaeth rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a meddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi sicrhau bod David yn cael y gofal gorau posib cyn cyrraedd yr arbenigwyr yn Ysbyty Treforys.”