Ymarferwyr Gofal Critigol
Wrth gefn 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae Ymarferwyr Gofal Critigol yn ymarferwyr cofrestredig sydd wedi ymgymryd ag addysg uwch a datblygiad clinigol ychwanegol ar ôl cofrestru i gynnal asesiad uwch a rheoli cleifion difrifol wael neu gleifion ag anafiadau difrifol ac anghenion gofal aciwtedd uchel yn ystod y cyfnod trosglwyddo/casglu cyn mynd i’r ysbyty. Mae’r ymarferwyr hyn yn ymateb i argyfyngau 999 sy’n peryglu bywyd neu rannau o’r corff, trosglwyddiadau rhwng ysbytai, derbyniadau brys i’r ysbyty ac ymyriadau eraill a ddyrannwyd i gleifion, ac maen nhw’n darparu gofal effeithiol o ansawdd uchel.
Mae’r rôl yn gofyn i’r unigolyn gael hyfforddiant hedfan ac mae’n rhaid iddo gyflawni’r cymwyseddau ‘Addas i Hedfan’. Mae’n ofynnol iddo hefyd ddefnyddio sgiliau gyrru uwch o dan olau glas ac amodau traffig arferol i ymateb i alwadau brys ac arferol yn ôl yr angen (gan gynnwys cerbydau ymateb cyflym ac ambiwlansys).
Mae’n ofynnol i’n Ymarferwyr Gofal Critigol arwain wrth ddarparu gofal cleifion, drwy arwain, cydlynu a rheoli salwch difrifol a/neu anafiadau mewn digwyddiadau’n rhagweithiol, gyda chefnogaeth glinigol o bell, a sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion. Mae hyn yn cynnwys adnabod, defnyddio adnoddau, goruchwylio clinigol a chyfeirio cleifion i’r lleoliad mwyaf priodol.
Maen nhw’n teithio mewn hofrennydd neu ar y ffordd i ddarparu gofal safonol ysbyty yn y fan a’r lle i gleifion sy’n ddifrifol wael.
Pa hyfforddiant mae Ymarferwyr Gofal Critigol yn ei gael?
Mae’r Ymarferwyr Gofal Critigol sy’n ymuno ag EMRTS yn tueddu i ddod o gefndir parafeddyg neu nyrsio. Fodd bynnag, er mwyn cyrraedd lefel Ymarferydd Gofal Critigol, mae’n ofynnol iddyn nhw ddechrau a chwblhau rhaglen hyfforddi EMRTS.
Yn y flwyddyn gyntaf, mae’r Ymarferwyr Gofal Critigol yn cwblhau eu hyfforddiant ymsefydlu sy’n trafod dyletswyddau clinigol a gweithredol y gwasanaeth. Mae’r hyfforddiant clinigol yn canolbwyntio ar addysg sy’n seiliedig ar efelychu, gan ddefnyddio manicin mewn amrywiaeth o senarios clinigol fel disgyn o uchder, cerddwr wedi cael ei daro gan gerbyd neu ataliad meddygol ar y galon. Mae’r sefyllfaoedd clinigol a gyflwynir i’r Ymarferydd Gofal Critigol dan hyfforddiant yn cael eu rheoli gan y gyfadran mewn ymateb i’r dull rheoli a thrin a ddefnyddiwyd. Bydd yn rhaid i’r Ymarferydd hefyd gwblhau cwrs TCM HEMS (Aelod o Griw Technegol Gwasanaeth Meddygol Brys Hofrennydd) a fydd yn caniatáu iddo ymgymryd ag ystod lawn o ddyletswyddau hedfan CCP HEMS.
Ar yr un pryd, rhaid i’r Ymarferydd Gofal Critigol ymgymryd â nifer o gyrsiau yn fewnol ac yn allanol, yn ogystal â chasglu cyfleoedd dysgu yn eu portffolio clinigol.
Yn ystod yr ail flwyddyn o hyfforddiant, mae’r ymarferydd gofal critigol yn dechrau addysg lefel 7 (hy MSc) ac yn cael hyfforddiant mwy penodol ar reoli achosion clinigol a chyffuriau, gan gynnwys asesiad mewnol. Yn ogystal â hyn, rhaid i’r Ymarferwyr Gofal Critigol hefyd gael Diploma mewn Gofal Meddygol Cychwynnol gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, Caeredin.
Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd yr Ymarferwyr Gofal Critigol yn cwblhau eu MSc, cyrsiau eraill fel sgiliau llawfeddygol a hyfforddiant uwchsain, a byddan nhw’n gweithio i gwblhau holl ofynion angenrheidiol portffolio clinigol CCP.
Cwrdd â Derwyn Jones
Dyma beth oedd gan Derwyn i’w ddweud am fod yn Ymarferydd Gofal Critigol i Ambiwlans Awyr Cymru
Dechreuodd taith Derwyn ym mis Medi 2010, pan ddechreuodd ddiploma mynediad i wyddoniaeth mewn coleg lleol. Ar ôl cwblhau’r diploma, cafodd le ym Mhrifysgol Abertawe i astudio gwyddoniaeth parafeddygol. Yn syth ar ôl cymhwyso fel Parafeddyg HCPC, dechreuodd Derwyn ei yrfa gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, gan weithio yng Ngogledd Aneurin Bevan, yng Ngorsaf Ambiwlans Bargoed yn bennaf.
Darllen mwy
Being so close to Wales’s capital city provided a baptism of fire and he had no choice but to hit the ground running. Hailing from north Wales, he was able to head ‘home’ when a transfer request was granted in 2015, where he settled into his new station at Caernarfon. Three years followed, working both the ambulance and rapid response vehicle (RRV) rota.
Despite his enjoyment in the role of a paramedic, Derwyn’s heart was set on working on the air ambulance.
He said: “The fast paced, ever-changing challenge of treating the sickest and most injured patients was something I aspired to do.
“I remember hearing about EMRTS and CCPs and doctors in a coffee room at the station and working on board the Wales Air Ambulance sounded like my dream job. The following days I researched the role of the CCP. I realised my portfolio at the time wasn’t sufficient, so I made sure I took every opportunity to strengthen my CV and experience to support any future applications.
“Following a couple of unsuccessful applications, I finally made the grade and was appointed as a CCP in Wales back in July 2019. This role continues to challenge me every day, the learning is endless, and I’m often out of my comfort zone, something that is very important to me as it enables me to grow, both as a person and clinician.”
Rwy’n falch iawn fy mod yn gallu cynnig gofal critigol i bobl Cymru mewn argyfwng a dwi’n teimlo’n wylaidd iawn wrth atgoffa fy hun o hynny.
Mae gweithio ar yr ambiwlans awyr wedi gwireddu breuddwyd i fi.
Derwyn Jones, Ymarferydd Gofal Critigol
Mwy o wybodaeth