Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Gwella’r Gwasanaeth

Efallai eich bod wedi clywed am adolygiad diweddar o’r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru.

Yma, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith y byddwn yn ei wneud dros y blynyddoedd nesaf i wella ein gwasanaeth ac achub mwy o fywydau.

Roedd yr adolygiad yn tynnu sylw at y ffaith nad ydym yn gallu cyrraedd rhwng 2 neu 3 o gleifion y dydd ac nad yw ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae’n hanfodol mynd i’r afael â’r broblem nad yw anghenion yn cael eu diwallu.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gofod hwn yn ateb eich cwestiynau, yn cynnig sicrwydd, ac yn eich galluogi i ddysgu mwy am y gwaith rydyn ni’n ei wneud.

Ambiwlans Awyr Cymru

Treuliwch amser yn gwylio’r fideo hwn a dysgu mwy am y gwaith o Wella’r Gwasanaeth.

Canlyniad yr Adolygiad Barnwrol – Datganiad yr Elusen

Dydd Iau 19 Mehefin 2025

Pwy yw Ambiwlans Awyr Cymru?

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus. Mae’r Elusen yn codi arian ar gyfer gweithrediadau’r hofrennydd a’r cerbydau ymateb cyflym (£11.2 miliwn bob blwyddyn).

Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn cyflenwi ymgynghorwyr medrus iawn ac ymarferwyr gofal critigol o’r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Mae’r gofal critigol neilltuol hwn yn cynnwys gweinyddu anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed a chynnal mân lawdriniaethau, i gyd yn lleoliad y digwyddiad.

Mae ein gwasanaeth achub bywydau yn cael ei ddarparu yn yr awyr ac ar y ffordd. Mae gennym bedwar hofrennydd a fflyd o gerbydau ymateb cyflym. Ar hyn o bryd mae’r rhain wedi’u lleoli yng Nghaernarfon, y Trallwng, Dafen (Llanelli) a Chaerdydd.

Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd y criwiau ymroddedig, waeth ble maen nhw wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywydau brys.

Yn 2024, fe wnaethom gyrraedd carreg filltir enfawr – 50,000 o genadaethau. Mae ein criwiau’n mynychu tua 4,000 o ddigwyddiadau bob blwyddyn ledled Cymru, gan helpu cleifion, ble bynnag a phryd bynnag y mae ein hangen arnyn nhw.

Darllen mwy
Two members of crew walking towards the helicopter and rapid response vehicle with their backs to us.

Beth mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei wneud?

Mae ein gwasanaeth yn cael ei arwain gan ymgynghorwyr, sy’n golygu ein bod yn mynd â thriniaethau safonol yr ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu eu hanafiadau. Gall hyn fod yng Nghymru neu i ganolfannau triniaeth arbenigol yn Lloegr. I’r claf, gall hyn olygu ein bod yn arbed oriau o’i gymharu â gofal safonol ac mae tystiolaeth ei fod yn gwella’r siawns o oroesi a gwella’n sylweddol.

Mae ein gwasanaeth yn mynychu’r galwadau brys lefel uchaf sy’n cynnwys digwyddiadau sy’n peryglu bywyd neu rannau o’r corff. Rydyn ni’n mynychu llai nag 1% o’r holl alwadau 999 a dderbynnir drwy Ganolfan Gyswllt Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Rydyn ni’n gwasanaethu Cymru gyfan. Gyda dim ond pedwar tîm yn gwasanaethu’r wlad gyfan, rydyn ni’n adnodd prin ac arbenigol iawn. Felly, waeth ble mae’r criwiau ymroddedig wedi’u lleoli, byddan nhw’n teithio ar draws y wlad i ddarparu gofal achub bywydau ar frys.

Nid yw ein gwasanaeth yn disodli Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â nhw. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ambiwlans yn cyrraedd y digwyddiad o’n blaenau. Yn y gadwyn gofal brys, mae meddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn rhoi’r gofal cychwynnol ar unwaith. Ambiwlans Awyr Cymru yw’r darn nesaf yn y gadwyn, gan ddarparu triniaethau uwch o safon ysbyty hyd yn oed cyn i gleifion gyrraedd yr ysbyty.

Darllen mwy
Close up picture of Stuart, a consultant, saty in the helicopter directly looking to camera with his helmet on. With the words Here for you, now and always.

