Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Gwasanaethau hedfan

Gyda’n gilydd, gallwn achub bywydau

Rhoi Heddiw

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn bartneriaeth rhwng y trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat – gyda phartneriaid o’r byd meddygol ac o’r diwydiant hedfan.

Mae’r elusen yn ariannu’r hofrenyddion a’r cerbydau ymateb cyflym, felly rydym yn dibynnu ar eich rhoddion hael chi i gyllido pob taith.

Ym mis Mawrth 2022, gwnaethom gyhoeddi ein partner hedfan newydd, Gama Aviation Plc, a dechreuwyd trosglwyddo o’r hen ddarparwr i Gama. Roedd ein hymddiriedolwyr wedi dod i benderfyniad ar y contract, sy’n werth £65 miliwn, yn dilyn proses gaffael fanwl dros 18 mis a oedd yn cynnwys mewnbwn gan weithwyr proffesiynol o’r byd meddygol ac o’r diwydiant hedfan.

Gama Aviation sy’n darparu ein peilotiaid a’n peirianwyr gyda chontract i gynnal y gwaith a’n fflyd o hofrenyddion H145. Maent hefyd yn gyfrifol am ddarparu hofrennydd H145 wrth gefn fel bod yna ddarpariaeth gyflawn ar gael yn ystod cyfnodau o gynnal a chadw’r hofrenyddion eraill.

Fel y rhagwelwyd, o ganlyniad i’r cynnydd yng nghost nwyddau a gwasanaethau yn fyd-eang, ynghyd â chontract hirdymor newydd, roedd yna gynnydd sylweddol yn yr arian sydd ei angen i gyflenwi’r gwasanaeth hwn sy’n achub bywydau. Felly, roedd ein targed i gynnal y gwasanaeth awyr hwn a’n cerbydau ymateb cyflym wedi codi o £8 miliwn i £11.2 miliwn y flwyddyn.

Trosglwyddo i ddarparwr hedfan newydd

Mae newid darparwr hedfan yn gymhleth iawn gan ystyried y bobl arbenigol sy’n darparu’r gwasanaethau – yn yr achos hwn, roedd yna beilotiaid wedi parhau gyda’r gwasanaeth ond roedd hefyd angen chwilio am 11 peilot ATPL H145 HEMS arall a allai weithredu yng Nghymru, ynghyd â’r peirianwyr hanfodol.

Diolch i’r cydweithrediad rhwng y darparwr blaenorol Babcock, a oedd wedi bod yn bartner i’r elusen ers sawl blwyddyn, a’r darparwr gwasanaeth newydd GAMA Aviation, llwyddwyd i gyflawni’r broses drosglwyddo yn weddol esmwyth.

Yn wir, oherwydd eu gwaith caled, cyflawnwyd y gwaith trosglwyddo 18 diwrnod yn gynnar! Roedd y gwaith a wnaeth y ddau sefydliad wedi sicrhau bod y bobl wedi cael pob gofal a bod yr offer peirianneg wedi’i drosglwyddo’n effeithlon. Hefyd, rhaid cofio bod Ambiwlans Awyr Cymru hefyd wedi ymgymryd â’r cyfrifoldebau prydles ar gyfer tri o’r hofrenyddion yn uniongyrchol – penderfyniad a wnaed i roi lefel ychwanegol o amddiffyniad mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd cynyddol.

Red helicopter taking off with trees in background

I’r Awyr

Ar ôl y trosglwyddiad, cododd yr hediad cyntaf o Faes Hofrennydd Caerdydd bythefnos cyn y Nadolig, ac roedd hi’n foment emosiynol i’r peilot profiadol James Grenfell, Pennaeth Gweithrediadau Hedfan Gama Aviation yng Nghymru.

Dywedodd: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn mynd â’r adran achosion brys at y claf ym mhob cwr o Gymru. Yr hofrennydd H145 yw’r pinacl absoliwt o’r hyn sydd ei angen arnom ar gyfer gwasanaethau meddygol brys ac ar gyfer Cymru. Mae’n gallu cario’r tanwydd, mae’n ddygn, a gall lanio yng ngardd gefn rhywun.

“O safbwynt diogelwch, mae gan y diwydiant hedfan brotocolau llym. Mae gan yr holl hofrenyddion drefn gwasanaethu drylwyr. Mae’n cynnwys popeth fel archwiliadau dyddiol, arolygiadau wythnosol, niferoedd o oriau, 100-awr, 200-awr, 400-awr, 800-awr, arolygiadau blynyddol ac arolygiadau afionig.

“Mae’r hofrenyddion yn cael eu cynnal a’u cadw ar lefel eithriadol o uchel.”

Close up image of pilot sat in the helicopter

Dwi’n gweld yr hofrenyddion yn aml, ond wrth weld yr hofrennydd cyntaf hwnnw gyda’r sticer Gama arno fel rhan o ymgyrch newydd Ambiwlans Awyr Cymru, daeth hynny â deigryn i’m llygad bron.

Roedd yn anhygoel.

Beth sy’n dod nesaf?

Y newid cyffrous nesaf ar gyfer ein hofrenyddion fydd uwchraddio ein H145 i’r D3, sef fersiwn 5 llafn o’r hofrennydd. Bydd peirianwyr GAMA yn uwchraddio rhai o’r hofrenyddion i osod llafn arall. Mae’r uwchraddiad yn cynnig budd sylweddol i gleifion oherwydd bydd y cerbyd yn dirgrynu llai, yn fwy sefydlog ac yn gallu cario mwy o lwyth defnyddiol. Bydd y gwaith ei hun yn cymryd tua X o oriau, gyda X o bobl, ac wrth gwrs, byddwn yn rhaglennu’r gwaith i sicrhau mai dim ond un hofrennydd fydd yn cael ei addasu ar y tro gan sicrhau bod y fflyd lawn o bedwar hofrennydd bob amser ar gael i’r rhai mewn angen.

The new liveried WAA helicopter on scene in a field in front of a church.

Lifrai’r cerbydau

Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae ein hofrenyddion yn cael eu trosi o hofrennydd safonol i ambiwlans awyr? Neu, sut rydym yn eu dylunio i arddangos y ddraig goch adnabyddus a welwch yn yr awyr. Mae’r fideo hwn yn dangos sut:

Red helicopter taking off with trees in background