Cerbydau Ymateb Cyflym
Yn ogystal â’n hofrenyddion, mae gennym fflyd o gerbydau ymateb cyflym; Volvo XC90s ac mae gan bob un ohonynt arwydd galw ei hunan.
Mae’r Elusen yn ariannu fflyd o wyth Volvo XC90. Mae rhai ohonynt wedi cael lifrai newydd ac yn cario’r un offer arloesol â’n hofrenyddion.
Pam bod gennym geir?
Gall y tywydd yng Nghymru fod yn anwadal iawn a gall hyn weithiau olygu nad yw ein hofrenyddion yn gallu hedfan. Mae ein fflyd o Gerbydau Ymateb Cyflym yn ein galluogi i gludo ein timau gofal critigol ar hyd y ffyrdd, gan sicrhau ein bod yn dal i ddarparu gofal trylwyr i gleifion pan fydd ei angen arnynt.
Mae’r Cerbydau Ymateb Cyflym hefyd yn cael eu defnyddio mewn digwyddiadau lleol lle byddai’n gyflymach i’r criw deithio mewn car nag mewn hofrennydd, neu ddigwyddiadau lle nad oes lle addas i hofrennydd lanio.
Yn dibynnu ar leoliad a natur y daith, ac yn ôl gwybodaeth y tîm ar shifft yn y Ganolfan Gofal Critigol yng Nghwmbrân, bydd y tîm gofal critigol yn penderfynu a yw’n well teithio i ddigwyddiad mewn hofrennydd neu mewn car.

Pa offer mae’r ceir yn ei gario?
Mae pob un o’n cerbydau ymateb yn cario’r un offer arloesol y byddech chi’n eu gweld yn ein hofrenyddion, sy’n golygu bod y gofal y mae’r claf yn ei dderbyn ar y safle yr un fath p’un ai hofrennydd neu gar sydd yno.
Does dim modd trosglwyddo cleifion mewn cerbyd ymateb cyflym, ond mae’r criw fel arfer yn teithio mewn ambiwlans ar hyd y ffordd gyda’r claf ar ôl ei sefydlogi ar y safle.
Mae tystiolaeth yn dangos bod cael ein clinigwyr ar y safle yn gwneud gwahaniaeth sy’n achub bywydau. Drwy weithio gyda’n cydweithwyr yn y gwasanaeth ambiwlans, mae modd cludo’r claf yn ddiogel i’r ysbyty.

Nodweddion Arbennig

Plygiau Gwefru Trydan
Caiff ei ddefnyddio i wefru’r offer meddygol sy’n dechrau’n awtomatig pan fydd yr injan ymlaen.

Gyriant Pedair Olwyn
Mae’r cerbydau’n ddigon uchel er mwyn gallu clirio dros bonciau arafu, cyrbau, tir garw ac arwynebau llithrig.

Digon o Le yn y Bŵt
Ar gyfer yr holl gyfarpar clinigol – addasiad pwrpasol ar gyfer ein timau.

Blue Lights and Emergency Lighting

High Seating Position for Good Visibility

Radio Systems to connect with the critical care hub

Good Performance, Ride and Handling
50% of all callouts via our rapid response vehicles
Yn fras, mae 50% o’r holl alwadau a dderbyniwn yn cael eu gwasanaethu gan ein cerbydau ymateb cyflym. Pan nad yw ein hofrenyddion yn gallu ymateb i ddigwyddiad, mae ein cerbydau ymateb cyflym yn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu’r un safon o ofal o’r radd flaenaf i’n cleifion.
Achubwyd bywyd Jack Howells, sy’n ddwy oed, gan feddygon Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl iddo ddioddef anaf trychinebus i’w ben. Gan fod cyflwr Jack mor ddifrifol, galwyd am gymorth Ambiwlans Awyr Cymru.
Roedd y tywydd garw y diwrnod hwnnw yn golygu bod y timau gofal critigol yn gorfod defnyddio fflyd o gerbydau ymateb cyflym yr Elusen, yn hytrach na’r hofrennydd. Derbyniodd Jack driniaeth ar y safle cyn cyrraedd yr ysbyty. Cafodd ddôs o anaesthesia a’i roi ar beiriant anadlu – ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb ein gwasanaeth ni, a dyma yn y pen draw a achubodd fywyd Jack.

Gwneud gwahaniaeth

‘Dyw llawer o bobl ddim yn sylweddoli bod Ambiwlans Awyr Cymru yn Elusen. Er ein bod ni wedi bod yn gefnogwyr ers blynyddoedd lawer, doedden ni erioed wedi dychmygu y byddai angen y gwasanaeth arnom un diwrnod ac y byddai’n achub bywyd ein bachgen bach.
Roedd eu gwaith yn amhrisiadwy.
Jess, mam Jack

Keep us on the road
Keep us on the road
Mae ein cerbydau ymateb cyflym cyn cynnig mwy o hyblygrwydd i ni fel y gallwn gyrraedd mwy o bobl sydd mewn angen. Gallwch helpu i gadw’r cerbydau hyn ar y ffordd drwy roi rhodd heddiw.