Further questions you may have about the Service Improvement:

Datgelodd adolygiad annibynnol o’n partneriaid yn y GIG fod cyfleoedd i wella ein gwasanaeth i gleifion ledled Cymru. Cafodd ei arwain gan Brif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Canfyddiadau’r Adolygiad:

  • Ar hyn o bryd, nid ydym yn cyrraedd tua 2 i 3 o bobl y dydd. Bydd y cleifion hyn mewn sefyllfa sy’n peryglu eu bywyd neu rannau o’u corff.
  • Nid oes gan bobl yn y rhannau gogleddol o Ganolbarth Cymru a Gogledd Cymru wasanaeth ambiwlans awyr lleol dros nos. Maen nhw’n dibynnu ar wasanaeth nos o Dde Cymru.

I roi hyn mewn cyd-destun, rhwng Hydref 2022 a Rhagfyr 2024 nid oeddem wedi gallu mynychu 560 o argyfyngau a oedd yn peryglu bywyd a/neu rannau o gorff cleifion yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, rhwng 8pm a 2am.

Yn anffodus, bydd rhai o’r cleifion hyn wedi marw.

  • Mae timau meddygol medrus iawn y gwasanaeth sydd wedi’u lleoli yn y Trallwng a Chaernarfon yn cael eu tanddefnyddio.

Er enghraifft, rhwng Tachwedd 2023 a Hydref 2024, roedd 105 diwrnod pan nad oedd ein criwiau yng Nghaernarfon wedi gweld claf. Yn y Trallwng, bu 84 diwrnod heb gyswllt â chleifion. Cymharwch hyn â’n criwiau yn Dafen (13 diwrnod) a Chaerdydd (1 diwrnod), a gallwch weld y tanddefnydd sylweddol o’n hadnoddau presennol yng Nghaernarfon a’r Trallwng. Mae’r patrwm hwn yn gyson o un flwyddyn i’r llall.

Un o’r prif resymau dros y tanddefnydd hwn yw eu lleoliadau, sydd ar gyrion Canolbarth a Gogledd Cymru. Mae eu lleoliadau, a’r rhwydweithiau ffyrdd gwael sy’n eu hamgylchynu, yn ei gwneud hi’n anoddach i griwiau ddefnyddio’r cerbydau ymateb cyflym yn effeithiol pan nad yw’r hofrennydd ar gael.

Rheswm arall yw nad yw ein cyfluniad presennol yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru yn cwrdd â phatrwm galw ein gwasanaeth.

Ym mis Ebrill 2024, cytunodd Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru y dylid gwneud y newidiadau canlynol.

 

  • Dylai’r adnoddau presennol yng Nghaernarfon a’r Trallwng ddod at ei gilydd mewn un lleoliad yng nghanol Gogledd Cymru, ger yr A55.
  • Bydd dau dîm yn gweithredu o’r ganolfan newydd. Er mwyn cwrdd â phatrwm y galw, bydd un tîm yn gweithredu rhwng 8am ac 8pm a bydd tîm arall yn gweithredu rhwng 2pm a 2am.

 

Mae hyn yn golygu y bydd dau griw a dau hofrennydd yn gweithredu– yr un adnoddau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru – ond byddan nhw’n yn gallu achub mwy o fywydau drwy newid yn y ffordd maen nhw’n gweithredu.

Cytunodd pwyllgor GIG Cymru o’r enw Pwyllgor y Cyd-gomisiwn y dylid gwneud gwelliannau i’r gwasanaeth ambiwlans awyr presennol yng Nghymru.

  • Gallwn gyrraedd mwy o gleifion. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o fywydau’n cael eu hachub.
  • Bydd rhannau gogleddol o Ganolbarth Cymru a Gogledd Cymru yn cael gwasanaeth dros nos sy’n nes atyn nhw, yn hytrach na dibynnu ar y criw dros nos presennol sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn unig.
  • Rydyn ni’n defnyddio’n hadnoddau yn well ac yn defnyddio eich rhoddion hael yn fwy effeithiol er budd mwy o bobl.

Gallwch ddarllen adroddiad llawn y Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans yn https://easc.nhs.wales/engagement/sdp/

Nac ydy.

O’r cychwyn cyntaf, roedden ni’n glir mai pwrpas yr Adolygiad oedd manteisio i’r eithaf ar yr asedau a’r adnoddau presennol. Mae hyn yn canolbwyntio’n unig ar wella ein gwasanaeth i bawb yng Nghymru.

Na.

Byddwn yn parhau i ddarparu ein gwasanaeth gyda phedwar hofrennydd a fflyd o gerbydau ymateb cyflym.

Nac ydy.

Fydd neb yn colli gwasanaeth. Bydd rhannau gogleddol Canolbarth Cymru a gogledd orllewin Cymru yn gweld gwelliant – yn enwedig yn ystod y nos.

Mae tystiolaeth gynhwysfawr yn dangos y gellid achub mwy o fywydau yn y rhanbarthau hyn drwy wella’r gwasanaeth.

