Gwirfoddoli gydag Ambiwlans Awyr Cymru
Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan allweddol o Ambiwlans Awyr Cymru. Maen nhw’n ddarparu gwybodaeth, sgiliau a chymorth ychwanegol i gefnogi’r elusen, boed hynny drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian cymunedol, helpu yn ein siopau neu gasglu blychau rhoi i elusen.
Maen nhw’n allweddol i’n llwyddiant, ac rydyn ni’n falch o gael tîm angerddol ac ymroddedig o wirfoddolwyr sy’n mynd y tu hwnt i gefnogi eu cymuned leol. Yn syml, ni allwn weithredu ein gwasanaethau na pharhau i achub bywydau heb gefnogaeth ein gwirfoddolwyr gwych.
Mae gwirfoddoli yn gwbl hyblyg; gallwch ymrwymo i gymaint neu gyn lleied o amser ag y dymunwch. Yn gyfnewid am hynny, byddwn yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i chi i lwyddo yn y rôl drwy hyfforddiant a chefnogaeth. Byddwch yn cael eich ad-dalu am dreuliau cymeradwy ac yn cael lwfans teithio yn ogystal â disgowntiau yn ein siopau a’n caffis.
Gwneud cais i wirfoddoli
Pam gwirfoddoli?
Yn ogystal â’n cefnogi i barhau â’n gwaith achub bywydau, mae gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru yn eich galluogi i gefnogi eich cymuned, ac mae llawer o fanteision i chi’ch hun hefyd:
- Helpu i godi ymwybyddiaeth a phroffil Ambiwlans Awyr Cymru.
- Cyfle gwych i wneud ffrindiau a chymdeithasu.
- Meithrin sgiliau a phrofiadau newydd.
- Edrych yn dda ar eich CV.
- Effaith gadarnhaol ar eich llesiant a’ch hyder.
- O fudd i’ch cymuned ac yn helpu eraill mewn angen.
- Profiad boddhaol a gwerth chweil.
- Rhoi ymdeimlad o bwrpas a pherthyn.
Pa rolau alla i eu gwneud fel gwirfoddolwr?
Rydyn ni’n hyderus y bydd gennym rôl i weddu i’ch anghenion, eich profiad a’ch nodau. P’un a ydych chi eisiau cwrdd â phobl newydd, rhoi yn ôl i’r elusen rydych chi’n angerddol amdani, neu lenwi ychydig o amser sbâr, byddem yn falch o’ch cael chi’n rhan o’n cymuned wirfoddoli.
Isod mae rhestr o’r rolau a’r cyfleoedd presennol sydd ar gael yn yr elusen, ond os oes gennych set sgiliau penodol neu’n frwdfrydig am rywbeth nad yw’n cael ei restru yma, cysylltwch â ni.
Cymryd rhan yn y rhaglen Hedfan i’r Dyfodol
Os ydych chi dan 25 oed ac yn awyddus i roi hwb i’ch rhagolygon swyddi yn y dyfodol, yna efallai y bydd ein rhaglen ‘hedfan i’r dyfodol’ yn berffaith i chi.
Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan grant Cymdeithas Adeiladu’r Principality a’i nod yw rhoi hwb hanfodol i wirfoddolwyr ifanc sy’n chwilio am waith.
Dysgu mwy am y cynllun hwn
Y rolau sydd ar gael
Cyflwynydd sgyrsiau ar-lein
Positions Available: 2
Location: Monmouthshire & Newport
If you’re looking for the chance to meet new people or work with your local community, becoming a fundraising volunteer could be perfect for you. The role is varied but includes giving short presentations about our charity work. The role is homebased.
If you think you could be the perfect ambassador for our charity either click on this link to fill in the application form or email Sandra Hembery at volunteering@walesairambulance.com.
Cydlynydd Tuniau Casglu Arian – Sir Fynwy a Chasnewydd
Positions Available: 2
Location: Monmouthshire & Newport
If you’re looking for the chance to meet new people or work with your local community, becoming a fundraising volunteer could be perfect for you. The role is varied but includes helping to collect and replace collection tins throughout the community. The role is homebased.
If you think you could be the perfect ambassador for our charity either click on this link to fill in the application form or email Sandra Hembery at volunteering@walesairambulance.com.
