Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Ein Fflyd

Rydym yn dibynnu ar ein cerbydau awyr a’n cerbydau ymateb cyflym i wasanaethu Cymru gyfan 24 awr y dydd, 365 diwrnod yr wythnos.

Mae gennym bedwar prif hofrennydd, hofrennydd wrth gefn, ac wyth cerbyd ymateb cyflym (RRVs), sy’n ein galluogi i gyrraedd cleifion sy’n sâl neu wedi’u hanafu lle bynnag a phryd bynnag y bo angen. Mae gan ein holl gerbydau yr un offer meddygol datblygedig.

Mae ein cerbydau yn mynd â’r ystafell frys i’r claf, gan gludo meddygon ac ymarferwyr gofal critigol sy’n darparu triniaeth frys i’r rhai sydd fwyaf mewn angen.

Ein Hofrenyddion

Rydym yn dibynnu ar ein hofrenyddion i wasanaethu Cymru gyfan 24 awr y dydd, 365 diwrnod yr wythnos. Mae angen iddynt ymdopi ag amodau heriol a gallu glanio mewn gwahanol amgylcheddau, fel yn y mynyddoedd, ar briffyrdd prysur ac mewn trefi a dinasoedd. Diolch byth mae gennym yr union hofrennydd sy’n gallu gwneud y cwbl.

Dysgwch fwy am ein hofrenyddion

Ein Cerbydau Ymateb Cyflym

Mae’r Elusen yn ariannu fflyd o wyth Volvo XC90. Mae rhai ohonynt wedi cael lifrai newydd ac yn cario’r un offer arloesol â’n hofrenyddion.

Dysgwch fwy am ein Cerbydau Ymateb Cyflym
Red rapid response vehicle with fluorescent yellow patches, and wales air ambulance logo