Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Gwirfoddoli Corfforaethol

Mae llawer o ffyrdd o’n helpu ni fel gwirfoddolwyr.

 

Fel elusen, rydyn ni’n dibynnu’n fawr ar haelioni ein gwirfoddolwyr i’n helpu i godi arian a chefnogi ein gwaith ledled Cymru. Rydyn ni’n croesawu unigolion a busnesau sydd eisiau rhoi eu hamser a’u sgiliau i’n helpu gyda thasgau amrywiol.

Rydyn ni bob amser yn croesawu cefnogaeth ac arbenigedd gan fusnesau i roi benthyg eu hamser a’u harbenigedd. Mae sawl ffordd o wirfoddoli, boed yn gefnogaeth pro-bono neu’n ffurfio stondin cefnogwyr yn un o’n digwyddiadau. Mae rhywbeth i bob busnes gymryd rhan ynddo.

Pam ddylai eich busnes annog gweithwyr i wirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru?

Gall annog gweithwyr i wirfoddoli fod o fudd i fusnesau mewn sawl ffordd, dyma rywfaint o’r manteision:

When employees are given the opportunity to volunteer, they feel a sense of purpose and engagement with their work. This can lead to improved morale, job satisfaction, and retention rates.

By promoting volunteering among employees, businesses can demonstrate their commitment to social responsibility and community engagement. This can enhance the company’s reputation and help attract customers who value ethical and socially responsible companies.

Volunteering provides employees with the opportunity to develop new skills and gain experience in areas outside of their regular job responsibilities. This can improve their job performance and make them more valuable to the company.

Volunteering can also provide employees with the opportunity to network with other professionals and potential customers or clients. This can help them build relationships and expand their professional network.

Volunteering can make a significant impact on the local community and can help businesses build relationships with local organisations and stakeholders. This can lead to increased goodwill and positive publicity for the company.

 

Gall annog gweithwyr i wirfoddoli fod o fudd i’r gweithwyr a’r busnes. Gall arwain at wella cyfraddau ymgysylltu a chadw, gwella enw da’r cwmni, darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol, meithrin cyfleoedd i rwydweithio, a chael effaith gadarnhaol ar y gymuned.

Cyfleoedd i Wirfoddoli

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi ein helpu ni fel gwirfoddolwr. Dyma enghreifftiau o sut y gallai eich busnes gymryd rhan:

Mae gennym sawl siop elusen ledled Cymru lle gallwch roi o’ch amser a’n helpu gyda gwasanaeth cwsmeriaid, rhoi trefn ar eitemau sy’n cael eu rhoi, a chadw’r siop yn daclus.

Mae angen help arnom gydag amrywiaeth o dasgau gweinyddol, fel mewnbynnu data, ateb ffonau, a ffeilio.

Gallwch ein helpu gyda chasgliadau bwced mewn gwahanol ddigwyddiadau a lleoliadau, gan ein helpu i godi arian i gefnogi ein cenhadaeth.

Rydyn ni’n aml yn gofyn am wirfoddolwyr i’n helpu i osod a thynnu offer a chyflenwadau mewn digwyddiadau rydyn ni’n mynd iddyn nhw. Rydyn ni hefyd yn hoffi ffurfio carfan cefnogi mewn digwyddiadau mawr.

Gallwch ein helpu i werthu nwyddau a thocynnau raffl mewn digwyddiadau ac yn ein siopau.

Sut i Gymryd Rhan

Os oes gan eich busnes ddiddordeb mewn cymryd rhan a chefnogi Ambiwlans Awyr Cymru, cysylltwch â ni drwy ein gwefan neu anfon e-bost atom yn fundraising@walesairambulance.com. Byddwn yn rhoi’r holl wybodaeth a’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch i ddechrau arni.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu fel rhan o’n tîm, a gyda’n gilydd gallwn gael effaith gadarnhaol ar bobl Cymru. Diolch am eich cefnogaeth.