Cydlynydd Tuniau Casglu Arian – Bro Morgannwg, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent
Positions Available: 4 for each county
Location: Vale of Glamorgan, Merthyr Tydfil, Caerphilly, Blaenau Gwent
If you’re looking for the chance to meet new people or work with your local community, becoming a fundraising volunteer could be perfect for you. The role is varied but includes helping to collect and replace collection tins throughout the community. The role is homebased.
If you think you could be the perfect ambassador for our charity either click on this link to fill in the application form or email Sandra Hembery at volunteering@walesairambulance.com.
Cynorthwyydd Manwerthu – Y Mwmbwls
Positions Available: 3
Cynorthwyydd Manwerthu – Bangor
Positions Available: 3
Why not support us by volunteering at our Bangor shop? Our team of volunteers come from all walks of life, from retired professionals to students who want to build up their CV. The role includes: Providing excellent customer service, operating the till, taking calls, and receiving donations.
The candidate will need to be a multi-tasker and confident in all aspects of retail work. You will also sort through items before processing them, while ensuring the shop is clean and tidy.
If you think you could be the perfect ambassador for our charity either click on this link to fill in the application form or email Sandra Hembery at volunteering@walesairambulance.com.
Cydlynydd Tuniau Casglu Arian – Sir Gaerfyrddin
If you’re looking for the chance to meet new people or work with your local community, becoming a fundraising volunteer could be perfect for you. The role is varied but includes helping to collect and replace collection tins throughout the community. The role is homebased.
If you think you could be the perfect ambassador for our charity either click on this link to fill in the application form or email Sandra Hembery at volunteering@walesairambulance.com.
Gwirfoddolwr Cymunedol a Chodi Arian – Ceredigion
If you think you could be the perfect ambassador for our charity either click on this link to fill in the application form or email Sandra Hembery at volunteering@walesairambulance.com.
Gwirfoddolwr Cymunedol a Chodi Arian – Llanbedr Pont Steffan ac Aberhonddu
If you think you could be the perfect ambassador for our charity either click on this link to fill in the application form or email Sandra Hembery at volunteering@walesairambulance.com.
Cynorthwyydd Manwerthu – Wrecsam
Positions Available: 3
Cynorthwyydd Manwerthu – Dinbych-y-pysgod
Positions Available: 5
Why not support us by volunteering at our Tenby shop? Our team of volunteers come from all walks of life, from retired professionals to students who want to build up their CV. The role includes: Providing excellent customer service, operating the till, taking calls, and receiving donations. You will also sort through items before processing them, while ensuring the shop is clean and tidy.
If you think you could be the perfect ambassador for our charity either click on this link to fill in the application form or email Sandra Hembery at volunteering@walesairambulance.com.
Cynorthwyydd Manwerthu – Abertawe
Rolau sydd ar gael: 5
Beth am ein cefnogi drwy wirfoddoli yn ein siop yn Abertawe? Mae ein tîm o wirfoddolwyr yn dod o bob cefndir, o weithwyr proffesiynol wedi ymddeol i fyfyrwyr sydd eisiau adeiladu eu CV. Mae’r rôl yn cynnwys: Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gweithredu’r till, derbyn galwadau, a derbyn rhoddion. Byddwch hefyd yn rhoi trefn ar eitemau cyn eu prosesu, ac yn sicrhau bod y siop yn lân ac yn daclus.
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod yn llysgennad perffaith i’n helusen, cliciwch y ddolen hon i lenwi’r ffurflen gais neu anfon e-bost at Sandra Hembery yn volunteering@walesairambulance.com.
Cynorthwyydd Manwerthu – Yr Wyddgrug
Cynorthwyydd Manwerthu – Y Fenni
Rolau sydd ar gael: 5
Beth am ein cefnogi drwy wirfoddoli yn ein siop yn y Fenni? Mae ein tîm o wirfoddolwyr yn dod o bob cefndir, o weithwyr proffesiynol wedi ymddeol i fyfyrwyr sydd eisiau adeiladu eu CV. Mae’r rôl yn cynnwys: Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gweithredu’r till, derbyn galwadau, a derbyn rhoddion. Byddwch hefyd yn rhoi trefn ar eitemau cyn eu prosesu, ac yn sicrhau bod y siop yn lân ac yn daclus.
