Rhoi drwy Facebook
Ydych chi’n mwynhau defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol? Mae rhannu eich pen-blwydd, pen-blwydd arbennig neu gofio am eich anwyliaid gydag Ambiwlans Awyr Cymru yn ffordd wych o achub bywydau – a gallwch wneud hynny i gyd drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Dechrau arni
Mae Facebook wedi ei gwneud hi’n syml ac yn hawdd codi arian drwy eich tudalen:
- Ewch i’r dudalen Facebook Fundraisers yma.
- Chwiliwch am Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru a’i dewis.
- Dewiswch eich targed codi arian yn seiliedig ar faint rydych chi eisiau ei godi a rhoi teitl i’ch digwyddiad codi arian
- Nodwch pam rydych chi’n codi arian i ni (bydd Facebook hefyd yn rhoi awgrymiadau i chi).
- Dewiswch ddyddiad gorffen
- Byddwch yn cael delwedd wedi’i llenwi ymlaen llaw ond gallwch ei haddasu drwy lwytho un eich hun i fyny.
- Pwyswch creu a bydd eich tudalen yn barod i’w rhannu.
- Yna, gwyliwch wrth i’ch ffrindiau ar Facebook ymweld â’ch tudalen a gwneud rhoddion.
Y gwahaniaeth mae’r arian rydych chi’n ei godi yn ei wneud
Rydym yn dibynnu’n llwyr ar roddion gan y cyhoedd i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n fflyd o geir ar y ffyrdd. Mae pob rhodd, yn fawr neu’n fach, yn allweddol.
Diolch i godwyr arian hael fel chi, gallwn:
- Ymateb i argyfyngau 24/7. Mae ein criwiau yn barod 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i ddarparu gofal critigol neilltuol sy’n achub bywydau ledled Cymru.
- Darparu gwasanaeth Cymru gyfan. Bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywydau ar frys.
- Darparu gofal ar lefel ysbyty ar y safle. Gall y criw medrus iawn roi triniaethau meddygol a fyddai fel arfer ar gael mewn lleoliad ysbyty yn unig.
- Cadw ein fflyd yn weithredol. Mae angen i ni godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
- Ailuno teuluoedd. Diolch i’ch cefnogaeth chi, mae ein cleifion yn gallu parhau i dreulio amser gyda’u hanwyliaid.
Cwestiynau Cyffredin am Roi drwy Facebook
Beth yw Facebook Charitable Giving?
Lansiodd Facebook ei offer rhoi i elusennau (charitable giving) yn y DU ym mis Tachwedd 2017.
Mae’r swyddogaeth yn caniatáu i bobl roi i elusen o’u dewis neu ddechrau tudalen codi arian, yn uniongyrchol drwy Facebook.
Un o fanteision hyn yw ei fod yn caniatáu i bobl gyfrannu’n uniongyrchol i elusen o’u dewis heb orfod mynd i wefan trydydd parti.
Sut mae rhannu fy tudalen codi arian ar Facebook?
O’ch Tudalen Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru, gallwch rannu’r dudalen gyfan, rhodd benodol neu bost penodol ar Facebook.
- I rannu’r dudalen gyfan, cliciwch y botwm Rhannu glas, ac yna’r eicon Facebook.
- I rannu post neu rodd, cliciwch yr eicon Rhannu pinc yn y gornel dde isaf ac yna’r eicon Facebook.
Sut alla i roi i Ambiwlans Awyr Cymru drwy Facebook?
Mae sawl ffordd o roi ar Facebook.
O’n tudalen Facebook:
- Clicio Rhoi o dan lun clawr y Dudalen.
- Clicio faint rydych chi eisiau ei roi neu nodi swm.
- Dewis dull talu.
- Clicio Rhoi [Swm].
O bost a gyhoeddwyd ar ein tudalen neu a rannwyd gan rywun sydd wedi rhoi:
- Clicio Rhoi ar y post.
- Clicio faint rydych chi eisiau ei roi neu nodi swm.
- Dewis dull talu.
- Darllen y datganiad Cymorth Rhodd ac ychwanegu Cymorth Rhodd at eich rhodd os yw’n berthnasol.
- Clicio Rhoi [Swm].
O dudalen codi arian ar Facebook:
- Clicio Rhoi ar frig y dudalen codi arian.
- Clicio faint rydych chi eisiau ei roi neu nodi swm.
- Dewis dull talu.
- Darllen y datganiad Cymorth Rhodd ac ychwanegu Cymorth Rhodd at eich rhodd os yw’n berthnasol.
- Clicio Rhoi [Swm].
Sut alla i ddod o hyd i'm tudalen codi arian ar Facebook?
Cliciwch Fundraisers yn y ddewislen chwith ar y dudalen News Feed ar Facebook. Efallai y bydd angen i chi ehangu’r ddewislen i ddod o hyd iddo.
Ffyrdd eraill o roi