Meddygon yr Hofrennydd
Mae ein timau gofal critigol yn cynnwys cymysgedd o ymgynghorwyr gofal critigol ac ymarferwyr gofal critigol. Gyda’i gilydd, maen nhw’n darparu gofal critigol i gleifion cyn iddyn nhw fynd i’r ysbyty. Er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddi i’r rhai sy’n dymuno gweithio yn yr amgylchedd cyn-ysbyty, mae gennym hefyd raglenni cymrodoriaeth a hyfforddi, felly weithiau mae gan y tîm aelod ychwanegol o’r criw sy’n cael ei alw ‘y drydedd sedd’.
Mae pob tîm gofal critigol yn cynnwys o leiaf ddau glinigydd, gall hyn fod yn ddau ymarferydd gofal critigol neu’n neu’n un ymgynghorydd ac un ymarferydd gofal critigol.
Ymgynghorwyr Gofal Critigol
Mae ein hymgynghorwyr yn dod o gefndir meddygaeth frys, anaesthesia a gofal dwys. Mae eu rôl yn y gwasanaeth wedi’i gynnwys yng nghynllun swyddi presennol y GIG ochr yn ochr â’u gwaith yn yr ysbyty.
Mwy o wybodaeth
Ymarferwyr Gofal Critigol
Mae ein hymarferwyr gofal critigol (CCPs) yn dîm o ymarferwyr hyfforddedig iawn sydd wedi ymuno â’r gwasanaeth o gefndir parafeddyg neu nyrsio.
PHEM a Chymrodyr
Drwy gymysgedd o wahanol raglenni hyfforddi, gall meddygon a chlinigwyr hyfforddi gyda’n timau gofal critigol i wella eu sgiliau cyn-ysbyty.
Mwy o wybodaeth
Achub bywyd mewn 60 eiliad!
Achub bywyd mewn 60 eiliad!
Dim ond gyda’ch cefnogaeth chi y gall ein criw barhau i achub bywydau.