Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Gwasanaethau Ysgrifennu Ewyllys Am Ddim

Mae eich gwaddol yn achub bywydau

Ynghyd â llawer o elusennau eraill, rydyn ni’n cynnig gwasanaeth ysgrifennu Ewyllys am ddim, gydag opsiynau i gysylltu â chyfreithiwr neu ysgrifennu eich Ewyllys ar-lein. Nid oes rhaid i chi gynnwys rhodd i Ambiwlans Awyr Cymru i ddefnyddio’r gwasanaeth am ddim, ond rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n ystyried cefnogi ein gwaith achub bywydau, gan ein galluogi i amddiffyn eich teulu mewn cenedlaethau i ddod.

P’un a ydych yn dymuno ysgrifennu eich Ewyllys ar-lein neu gyda chyfreithiwr, mae ein partneriaid yma i helpu, gan ei gwneud yn broses syml.

Y Rhwydwaith Ewyllysiau Rhydd Cenedlaethol

Mae’r Rhwydwaith Ewyllysiau Rhydd Cenedlaethol yn rhwydwaith cenedlaethol o gyfreithwyr lleol sy’n cynnig Ewyllysiau am ddim i gefnogwyr elusennau. Rydyn ni’n eich atgyfeirio at y rhwydwaith a byddwch yn cael pecyn yn y post gyda’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Dewiswch gyfreithiwr lleol, gwnewch apwyntiad i’w gweld a gwneud eich Ewyllys.

I gael eich atgyfeirio at y Rhwydwaith Ewyllys Rhydd Cenedlaethol, cysylltwch ag aelod o’ch Tîm Ymgysylltu â Chefnogwyr drwy anfon e-bost i legacy@walesairambulance.com neu ffonio 0300 0152 999.

Ymweld
National free wills network logo

Octopus Legacy

Mae Octopus Legacy yn cynnig proses ar-lein syml i wneud cynllunio ac ysgrifennu eich Ewyllys yn brofiad cadarnhaol. Dilynwch y canllaw cam wrth gam hawdd, rhoi eich manylion a’ch dymuniadau a dyna ni. Mae eich Ewyllys yn cael ei gwirio gan arbenigwr mewnol, yna bydd yn cael ei hanfon yn ôl atoch i’w hargraffu, ynghyd â chyfarwyddiadau ar sut i wneud eich Ewyllys yn gyfreithiol rwymol.

I wneud eich ewyllys rhad ac am ddim ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod. cliciwch yma.

Ymweld
Octopus Legacy Logo

Mae eich gwaddol yn achub bywydau

Os ydych chi’n penderfynu gadael rhodd i ni, diolch. Beth bynnag yw eich rheswm, ni allwn roi mewn geiriau’r gwahaniaeth y gall eich rhodd ei wneud.

Bydd eich rhodd arbennig yn galluogi ein criwiau arwrol i gyrraedd cleifion sy’n wynebu colli eu bywyd, gan eu hailuno â’u teulu.

Bydd eich haelioni bob amser yn cael ei gofio, a phob tro y bydd eich anwyliaid yn gweld un o’n hofrenyddion neu gerbyd ymateb brys, byddan nhw’n dawelach eu meddwl yn gwybod eich bod chi’n rhan o’r broses o roi’r cyfle gorau posibl i’r claf hwnnw.

Y bywydau rydych chi wedi'u hachub

“Roedd gwneud Ewyllys ar-lein yn apelio ata i oherwydd gallwn ei wneud ar adeg cyfleus i fi, a doedd dim angen i fi wneud apwyntiad i weld rhywun. Cefais fy synnu ar yr ochr orau mai dim ond tua 20 munud a gymerodd i mi wneud fy Ewyllys.

Byddwn i’n annog unrhyw un i lunio Ewyllys, mae mor hawdd

Eich rhodd olaf fydd rhoi cyfle i achub bywyd rhywun arall.