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid yn y GIG a chynrychiolwyr o’ch cymunedau i fonitro a gwerthuso’r gwelliant hwn dros y blynyddoedd nesaf.

Nid yw Ambiwlans Awyr Cymru wedi’i gynllunio i fodloni amseroedd ymateb ambiwlansys. O ran ein gwasanaeth arbenigol, mae’n bwysig cofio’r pwyntiau canlynol:

  • Rydyn ni’n gwasanaeth Cymru gyfan

Mae unrhyw sylwadau am amseroedd ymateb cynyddol oherwydd symud canolfan yn cymryd yn ganiataol ein bod yn dod o un canolfan. Mewn gwirionedd, gallai unrhyw un o’n criwiau Ambiwlans Awyr Cymru fynd i ddigwyddiad, waeth ble maen nhw yng Nghymru.

Nid yw ein gwasanaeth yn ymwneud â ble rydyn ni’n dod, mae’n ymwneud â ble rydyn ni’n mynd, y triniaethau hanfodol rydyn ni’n eu darparu yn y fan a’r lle, a mynd â chleifion yn uniongyrchol i’r cyfleuster gofal iechyd sy’n gallu darparu ar gyfer eu hanghenion arbenigol.

  • Nid yw’r gwasanaeth wedi’i gynllunio i fod y cyntaf ar y safle

Mae ein cydweithwyr yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru fel arfer yn cyrraedd y digwyddiad o’n blaenau a byddan nhw’n rhoi’r triniaethau brys cychwynnol. Ni fydd yr ail i gyrraedd a byddwn yn darparu triniaethau neilltuol o safon ysbyty.

Felly, er bod ymateb ar frys yn bwysig wrth ystyried salwch neu anafiadau sy’n peryglu bywyd a rhannau o’r corff, nid yw Ambiwlans Awyr Cymru yno i ddarparu ymateb sylfaenol i’r digwyddiadau hyn, mae’r rôl honno yn parhau i fod gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

  • Rydyn ni eisoes yn arbed cryn dipyn o amser i glaf gael gofal arbenigol

Mae hefyd yn bwysig cofio, drwy ddarparu triniaethau o safon ysbyty yn y fan a’r lle a mynd â’r claf yn uniongyrchol i safle gofal arbenigol, rydyn ni eisoes yn arbed llawer iawn o amser – oriau mewn rhai achosion – i’r claf gael y driniaeth gywir.

Wrth gwrs, mae angen i’n gwasanaeth fod yn amserol ond nid yw tynnu munudau ac eiliadau oddi ar amseroedd ymateb yn angenrheidiol yn glinigol. Rydyn ni wedi profi bod ein presenoldeb yn gwella siawns claf o oroesi a gwella yn y tymor hir yn sylweddol – ac mae’n bwysig cydnabod bod y gwelliant hwn o’i gymharu ag achosion safonol o ambiwlansys/derbyniadau i’r ysbyty. Dyma pam mae’n bwysig sicrhau bod rhannau gwledig a threfol Cymru fel ei gilydd yn gallu elwa o’n sgiliau a’n harbenigedd.

Nac ydy.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth Cymru gyfan. Rydyn ni’n wasanaeth prin ac arbenigol iawn. Waeth ble maen ein criwiau wedi’u lleoli, byddan nhw’n teithio i unrhyw ran o Gymru i roi triniaethau sy’n achub bywydau.

Er enghraifft, yn 2024, roedd 71% o ddigwyddiadau criw y Trallwng y tu allan i sir Powys. I’r gwrthwyneb, yn ystod yr un cyfnod, y criw yn Trallwng aeth i 56% o’r cenedaethau yn sir Powys.

Roedd 51% o ddigwyddiadau criw Caernarfon y tu allan i ardaloedd Gwynedd, Ceredigion ac Ynys Môn. I’r gwrthwyneb, yn ystod yr un cyfnod, y criw yng Nghaernarfon aeth i 61% o’r cenedaethau yng Ngwynedd, Ceredigion ac Ynys Môn.

Nid oedd yr Elusen yn ddiffynnydd yn yr Adolygiad Barnwrol ond roedd yn barti â diddordeb.

Cyhoeddwyd canlyniad yr Adolygiad Barnwrol ddydd Iau 19 Mehefin 2025. Gwrthododd y Barnwr yr holl honiadau a gyflwynwyd fel rhan o’r her gyfreithiol.

Gellir darllen ein datganiad yma.

