WAA Statement
Er nad oeddem yn ddiffynnydd yn yr Adolygiad Barnwrol, rydym yn croesawu’r canlyniad clir a diamwys a gyhoeddwyd heddiw. Bydd yn caniatáu inni symud ymlaen i wella’r gwasanaeth mewn ffordd a fydd yn achub mwy o fywydau ledled y wlad – yn enwedig yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru.
Mae ein gwasanaeth yn un o’r rhai mwyaf clinigol ddatblygedig yn Ewrop, ond mae tystiolaeth arbenigol ddiymwad yn dangos nad yw pawb yn elwa ohono. Mae hyn yn arbennig o wir dros nos yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru.
Mae’r anghydraddoldeb yn glir. Yn 2023 a 2024, nid oeddem wedi gallu mynychu 551 o ddigwyddiadau yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, rhwng 8pm a 2am. Roedd pob digwyddiad yn cynnwys pobl go iawn â chyflyrau difrifol a oedd yn peryglu eu bywyd.
Ynghyd â hyn, roedd ein hadnoddau prin ac arbenigol iawn yng Nghaernarfon a’r Trallwng yn cael eu tanddefnyddio’n sylweddol. Rhwng Tachwedd 2023 a Hydref 2024, roedd 105 diwrnod pan nad oedd ein criwiau yng Nghaernarfon wedi gweld yr un claf. Yn y Trallwng, roedd 84 diwrnod heb gyswllt â chlaf. Ar y llaw arall, yn Nafen roedd y ffigur yn 13 diwrnod ac yn 1 diwrnod yng Nghaerdydd. Mae hyn wedi bod yn batrwm cyson un flwyddyn ar ôl y llall.
Mae arbenigwyr meddygol ac arbenigwyr o’r diwydiant hedfan wedi cynnal ymchwil helaeth ac wedi nodi ffordd ymlaen sy’n ein galluogi i gyrraedd mwy o bobl mewn argyfwng lle mae eu bywyd mewn perygl. Mae dyfarniad heddiw yn caniatáu dechrau ar y broses hon.
I’n cefnogwyr yng Nghanolbarth a Gogledd Orllewin Cymru sydd wedi mynegi pryder, rydym am dawelu eich meddwl na fydd y datblygiad hwn yn niweidiol i chi – mae’n ymwneud â gwella eich gwasanaeth, nid ei ddileu. Byddwn yn gallu achub mwy o fywydau yn eich cymuned chi a ledled Cymru.
Ein amcan o hyd yw darparu’r gofal gorau posibl, gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni – lle bynnag yr ydych a phryd bynnag y bydd ein hangen arnoch.
O barch i’r Adolygiad annibynnol a’r broses gyfreithiol, rydym wedi ceisio cadw’n barchus dawel dros y blynyddoedd diwethaf. Nawr bod y prosesau hyn wedi’u cwblhau, rydym am geisio ymgysylltu â’n cefnogwyr, ein partneriaid a chynrychiolwyr cymunedau yng Nghanolbarth a Gogledd Orllewin Cymru i gywiro’r camsyniadau a chynnig eglurder a thawelwch meddwl.
Dros y 24 mlynedd diwethaf, rydych chi wedi ymddiried ynom ni. Oherwydd hynny, gyda’n gilydd rydym wedi gallu creu’r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yn y DU ac un o’r rhai mwyaf meddygol datblygedig yn Ewrop.
Rydym ni yma o’ch herwydd chi. Gyda’ch cefnogaeth, bydd ein Helusen yno i chi a’ch cymuned – nawr ac i’r dyfodol.
Gellir darllen dyfarniad llawn yr Adolygiad Barnwrol yma – Lowri Evans, R (ar gais) v Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan ac Eraill – Dod o Hyd i Gyfraith Achosion – Yr Archifau Cenedlaethol
Ceir rhagor o wybodaeth am sut bydd hyn yn gwella’r gwasanaeth yma .