Hofrenyddion
Rydym yn dibynnu ar ein hofrenyddion i wasanaethu Cymru gyfan 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ein hofrenyddion
Rydym yn dibynnu ar ein hofrenyddion i wasanaethu Cymru gyfan 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. They need to handle challenging conditions and be able to land in different environments such as mountain ranges, busy motorways and built-up areas. Thankfully, we’ve got just the helicopter for the job.
- Mae gennym bedwar hofrennydd H145 ac un wrth gefn, sydd wedi’u lleoli yn Dafen, Caerdydd, y Trallwng a Chaernarfon.
- Gallant gario dau griw hedfan, tri chlinigydd a chlaf, gan ddarparu llawer mwy o le yn y caban a gwell perfformiad o lawer na’n modelau blaenorol.
- Mae ein hofrenyddion, ein peilotiaid a’n peirianwyr yn cael eu darparu gan Gama Aviation ond fe’u hariennir gan Ambiwlans Awyr Cymru.
- Cyflymder hedfan cyfartalog yr H145 yw 120kts (138mya), sydd ddwywaith y terfyn cyflymder ar draffyrdd, ond gall yr hofrennydd gyrraedd cyflymder o hyd at 145kts (167mya).
- Mae’r hofrennydd yn 14 troedfedd o uchder a 38 troedfedd 3 modfedd o hyd a gall ddal hyd at 900 litr o danwydd. Yn weithredol, rydym fel arfer yn llenwi tua 750 litr o danwydd, digon i hedfan o un pen i’r llall o Gymru ac yn ôl.
- Pan fydd yn wag, mae’r H145 yn pwyso tua 2 dunnell, tua’r un faint â Rhinoseros gwyn. Pan fydd wedi’i lwytho’n llawn gydag offer, criw, tanwydd a chlaf, gall yr awyren bwyso hyd at 3700kgs neu 3.7 tunnell.
- Mae angen ardal o 28 metr o hyd ar ein hofrenyddion i lanio yn ystod y dydd, sef tua hanner uchder y Leaning Tower of Pisa. Fodd bynnag, wrth hedfan yn y nos mae angen dwbl y maint hwnnw.
Cofrestru Hofrenyddion
Mae’r rhif cofrestru, sy’n debyg i blât rhif cerbyd, yn ffordd o adnabod awyrennau a hofrenyddion sifil. Mae’r G ar ddechrau’r cofrestriad yn dangos bod yr awyren wedi’i chofrestru yn y DU.
Fel Elusen sy’n falch o’i gwreiddiau Cymreig, rydym yn angerddol am yr iaith Gymraeg. Mae rhifau cofrestru ein hofrenyddion yn amlygu hynny ac mae’r holl eiriau Cymraeg yn cynrychioli’r gwasanaeth a ddarperir gan yr Elusen achub bywydau. Y rhain yw:
G-WENU (meaning smile)
G-WYDN (meaning resilient)
G-LOYW (meaning bright/shining)
G-WOBR (prize)
G-WROL (brave)
Helicopter History
Mae’r Elusen wedi hedfan sawl hofrennydd dros y blynyddoedd, ac maent wedi amrywio o ran siâp, maint, lliw a llun.
Lansiwyd Ambiwlans Awyr Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2001 gyda hofrennydd Bolkow 105 DB melyn a du AA, gyda’r cofrestriad G-AZOR.
Uwchraddiwyd yr hofrenyddion Bolkow 105 DB i’r hofrenyddion EC135 ac yna yn ddiweddarach roedd yn gweithredu tri hofrennydd H145 ac un H135 llai.
Gyda’r contract newydd gyda Gama Aviation, uwchraddiwyd yr H135 fel bod gennym fflyd lawn o hofrenyddion H145.
Does the weather have an impact?
Mae’n anodd rhagweld y tywydd yng Nghymru. Boed glaw neu hindda, gwyntoedd cryfion, eira neu law trwm, mae’n rhaid i’r peilotiaid ystyried sut gallai hyn effeithio ar yr hofrennydd.
Yn ystod yr haf, mae’r aer yn deneuach felly mae angen mwy o bŵer ar yr hofrennydd ac mae hynny’n golygu mwy o danwydd. Mae’r hofrenyddion yn mynd yn boeth iawn, felly mae’n debyg y byddwch chi’n eu gweld ar y llain lanio gyda’r drysau’n llydan agored i ganiatáu i aer lifo drwodd – a’r criw yn bwyta lolipops iâ rhwng shifftiau.
Ond yn y gaeaf mae sgriniau gwynt yr hofrennydd yn gallu llenwi gyda barug, yn debyg i’ch car ben bore, felly mae’r peilotiaid weithiau’n penderfynu cadw’r hofrennydd yn yr hangar am gyfnod hirach. Mae’n gyflymach i’r peilotiaid ddod â’r awyren allan adeg galwad frys na gorfod crafu’r iâ i ffwrdd.
Mae’r peilotiaid yn cadw llygad barcud ar ragolygon tywydd a mapiau, gan roi sylw penodol i’r amodau ar dir uchel ac isel. Gan ein bod yn gwasanaethau ardaloedd mynyddig a’r arfordir, efallai y bydd yn ddiogel codi o’r ganolfan ond bydd yr amodau’n beryglus iawn yn lleoliad yr argyfwng. Os yw’r rhagolygon gwynt yn uwch na 30 not, bydd angen i’r peilot hefyd feddwl am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y llafnau. Yn dibynnu ar gryfder y gwynt, efallai na fydd y tîm yn gallu hedfan at y claf, ond mae ganddynt fynediad i’r fflyd o gerbydau ymateb cyflym yn yr achosion hyn.
