Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Y Broses Ryddhau

Rhan hanfodol o’n gwasanaeth achub bywydau yw Canolfan Gofal Critigol EMRTS (ECCH), sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gyswllt Glinigol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yng Nghwmbran. Dyma lle mae’r penderfyniad o rannu tasgau ein timau yn cael ei wneud.

Mae pob galwad 999 yng Nghymru yn cael ei monitro 24 awr y dydd gan un o’n hymarferwyr gofal critigol a dyranydd gofal critigol yn yr ECCH. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ceisio nodi cleifion y mae angen ymyriadau gofal critigol neilltuol arnyn nhw cyn mynd i’r ysbyty, fel anaesthetig neu drallwysiad gwaed. Mae’r cleifion hyn yn dioddef o anaf neu salwch sy’n peryglu eu bywyd neu rannau o’u corff.

Mae’r ymarferwyr gofal critigol yr un fath â’r ymarferwyr sy’n gweithio ar yr hofrenyddion a’r cerbyd ymateb cyflym.

Bydd amrywiaeth o gliwiau yn cyfeirio’r tîm at y cleifion lle gallai ymyrraeth gofal critigol cynnar wella eu canlyniad – er enghraifft person sy’n anymwybodol ac yn sownd mewn gwrthdrawiad traffig ffordd a allai fod angen trallwysiad gwaed, anaesthesia brys cyn mynd i’r ysbyty a chludiant i ganolfan niwrolawfeddygol.

Gallai rhywun sydd wedi disgyn wrth ddringo dros ffens fod yn llai amlwg ond mae potensial serch hynny i atal effeithiau hirdymor gwanychol ac effeithiau sy’n newid bywyd. Gallai’r dioddefwr fod yn ymwybodol ac yn anadlu, gydag anaf i ran isaf ei goes. Er ei fod yn ymddangos yn llai dramatig, gallai archwiliad agosach gan staff yr Ystafell Reoli ddatgelu cymhlethdodau fel toriad agored lle mae coes y claf wedi’i anffurfio’n sylweddol, ac nad oes pwls yn y droed.

Mae’r clinigwyr nawr yn gallu defnyddio technoleg i gysylltu â pherson yn y fan a’r lle drwy gamera ffôn symudol i benderfynu a oes angen Ambiwlans Awyr Cymru.

Ydych chi erioed wedi meddwl sut rydyn ni’n cael ein rhyddhau?

Bydd y fideo hwn yn dangos popeth sydd angen i chi ei wybod:

One of the allocators sat at their desk at the Critical Care Hub monitoring the multiple screens to see where the teams may be tasked.

Dim ond dechrau’r broses yw adnabod yr alwad

Mae’r broses ryddhau yn cynnwys rhybuddio’r tîm gofal critigol mwyaf priodol drwy roi gwybodaeth berthnasol am y claf, er enghraifft rhoi gwybod i dîm Caerdydd bod rhywun wedi cael ataliad ar y galon yng Nghasnewydd. Bydd y tîm sy’n ymateb wedyn yn cadarnhau i’r rhai yn y ganolfan a fyddan nhw’n mynd yno mewn hofrennydd neu ar y ffordd.

Os bydd y tîm yn hedfan yno, bydd yn cael cyfeirnod grid, neu ar gyfer teithiau ar y ffordd bydd yn cael cod post. Wrth deithio mewn hofrennydd, er y bydd y peilot a’r tîm yn penderfynu ar safle glanio pan fyddan nhw uwchben y lleoliad, yn aml mae rhagofalon i’w cymryd. Mae hyn yn cynnwys rhybuddio’r heddlu a phobl eraill yn yr ardal bod hofrennydd yn ymateb i ddigwyddiad, rhoi cyngor diogelwch i bobl ar y ddaear, a rhoi gwybod i asiantaethau eraill i osgoi “gwrthdaro” (gyda hofrenyddion eraill fel Chwilio ac Achub a allai fod yn yr ardal).

Ar adegau, efallai y bydd angen trefnu i rywun gwrdd â’r tîm pan fydd yn glanio a’u cludo i’r lleoliad, neu efallai y bydd angen i ni drefnu i gau ffordd ar frys i ganiatáu i’r hofrennydd lanio ar gerbytffordd.

Yn ystod y genhadaeth, mae’r clinigwyr yn y ganolfan yn cofnodi’r amseroedd sy’n cael eu galw gan y timau, yn trefnu cymorth logistaidd yn lleoliad y digwyddiad ac yn yr ysbyty a fydd yn derbyn y claf fel y bo’n briodol, ac mae timau meddygol yn gwneud galwad cynhadledda rhwng y timau meddygol sydd yn y digwyddiad a’r ysbytai, ac weithiau’r Prif Feddyg Ymgynghorol i gynghori neu benderfynu ar driniaeth a gwneud trefniadau priodol. Efallai y bydd holl hofrenyddion y gwasanaeth mewn digwyddiadau eraill ar yr un pryd, neu weithiau’r un digwyddiad, felly mae’r tîm yn adolygu sawl tasg ar y tro ac yn monitro galwadau 999 yn barhaus.

A gentleman sat behind a host of screens viewing potential missions

Y Broses

Mae’r naw cam isod yn amlinellu’r broses gwneud penderfyniadau a’r dull nodweddiadol sy’n cael ei fabwysiadu gan y Ganolfan Gofal Critigol wrth anfon hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru neu gerbyd ymateb cyflym i ddigwyddiad.

Sqaure icon in yellow with a white number 1 in the centre

Galwad 999

Sqaure icon in yellow with a white number 2 in the centre

Monitro

Gwrando

Logisteg

Lleoliad

Awyr neu ffordd

Archwilio

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Canlyniad

Sqaure icon in yellow with a white number 1 in the centre

Galwad 999

Sqaure icon in yellow with a white number 2 in the centre

Monitro

Gwrando

Logisteg

Lleoliad

Awyr neu ffordd

Archwilio

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Canlyniad

Sqaure icon in yellow with a white number 1 in the centre

Galwad 999

Sqaure icon in yellow with a white number 2 in the centre

Monitro

Gwrando

Logisteg

Lleoliad

Awyr neu ffordd

Archwilio

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Canlyniad

Critical Care Practitioner and alligator

Digwyddiadau nodweddiadol

 

Mae dau opsiwn rhyddhau i’r clinigwyr yn y ganolfan – ar unwaith ac archwiliad.

Bydd y tîm yn cael ei ryddhau ar unwaith pan fydd digwyddiad neu salwch â thebygolrwydd uchel y bydd angen gofal neilltuol ar y claf, fel disgyn o uchder, trywanu, taflu o gerbyd, colli rhan o’r corff neu blentyn yn cael ataliad ar y galon.

Mae archwiliad yn golygu pan fydd yr ymarferydd gofal critigol yn gwrando ar alwad i gael mwy o wybodaeth neu pan fydd yn mynd drwy gwestiynau penodol gyda’r sawl sydd wedi ffonio 999. Weithiau, gall WAST hefyd nodi bod angen sgiliau pellach, gan arwain at ryddhau ein tîm. Mae enghreifftiau o ryddhau er mwyn cynnal archwiliad yn cynnwys anafiadau marchogaeth, digwyddiadau diwydiannol neu amaethyddol, gwaedlif difrifol, ac ataliadau ar y galon.

“Thinking as the clinician, I am trying to put myself in the shoes of the CCP that is responding to the incident and thinking what they would want, what they would need at whatever incident they are attended.”

We are the gatekeepers in communication.

Corey Mead, Critical Care Practitioner.

Critical Care Practitioner facing the screens at the critical care hub. Three screens and an iPad providing information of every 999 call made to the ambulance service.