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod yn llysgennad perffaith i’n helusen, cliciwch y ddolen hon i lenwi’r ffurflen gais neu anfon e-bost at Sandra Hembery yn volunteering@walesairambulance.com.
Cynorthwyydd Manwerthu – Pen-y-bont ar Ogwr
Rolau sydd ar gael: 5
Beth am ein cefnogi drwy wirfoddoli yn ein siop newydd sbon ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Mae ein tîm o wirfoddolwyr yn dod o bob cefndir, o weithwyr proffesiynol wedi ymddeol i fyfyrwyr sydd eisiau adeiladu eu CV. Mae’r rôl yn cynnwys: Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gweithredu’r till, derbyn galwadau, a derbyn rhoddion. Byddwch hefyd yn rhoi trefn ar eitemau cyn eu prosesu, ac yn sicrhau bod y siop yn lân ac yn daclus.
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod yn llysgennad perffaith i’n helusen, cliciwch y ddolen hon i lenwi’r ffurflen gais neu anfon e-bost at Sandra Hembery yn volunteering@walesairambulance.com.
Gwirfoddolwr Cymunedol a Chodi Arian – Sir Gaerfyrddin
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod yn llysgennad perffaith i’n helusen, cliciwch y ddolen hon i lenwi’r ffurflen gais neu anfon e-bost at Sandra Hembery yn volunteering@walesairambulance.com.
Gwirfoddolwr Cymunedol a Chodi Arian – Rhondda Cynon Taf
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod yn llysgennad perffaith i’n helusen, cliciwch y ddolen hon i lenwi’r ffurflen gais neu anfon e-bost at Sandra Hembery yn volunteering@walesairambulance.com.
Gwirfoddolwr Cymunedol a Chodi Arian – Pen-y-bont ar Ogwr
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod yn llysgennad perffaith i’n helusen, cliciwch y ddolen hon i lenwi’r ffurflen gais neu anfon e-bost at Sandra Hembery yn volunteering@walesairambulance.com.
Cynorthwyydd Manwerthu – Tywyn
Beth am ein cefnogi drwy wirfoddoli yn ein siop yn Nhywyn? Mae ein tîm o wirfoddolwyr yn dod o bob cefndir, o weithwyr proffesiynol wedi ymddeol i fyfyrwyr sydd eisiau adeiladu eu CV. Mae’r rôl yn cynnwys: Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gweithredu’r till, derbyn galwadau, a derbyn rhoddion. Byddwch hefyd yn rhoi trefn ar eitemau cyn eu prosesu, ac yn sicrhau bod y siop yn lân ac yn daclus.
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod yn llysgennad perffaith i’n helusen, cliciwch y ddolen hon i lenwi’r ffurflen gais neu anfon e-bost at Sandra Hembery yn volunteering@walesairambulance.com.
Cynorthwyydd Manwerthu – rolau amrywiol – Cwmdu
Beth am ein cefnogi drwy wirfoddoli yn ein warws yng Nghwmdu? Mae ein tîm o wirfoddolwyr yn dod o bob cefndir, o weithwyr proffesiynol wedi ymddeol i fyfyrwyr sydd eisiau datblygu eu CV. Mae’r rolau canlynol ar gael –
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod yn llysgennad perffaith i’n helusen, cliciwch y ddolen hon i lenwi’r ffurflen gais neu anfon e-bost at Sandra Hembery yn volunteering@walesairambulance.com.
Oeddech chi’n gwybod?….. Mae ein hymddiriedolwyr yn wirfoddolwyr hefyd.
Mae ymddiriedolwyr yn wirfoddolwyr sy’n gyfreithiol gyfrifol am reoli a darparu gwasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru. Maen nhw’n sicrhau bod yr Elusen yn gwneud yr hyn y mae wedi’i sefydlu i’w wneud, ei bod yn gweithredu o fewn dibenion yr elusen a bod ei buddiolwyr yn cael eu cefnogi’n llawn
Cwestiynau Cyffredin am Wirfoddoli
Dyma atebion i rai o’r cwestiynau cyffredin a allai fod gennych am wirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru.
Os na allwch ddod o hyd i’r ateb rydych chi’n chwilio amdano, cysylltwch â’n cydlynydd gwirfoddolwyr yn volunteering@walesairambulance.com neu ffonio 0300 0152 999.
