Codi Arian yn y Gymuned
Talu eich rhoddionRydyn ni yma i’ch cefnogi ar eich taith codi arian. P’un a ydych chi’n creu eich digwyddiad eich hun, yn cynnal bore Coffi a Chacennau, neu’n rhoi i Ambiwlans Awyr Cymru yn uniongyrchol, bydd eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth i achub bywydau. Oes gennych chi ddiddordeb mewn codi arian yn eich cymuned? Rydyn ni wedi casglu syniadau at ei gilydd i’ch helpu chi i ddechrau arni, neu os oes gennych chi syniad eich hun, rhowch wybod i ni a byddwn ni’n eich cefnogi.
Ysgolion a grwpiau ieuenctid
Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd cysylltu â meddygon, CCPs, peilotiaid a chodwyr arian y dyfodol – dyna pam rydyn ni eisiau i’ch ysgol gymryd rhan. Mae llawer o ffyrdd o’n cefnogi:
- Cynnal diwrnod gwisgo dillad eich hun yn yr ysgol
- Gisgo coch ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru
- Gwerthu cacennau
- Diwrnod dillad eich hun neu wisg ffansi
- Cynnal gêm bêl-droed, rygbi neu bêl-rwyd, beth bynnag yw’r gêm, dylech gael y rhieni a’r disgyblion i gymryd rhan
- Celf a chrefft – byddwch yn greadigol a gwerthu eich crefftau
- Helfa drysor– Mae thema ar gyfer pob tymor.
- Picnic tedi bêr – Beth am gynnal picnic, nôl blanced a’ch hoff tedi a gwahodd eich ffrindiau.

Grwpiau a chlybiau
Os ydych chi’n rhan o grŵp, fel y Clwb Rotari, clwb chwaraeon, Sefydliad y Merched neu’r Gyfrinfa Fasonaidd, mae llawer o ffyrdd o gymryd rhan:
- Trefnu gala neu ddawns
- Gwneud casgliad, gallwn roi popeth sydd ei angen arnoch chi
- Cynnal twrnamaint cymunedol ar gyfer bowlio, pêl-droed neu unrhyw weithgaredd arall sy’n mynd â’ch bryd.
- Dewis ni fel elusen y flwyddyn
- Cael stondin yn eich gŵyl leol – Cacennau, teganau, diodydd a llawer mwy.
- Trefnu rali ceir neu dractorau
- Cynnal diwrnod golff

Codi arian cymdeithasol
Dewch â’ch ffrindiau a’ch teulu ynghyd, mwynhau digwyddiad cymdeithasol a gwneud gwahaniaeth drwy achub bywydau.
Mae llawer o ffyrdd o gymryd rhan:
- Trefnu digwyddiad – dawns elusennol, digwyddiad chwaraeon, gŵyl, cyngerdd, disgo tawel, neu karaoke, mae digon o opsiynau
- Cynnal pryd nos neu noson gemau
- Cael parti pampro
- Cystadleuaeth pobi
- Dod â thîm at ei gilydd a chynllunio gêm chwaraeon
- Cynnal bore coffi

Dywedwch wrthym am eich digwyddiad codi arian
Os ydych chi’n barod i ddechrau trefnu eich digwyddiad codi arian, cymerwch eiliad i ddweud wrthyn ni beth rydych chi wedi’i gynllunio. Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed am yr hyn y mae ein cefnogwyr yn ei wneud i ni ac mae’n ein helpu i gynnig y gefnogaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnoch.