Cafodd bywyd Craig Harrendence ei achub gan ein meddygon ym mis Ebrill 2023 ar ôl iddo ddioddef anafiadau catastroffig yn dilyn damwain beic modur ddifrifol a achosodd iddo gael ei daflu 60 troedfedd oddi ar gefn ei feic.
Cyrhaeddodd ein tîm o fewn munudau a chanfod Craig yn gorwedd â’i wyneb i lawr gyda’i helmed yn dal ymlaen. Roedd ein meddygon wrthi’n dychwelyd o ddigwyddiad arall i’n canolfan yn Nafen, Llanelli, pan wnaethant dderbyn yr alwad. Wrth gyrraedd y lleoliad, rhoddodd ein meddygon ni anesthetig cyffredinol i Craig ar ochr y ffordd ac roedd angen trallwysiad gwaed arno hefyd – fel rydych yn gwybod, nid yw’r driniaeth hon fel arfer ar gael y tu allan i amgylchedd ysbyty.
Roedd y beiciwr modur profiadol wedi clipio llain ganol yr A48 ger Penllergaer, Abertawe, ychydig funudau ar ôl gadael ei gartref. Cafodd anafiadau sylweddol o ganlyniad i hyn a bu’n brwydro am ei fywyd.
Yn ôl Craig, sy’n 53 oed, llwyddodd Ambiwlans Awyr Cymru i achub ei fywyd ac mae’n ddiolchgar iawn iddynt. Gyda 35 mlynedd o brofiad ar gefn ei feic, nid oedd erioed wedi dychmygu y byddai angen help gan yr Elusen.
Dywedodd: “Nid wyf yn cofio llawer am y digwyddiad, ond roeddwn wedi cael anafiadau drwg. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn achub bywydau, nid oes amheuaeth am hynny.”
Gan fod pwysedd gwaed Craig yn isel iawn, sy’n arwydd posibl o waedu mewnol, a’i galon yn curo mor gyflym, sylweddolodd y meddygon yn gyflym y byddai angen y cynnyrch gwaed sy’n cael ei gludo ar yr hofrennydd ar Craig.
Dywedodd Dr Chris Hingston, a helpodd i’w drin yn y fan a’r lle: “Yn y diwedd, roedd angen bron yr holl gynnyrch gwaed rydym yn ei gario ar Craig. Mae bob amser yn bryder i ni gan na fydd cleifion sydd mor wael â hynny yn goroesi’n aml.”
Ar ôl sylweddoli bod crac yn helmed Craig, a gweld Craig yn dechrau cynhyrfu a drysu, roedd y meddygon yn amau ei fod wedi cael anaf i’w ben, felly rhoddwyd anesthetig cyffredinol iddo.
Ychwanegodd Dr Hingston, a ofalodd am Craig yn yr adran gofal dwys hefyd: “Gwnaethom roi cyffuriau arbenigol i helpu gyda’r clotiau gwaed, a sylweddoli y byddai angen anesthetig cyffredinol ar Chris ar ochr y ffordd, nid yn unig ar gyfer lleddfu poen, ond oherwydd byddai angen ymyriadau ychwanegol arno ar ôl cyrraedd yr ysbyty.”
Cafodd y cyn Beiriannydd Brenhinol ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gan ein tîm.
Wrth fyfyrio ar yr hyn y mae wedi ei brofi, dywedodd Craig – sy’n parhau i gael ffisiotherapi: “Roedd fy nghoes chwith wedi agor ac roedd modd gweld fy ffibwla, ond roedd fy asgwrn pelfig wedi torri. Roedd fy ysgyfaint wedi ymgwympo, dueg wedi torri, ac roedd lefel fy ngwaed yn isel yn fewnol ac nid oedd hynny’n arwydd da. Roedd yn rhaid tynnu fy mhen ôl.”
Dihunodd Craig dri diwrnod ar ôl ei ddamwain a dywedwyd wrtho ‘nad oedd pethau’n ymddangos yn dda o gwbl’, ei bod hi’n annhebygol y byddai’n cerdded eto, a byddai angen cadair olwyn arno.
Aeth ymlaen i ddweud: “Rwy’n ddyn ystyfnig, ac roeddwn yn benderfynol o wella. Treuliais 10 wythnos yn yr ysbyty, a chefais fynd adref wedyn. Roedd fy adferiad yn syndod mawr i fy ymgynghorydd, ac roedd y ffysios wedi synnu.
“Rwyf wedi lleihau’r feddyginiaeth rwy’n ei chymryd, yn unol â’m gofyniad i wneud hynny, ac rwy’n hunan-gathetreiddio nawr felly mae’n rhaid i mi fod yn ofalus gyda’r hyn rwy’n ei fwyta – dim pitsa na gwin coch i mi! Ond rwy’n annibynnol iawn ac yn ymdopi’n dda.”
Aeth Craig, sydd nawr wedi dychwelyd i’w swydd fel saer i Gyngor Abertawe, ymlaen i ddweud: “Hoffwn ddiolch i Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd oni bai am yr ymyriad gan y gwasanaeth, nid wyf yn credu y byddwn i yma. Byddai’r canlyniad wedi bod yn gwbl wahanol – ni fyddwn yma heddiw yn siarad am yr hyn a ddigwyddodd i mi.”
Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae’n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf.
Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn cyflenwi ymgynghorwyr medrus iawn ac ymarferwyr gofal critigol o’r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.
Fel gwasanaeth i Gymru gyfan, bydd y criwiau ymroddedig, waeth ble maent wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy’n achub bywyd mewn argyfwng.