 

 

Roedd yr Elusen yn parchu prosesau’r Adolygiad Gwasanaeth EMRTS dan arweiniad annibynnol a’r Adolygiad Barnwrol dilynol, a oedd ill dau yn canolbwyntio ar ein Partneriaid yn y GIG. Fe wnaethon ni hyn drwy osgoi sylwebaeth gyhoeddus ac roedd hynny’n anodd i ni.

Rhannodd rhai cymunedau yn rhannau gogleddol o Ganolbarth Cymru a Gogledd Orllewin Cymru eu pryderon am newid posibl yn ystod tri chyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd yr Adolygiad Gwasanaeth.

Rydyn ni’n cydymdeimlo’n gryf â’r pryderon gwirioneddol a fynegir am ddarpariaeth gofal iechyd ehangach yn y rhanbarthau hyn. Fel gwasanaeth bach ac arbenigol iawn, rydyn ni’n rhan fach o faes ehangach gofal brys cyn mynd i’r ysbyty. Nid oes llawer y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r pryderon hynny ac ni ddylem fod yn gyfrifol am lenwi bylchau yn y ddarpariaeth GIG. Rydyn ni wedi codi hyn gyda’n partneriaid, sydd wedi ein sicrhau bod y materion hyn wedi’u trosglwyddo i’r cyrff priodol er gwybodaeth iddynt ac er mwyn iddynt weithredu.

Ers diwedd 2022, rydyn ni wedi cydnabod camddealltwriaeth ynghylch sut mae ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu a beth fyddai’n digwydd ar ôl gwella’r gwasanaeth. Byddwn yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r camddealltwriaeth hyn ac yn rhoi gwybod i chi am ein bwriad a’n blaenoriaethau.

Byddwn yn agored ac yn dryloyw wrth i ni symud ymlaen a byddwn yn eich cynnwys pob cam o’r ffordd wrth i ni weithio at wella ein gwasanaeth achub bywydau.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn credu ei bod er budd gorau Cymru i gael gweithrediad ambiwlans awyr sy’n gweithio mewn partneriaeth feddygol â’r GIG ond sy’n annibynnol o ran cynhyrchu incwm a gwneud penderfyniadau. Mae’r annibyniaeth hon, y tu allan i bwysau a chyfyngiadau cyllid y sector cyhoeddus, yn caniatáu i’r Elusen ganolbwyntio ar ei gwasanaethau craidd, monitro ac addasu’n effeithiol i anghenion gofal critigol Cymru yn amserol, a chynnal safon gofal uchel yn gyson.

Mae’r bartneriaeth trydydd sector a’r sector cyhoeddus a fabwysiadwyd yng Nghymru yn fodel sydd wedi profi manteision i gleifion a’u teuluoedd, yn ogystal â’r GIG.

Mae’r rhesymeg hon dros aros yn annibynnol yn cael ei rannu gan bob elusen ambiwlans awyr ledled y DU.

Nac ydy.

Wales Air Ambulance will continue to serve Powys as we always have – but with an enhanced service that will be available to attend more lifesaving missions in the county.

As is the case now, our friends at the Midlands Air Ambulance would only attend an incident in Wales at our request and likewise, we would support them if they requested and we have a team available.

Gyda chyfle sylweddol i achub mwy o fywydau ledled Cymru, mae Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio a gweithredu’r argymhellion hyn. Dylai cyfleuster sylfaenol newydd fod yn gyraeddadwy yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Bydd yr Elusen yn talu am y cyfleuster sylfaenol newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau incwm.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi lleoliad priodol.

Bydd llinell amser yn cael ei gosod unwaith y bydd safle priodol wedi’i nodi.

Get in touch

Rydyn ni’n deall yn llwyr y pryderon a’r dicter a fynegir gan rai, ac yn gwybod pa mor gryf rydych chi’n teimlo am y ddarpariaeth gofal iechyd yn eich ardal. Rydyn ni wir eisiau i chi wybod, a chredu, na fyddem byth yn gwneud unrhyw beth i achosi niwed i chi na’ch anwyliaid.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi efallai y bydd gennych gwestiynau, a’ch bod chi siarad ag aelod o’r tîm. Rydyn ni’n gobeithio y byddwch yn rhoi cyfle i ni siarad â chi neu’ch sefydliad i dawelu rhai o’ch pryderon. Os ydych chi eisiau trafod y broses o wella’r gwasanaeth gydag aelod o’n tîm, llenwch y ffurflen isod.

Sylwch y gallai gymryd peth amser cyn i ni gysylltu â chi oherwydd yr adnoddau sydd ar gael i ni. Ni fyddwn yn goddef unrhyw gamdriniaeth at ein staff.





    This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.

    Diolch am eich ymholiad.

    Bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chyn gynted â phosibl.