Fydd gwirfoddoli yn effeithio ar fy mudd-daliadau?
I lawer o bobl mae gwirfoddoli yn ffordd wych o feithrin sgiliau a phrofiad newydd neu ychwanegu profiad at eich CV, yn enwedig os ydych chi’n chwilio am swydd. Ni fydd gwirfoddoli yn effeithio ar eich Lwfans Ceisio Gwaith cyn belled â’ch bod yn chwilio am waith.
Fydd angen Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd arna i?
Efallai y bydd angen gwiriad DBS ar rai rolau gwirfoddoli.
Fydda i'n cael fy ad-dalu am dreuliau?
Mae ein gwirfoddolwyr yn ddi-dâl; fodd bynnag, byddwn yn ad-dalu ein gwirfoddolwyr am dreuliau teithio a chynhaliaeth fel y nodir yn y polisi gwirfoddoli.
Fydda i'n cael hyfforddiant?
Byddwch yn cael rhaglen gynefino a hyfforddi ar gyfer eich rôl a byddwch yn cael eich gwahodd i sesiwn Gynefino Corfforaethol a all gynnwys ymweliad ag un o’n meysydd awyr.
Faint o amser sydd angen i mi ei roi?
Eich dewis chi yn llwyr yw hynny. P’un a ydych yn dymuno gwneud un awr yr wythnos mewn digwyddiad, neu ugain awr yr wythnos yn un o’n siopau, rydyn ni’n ddiolchgar am unrhyw help. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i’w wneud yn bleserus ac yn werth chweil.
Faint oed sydd angen i mi fod i wirfoddoli?
Penderfynir ar yr oedran ar gyfer pob rôl fesul achos. Cysylltwch â’n tîm gwirfoddoli i gael y cyfyngiadau oedran ar gyfer rolau penodol.
Oes angen profiad arna i?
Mae gan bob rôl amlinelliad rôl penodol sy’n nodi’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen. P’un a oes gennych brofiad ai peidio, rydyn ni bob amser yn ceisio dod o hyd i rôl sy’n addas i chi. Cyn belled â’ch bod chi’n frwdfrydig, ac yn barod i’n cefnogi, byddem wrth ein bodd yn eich cael chi yn rhan o’n tîm.
Pam ddylwn i wirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru?
Mae llawer o resymau pam mae pobl yn dewis gwirfoddoli i ni. Mae’r mwyafrif o’n gwirfoddolwyr yn ymuno â ni oherwydd bod ein helusen wedi effeithio arnyn nhw, a’u bod yn adnabod rhywun y mae angen ein help arnyn nhw, felly maen nhw eisiau rhoi rhywbeth yn ôl. Mae eraill eisiau cwrdd â phobl newydd, a meithrin sgiliau a phrofiad newydd, a chefnogi eu cymuned leol. Ni waeth beth yw’r rheswm, byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â’n tîm!
Mae gen i anabledd, alla i wirfoddoli o hyd?
Gallwch, mae rôl i bawb yn Ambiwlans Awyr Cymru. Rydyn ni eisiau clywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, gan gynnwys os ydych chi’n byw gydag anabledd.
Os ydw i'n dechrau rôl ond ddim yn ei hoffi, ydw i'n gallu newid rolau?
Os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, anfonwch e-bost at ein cydlynydd gwirfoddolwyr i drafod yr opsiynau eraill – volunteering@walesairambulance.com.
Alla i wneud cais am sawl rôl?
Gallwch wneud cais am sawl rol a gwneud gwahanol fathau o wirfoddoli, er enghraifft, gwirfoddoli yn un o’n siopau a chasglu bwcedi arian.
Beth os oes gen i euogfarn droseddol?
Bydd pob cais yn cael ei ystyried. Rhaid i chi ddatgelu a oes gennych unrhyw euogfarnau troseddol nad ydyn nhw wedi dod i ben. Fodd bynnag, ni fydd hyn o reidrwydd yn eich atal rhag gwirfoddoli i ni.
Oes angen geirdaon arna i?
Oes, pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais, byddwn yn gofyn i chi ddarparu manylion dau ganolwr. Rhaid iddyn nhw fod o leiaf 18 oed ac nid yn berthynas i chi. Dylai pob canolwr fod yn barod i roi geirda i ni a gwybod y gallwn gysylltu â nhw.