Gwneud Cwyn
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu bywyd dynol drwy ddarparu ambiwlansys awyr ledled Cymru.
Ein polisi yw gweithio i leihau’r risg o gwynion trwy ddatblygu polisïau a gweithdrefnau cynhwysfawr. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi ac yn croesawu pob math o adborth.
Egwyddorion ein gweithdrefn gwyno
Rydym yn ceisio sicrhau:
- Ymdrinnir â chwynion yn gyson ledled yr Elusen.
- Mae cwynion yn cael eu gwrando a’u hymchwilio’n drylwyr.
- Mae cwynion yn cael eu cydnabod yn gyflym ac yn cael eu cofnodi.
- Ymdrinnir â chwynion mewn modd priodol, teg ac amserol.
- Rydyn ni’n dysgu o’r gŵyn.
Y weithdrefn gwyno
Gallwch wneud cwyn dros y ffôn, llythyr, e-bost neu yn bersonol.
Os ydych chi’n gwybod pa adran sy’n berthnasol i’ch cwyn, neu enw neu deitl swydd aelod priodol o staff, gallwch wneud eich cwyn yn uniongyrchol iddynt.
Os nad ydych yn siŵr gyda phwy i gysylltu â nhw, ysgrifennwch at:
Y Prif Weithredwr. Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen. SA14 8LQ
Ffoniwch ni ar 0300 0152 999. E-bostiwch ni yn enquiries@walesairambulance.com.
Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cwyn ac yn anfon ymateb ffurfiol o fewn tair wythnos.
Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb, gallwch gysylltu â’r Comisiwn Elusennau ar 0300 0669 197 neu www.charity-commission.gov.uk am gyngor.
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â’n Loteri Achub Bywyd ac na ellir ei datrys yn fewnol, yna byddai’n cael ei chyfeirio at IBAS (Gwasanaeth Betio a Dyfarniad Annibynnol) neu’r Comisiwn Gamblo.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â GIG Cymru, gan gynnwys Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r Gwasanaeth Adfer a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). Ar gyfer cwynion cleifion/clinigol neu unrhyw gwynion gweithredol eraill, cysylltwch â’r Rheolwr Gwasanaeth, EMRTS Cymru. Ffôn: 0300 300 0057 neu e-bost: emrts@wales.nhs.uk.
Your personal information
If you use our complaints procedure, you are agreeing that we can use any personal information you send us for purposes connected with your complaint. We will only give your personal information to other people and organisations if you have given us permission to do so.
For more information on how we handle your personal data, you can read our full Privacy Policy here.