Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Arian segur

Rhoi Heddiw

Gallai eich rhodd sicrhau bod y rhai mewn sefyllfa sy’n peryglu eu bywyd neu rannau o’u corff yn cael gofal critigol neilltuol yn unrhyw le yng Nghymru, gan roi’r siawns orau posibl iddyn nhw oroesi. Gallai helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd, gan fynd â’r adran achosion brys i’r claf. Neu gellid defnyddio’r arian i ddarparu cymorth i gleifion a’u perthnasau ar ôl digwyddiad sydyn a thrawmatig sy’n newid eu bywyd.

Fel elusen Cymru gyfan, rydyn ni’n dibynnu’n llwyr ar eich rhoddion hael i weithredu ein gwasanaeth.

Ym mis Mehefin 2024, fe wnaethom fynychu ein 50,000fed cenhadaeth.Mae meddygon ein cerbydau wedi helpu rhywun mewn angen 50,000 o weithiau.

Rydyn ni eisiau bod yno i bobl am flynyddoedd i ddod, a dyna pam rydyn ni mor ddiolchgar am roddion fel arian segur. Helpwch ni i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol, gyda’n gilydd gallwn wasanaethu pobl Cymru, ac achub bywydau.

Beth yw arian segur?

Mae ased segur yn gynnyrch ariannol, fel cyfrif banc, nad yw wedi’i gyffwrdd ers amser maith.

Pan fydd gan gwmni cyfreithwyr arian sy’n weddill gan gleient ac nad yw’n bosibl ei dalu i’r cleient, ystyrir ei fod yn segur. Caniateir i’r cwmni dynnu’r arian hwnnw a’i roi i elusen o’u dewis.

Helicopter flying into Cardiff airbase with sea in background

Tri cham i roi arian segur:

For balances over £500 you will need to inform the SRA’s form to apply to withdraw funds from the client account – you can find this form at sra.org.uk. To donate individual account balances up to £500, this step is not needed and you can go straight to step two.

Phone our Fundraising Team on 0300 0152 999 or email legacy@walesairambulance.com to tell us you have dormant funds to donate. We’ll send you an indemnity form together with our bank details.

Donate via bank transfer. Once we’ve received your donation you’ll get an acknowledgement from us, thanking you for your kind support.

Gwybodaeth bwysig:

Balansau hyd at £500

Fel arfer, gall cwmnïau roi balansau o £500 neu lai i elusen heb ofyn am gymeradwyaeth gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA), ar yr amod bod amodau penodol, fel y pennir gan yr SRA, yn cael eu bodloni.

Gweler Rheol 5.1© Rheolau Cyfrifo Cyfreithwyr i gael rhagor o fanylion.

Balansau dros £500

Ar gyfer balansau dros £500, mae’r SRA yn ei gwneud yn ofynnol llenwi ffurflen tynnu balansau gweddilliol cleientiaid a‘i dychwelyd i: professional.ethics@sra.org.uk neu Professional Ethics, SRA, The Cube, 199 Wharfside Street, Birmingham, B1 1RN neu DX720293 Birmingham 47.

Yr SRA yw’r rheoleiddiwr ar gyfer Cymru a Lloegr yn unig. Bydd rheolau eraill yn berthnasol mewn awdurdodaethau eraill.