Mae’r peilotiaid hefyd yn gwbl gymwys i hedfan mewn cymylau drwy ddibynnu’n llwyr ar yr offerynnau hedfan, ac mae’r hofrennydd yn gallu glanio mewn maes awyr gan ddefnyddio system awtobeilot glyfar.
Yn ystod y dydd, mae angen sylfaen cwmwl 500 troedfedd a gwelededd 1.5km ar y peilotiaid i allu hedfan. Yn y nos, mae hyn yn cynyddu i sylfaen cwmwl 1,200 troedfedd a gwelededd 3km. Mae gan y criw sgriniau yn yr ystafell reoli sy’n dangos mapiau tywydd cyfredol a rhagolygon tywydd i’w helpu i gynllunio.
Er gwaethaf y tywydd, mae’r gwasanaeth yn parhau i fod yn wasanaeth 24 awr – felly hyd yn oed pan nad yw’r tîm yn gallu cyrraedd mewn hofrennydd, gall y tîm gofal critigol deithio ar y ffordd (efallai y byddant yn dewis teithio ar y ffordd beth bynnag, waeth beth fo’r tywydd). Mae’r offer meddygol ar yr Cerbydau Ymateb Cyflym yr un peth â’r hofrenyddion, felly nid oes gwahaniaeth a fyddwn ni’n cyrraedd mewn hofrenydd neu mewn cerbyd, bydd y claf yn derbyn y lefel uchaf o ofal cyn-ysbyty.
Landing sites
Mae’r peilotiaid ar fwrdd Ambiwlans Awyr Cymru yn beilotiaid proffesiynol medrus iawn. Mae ganddynt gefndir hedfan masnachol neu filwrol gyda blynyddoedd lawer o brofiad
o hedfan a glanio mewn safleoedd dieithr. Mae’r profiad hwn yn hanfodol wrth hedfan teithiau HEMS (Gwasanaeth Meddygol Brys Hofrennydd) lle mae’r hedfan yn ddeinamig, ac nad ydynt byth yn gwybod ble fyddan nhw nesaf.
Er mwyn helpu peilotiaid i fapio ac adnabod safleoedd glanio posibl, mae ganddynt iPads gydag ap
Google Earth, sydd hefyd yn tynnu sylw at gaeau mawr a pheryglon, fel ceblau trydan.
Yn ystod y dydd, bydd y criwiau yn asesu safleoedd glanio posibl cyn gynted ag y daw tasg i mewn, a gallant barhau â’r cynllunio hwn ar y ffordd. Yn ystod y dydd, bydd y criw yn anelu at fod yn yr awyr o fewn chwe munud. Yn y nos, mae mwy o ystyriaethau diogelwch felly bydd y criw yn gwneud y cynllunio hanfodol hwn cyn iddynt adael, a dyna pam mae’n cymryd mwy o amser i godi yn y tywyllwch – maen nhw’n anelu at fod yn yr awyr o fewn 15 munud yn y nos.
O fewn 200 troedfedd i’r ddaear, wrth godi a glanio, mae peilotiaid yn gweithredu ‘cocpit tawel’ lle nad oes dim siarad heblaw am faterion sy’n ymwneud â’r gofynion hedfan. Mae hyn yn tawelu unrhyw sŵn o’r tu allan ac yn sicrhau bod pawb yn canolbwyntio ar eu gorau wrth godi a glanio’n ddiogel.
Pan fydd yr hofrennydd yn cyrraedd y lleoliad, cyn glanio, efallai y byddwch chi’n ei weld yn symud ar ‘batrwm trac rasio.’ Maen nhw’n gwneud hyn er mwyn i’r criw gael trosolwg o’r ardal, i chwilio am ardaloedd glanio diogel, i wirio am beryglon, ac i gefnogi’r clinigwyr i allu gadael yr hofrennydd yn gyflym ac yn ddiogel i gyrraedd y claf sydd angen gofal critigol. Byddant hefyd yn ystyried sut gall y claf gael ei gludo yn ôl i’r awyren yn ddiogel os oes angen ei drosglwyddo i’r ysbyty yn yr hofrennydd.
Weithiau, bydd angen i’r peilot lanio ychydig ymhellach i ffwrdd o’r claf, oherwydd cyfyngiadau glanio. Yn yr achosion hyn, bydd y criw naill ai’n cerdded ar droed neu’n cael lifft gan aelod o’r cyhoedd neu gan y gwasanaethau brys eraill. Bydd y peilot yn aros ar yr hofrennydd bob amser.
Mae peilotiaid yn chwilio am 5 ffactor wrth ystyried opsiynau glanio: siâp, maint, amgylchedd, arwyneb a llethr. Mae’r gwyntoedd cryf o’r llafnau hefyd yn ystyriaeth diogelwch hanfodol; Mae’r chwa cryf hwn o wynt sy’n cael eu creu gan y llafnau pwerus yn ddigon i daflu malurion i’r awyr neu achosi i rywun syrthio.