Rhoi er cof
Rydyn ni’n parhau â’n cenhadaeth er cof amdanyn nhw
Dathlu bywyd anwyliaid drwy roi i Ambiwlans Awyr Cymru
Os yw ein gwaith wedi effeithio’n uniongyrchol ar eich anwyliaid neu os yw’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu yn cynrychioli achos sy’n agos at eu calon, mae rhoi er cof yn ffordd hyfryd i chi, eich teulu a’ch ffrindiau ddathlu eu bywyd a’u hanrhydeddu.
Mae sawl ffordd o gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru er cof am eich anwyliaid.
Creu cronfa deyrnged ar-lein
Er gwaethaf ymroddiad diwyro ein criw, yn anffodus ni fydd y rhai y mae angen ein gwasanaeth arnyn nhw bob amser yn gwella. I’r rhai sydd wedi colli anwyliaid ac sydd wedi cael eu heffeithio gan Ambiwlans Awyr Cymru, gall rhoi er cof amdanyn nhw fod yn ffordd ystyrlon iawn o anrhydeddu eu bywyd. Mae eich cefnogaeth yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
Mae creu tudalen deyrnged ar-lein yn ffordd hyfryd o gofio a dathlu bywyd rhywun a oedd yn annwyl i chi. Er efallai nad ydyn nhw yma mwyach, byddan nhw bob amser yn aros yn eich calon.
MuchLoved
Mae’n hawdd creu tudalen deyrnged gyda MuchLoved a gallwch ei phersonoli. Gallwch rannu lluniau, straeon, a goleuo cannwyll er cof am eich anwyliaid.
I greu eich tudalen deyrnged, rhowch eich manylion a dewis ‘Ambiwlans Awyr Cymru’ fel eich elusen ddewisol. Yna gallwch rannu’r ddolen gyda theulu a ffrindiau, gan ganiatáu i bawb gyfrannu at yr achos arbennig hwn.
Codi arian er cof drwy Facebook
Pan fydd yr annisgwyl yn digwydd, gall fod yn heriol iawn dod i delerau â cholli anwylyd. Gall dod o hyd i gysur ac anrhydeddu eu hatgof drwy godi arian, a helpu pobl y mae angen ein gwasanaeth arnyn nhw fod yn ffordd ystyrlon o ymdopi.
Gallwch godi arian yn eu henw ar Facebook, gallwch bersonoli’ch digwyddiad codi arian gyda lluniau a’u rhannu gyda theulu a ffrindiau.
Digwyddiad codi arian Joseff er cof am ei ddyweddi, Gemma
Gemma Harries, collapsed suddenly in the early hours of the morning on Monday 16 January 2023 after feeling breathless and experiencing chest pains. Soon after, Gemma went into cardiac arrest and received CPR straight away.
The air ambulance attended Gemma, but despite the best efforts of the crew, she passed away at her partner’s home at 10:15am.
“I decided to support the Wales Air Ambulance for my birthday as they do an amazing job, and they are vital for our community! It is the least I can do, and we all need to do what we can to support them”.
“As difficult as it all is, I want to try to make something good out of a horrible situation. People are very kind and generous it is very overwhelming, but I thank everyone who has messaged and donated, it truly does mean the world to me.
“I don’t need to say how different this birthday is going to be, but this will be a celebration in memory of Gemma Harries. She was just beautiful, and I love her to the moon and back.”- Gemma’s partner, Joseff.
Rhoi mewn Angladdau
Ar adeg o dristwch, gall dod o hyd i ffyrdd o anrhydeddu eich anwyliaid ddod â chysur i chi. Gall talu teyrnged iddyn nhw wrth gefnogi achos a oedd yn agos at eu calon fod yn arbennig o ystyrlon.
Os ydych chi eisiau cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru mewn angladd neu wasanaeth coffa, cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chefnogwyr ar 0300 0152 999.
Roedd Ambiwlans Awyr Cymru wedi gwneud eu gorau glas o ran ymdrech, cariad ac ymroddiad i geisio helpu Sam, ond yn anffodus doedd dim modd ei achub. Er cof amdano, rydym wedi bod yn codi arian ar gyfer yr elusen anhygoel hon.
Rydyn ni eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r bobl anhygoel hyn
Gemma, a gollodd ei phartner pan oedd eu mab yn ifanc iawn.
Gadewch i’r atgof amdanyn nhw fyw ymlaen…
Gwnewch rodd unigol er cof gan ddefnyddio’r botwm rhoi isod.