Os ydych chi’n barod i ddechrau trefnu eich digwyddiad codi arian, cymerwch eiliad i ddweud wrthyn ni beth rydych chi wedi’i gynllunio. Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed am yr hyn y mae ein cefnogwyr yn ei wneud i ni ac mae’n ein helpu i gynnig y gefnogaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnoch.
Codi arian i ni
Rydyn ni’n dibynnu ar eich cefnogaeth chi i ddarparu ein gwasanaeth ledled Cymru.
Mae codi arian yn ffordd wych o gadw ein hofrenyddion, tra’n cael hwyl a gwneud gwahaniaeth go iawn. P’un a ydych chi’n ymgymryd â her bersonol, yn trefnu digwyddiad, neu’n cynnwys eich gweithle neu’ch cymuned, bydd pob ceiniog a fydd yn cael ei chodi yn gwneud gwahaniaeth mawr i achub bywydau ledled Cymru.
Eich egni, eich brwdfrydedd a’ch ymrwymiad i godi arian sy’n ein helpu i wasanaethu Cymru a’i phobl ac achub bywydau.
Codi arian eich ffordd chi!
Cymerwch ran yn un o’n digwyddiadau
Does dim ots a yw’n well gennych ddigwyddiad ar-lein neu rywfaint o adrenalin, mae pob digwyddiad rydych chi’n cymryd rhan ynddo yn achub bywydau – ac mae gennym rywbeth at ddant pawb.
Real Impact, Real Lives .
Mae’r arian rydych yn ei godi’n helpu pobl go iawn ledled Cymru yn uniongyrchol. O ddioddefwyr damweiniau i gleifion difrifol wael, mae eich cefnogaeth yn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu parhau i achub bywydau bob dydd.
Diolch i godwyr arian hael fel chi, gallwn:
- Ymateb i argyfyngau 24/7. Bydd ein criwiau’n barod 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i ddarparu gofal critigol neilltuol sy’n achub bywydau ledled Cymru.
- Darparu gwasanaeth Cymru gyfan. Bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywydau ar frys.
- Darparu gofal ar lefel ysbyty ar y safle. Gall y criw medrus iawn roi triniaethau meddygol a fyddai fel arfer ar gael mewn lleoliad ysbyty yn unig.
- Cadw ein fflyd yn weithredol. Mae angen i ni godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
- Ailuno teuluoedd. Diolch i’ch cefnogaeth chi, mae ein cleifion yn gallu parhau i dreulio amser gyda’u hanwyliaid.
Host a collection box.
Mae newid bach yn gwneud gwahaniaeth mawr. Rhowch flwch casglu arian yn eich adeilad a byddwch yn achub bywydau yn eich cymuned.
Gofyn am Flwch Casglu Arian
Tell us about your fundraiser.