Gallai pob rhodd achub bywydau rydych chi’n ei wneud i Ambiwlans Awyr Cymru fynd ymhellach heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Am bob £1 rydych chi’n ei roi, gallwn hawlio 25c yn ôl gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF).
Sut mae’n gweithio?
Mae Cymorth Rhodd yn fenter gan y llywodraeth sy’n caniatáu i roddion i elusen fod yn effeithiol o ran treth. Ar ôl i chi lenwi ffurflen ddatganiad Cymorth Rhodd, gallwn hawlio’r dreth ar eich rhoddion yn y dyfodol, yn ogystal ag unrhyw roddion rydych chi wedi’u gwneud yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Mae hyn yn golygu y bydd rhodd o £10 yn werth £12.50.
Y newyddion da yw ei fod yn gyflym ac yn syml.
I gwblhau eich datganiad ar-lein, llenwch y ffurflen isod, neu os byddai’n well gennych lwytho copi i lawr, gwnewch hynny yma. Gallwn hefyd bostio ffurflen atoch chi, cysylltwch â enquiries@walesairambulance.com a gofyn am ffurflen Cymorth Rhodd.
Ffurflen Cymorth Rhodd
Hawlio Cymorth Rhodd ar eich eitemau ail law
Yn ogystal â hawlio Cymorth Rhodd ar eich rhoddion ariannol, gallwn hawlio 25% o werth yr eitemau rydych chi’n eu rhoi i’n siopau elusennol. Mae hyn yn gofyn am ffurflen ar wahân ond gallwch ei llenwi’n gyflym ac yn hawdd yn ein siopau neu ar-lein yma.
Bob blwyddyn, mae £560 miliwn yn cael ei adael heb ei hawlio gan elusennau’r DU. Trwy gofrestru i ychwanegu Rhodd Cymorth at eich rhoddion, byddwch yn achub hyd yn oed mwy o fywydau ledled Cymru.
Y gwahaniaeth mae Cymorth Rhodd yn ei wneud
Drwy hawlio Cymorth Rhodd ar eich rhoddion, gallwn:
- Ymateb i argyfyngau 24/7. Bydd ein criwiau’n barod 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i ddarparu gofal critigol neilltuol sy’n achub bywydau ledled Cymru.
- Darparu gwasanaeth Cymru gyfan. Bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywydau ar frys.
- Darparu gofal ar lefel ysbyty ar y safle. Gall y criw medrus iawn roi triniaethau meddygol a fyddai fel arfer ar gael mewn lleoliad ysbyty yn unig.
- Cadw ein fflyd yn weithredol. Mae angen i ni godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
- Ailuno teuluoedd. Diolch i’ch cefnogaeth chi, mae ein cleifion yn gallu parhau i dreulio amser gyda’u hanwyliaid.
Cymhwysedd Cymorth Rhodd
Rhaid i chi fod yn gymwys i hawlio Cymorth Rhodd. Canfod a allwch chi gynyddu eich rhodd yma:
Ydw i'n gymwys?
To be eligible for Gift Aid you must be a UK taxpayer and the Income Tax and/or Capital Gains Tax you pay must be at least equal to the amount of Gift Aid claimed on all of your donations in that tax year.
Pryd fyddwn i ddim yn gymwys i gael Cymorth Rhodd?
If your donation falls into any of the following categories, Gift Aid cannot be claimed:
- Donations made by anyone who is not a UK taxpayer.
- Donations made on behalf of someone else of a group of people – for example, you collect money from your friends and family and combine it into one donation. Even if all of those who have donated are UK taxpayers, the donation is not eligible. HMRC requires a Gift Aid declaration from each donor, you can collate these by using our sponsorship form.
- Donations made in return for something, for example you are making a donation in return for a ticket to attend and event or entry to a raffle.
- Donations made on behalf of a company – you can only make Gift Aid declarations on your own taxpayer status when spending your own money. However, the company can claim tax relief on the donation when donating directly to the charity.
Fe wnes i gyfraniad o £20, ond roedd modd ei gynyddu i £25 yn syml heb i fi orfod talu dim mwy. Mae Rhodd Cymorth yn ffordd wych o wneud i’ch rhodd fynd ymhellach.
Os ydych chi’n gymwys, ticiwch y blwch – fyddwch chi ddim yn difaru!
Cefnogwr