Elusen Ambiwlans Awyr Cymru
Gofyn am Sgwrs
Mae sgyrsiau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein yn ffordd dda o ddysgu am waith hanfodol Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae’r sgyrsiau diddorol hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i’n helusen ac yn tynnu sylw at straeon anhygoel y rhai sydd wedi elwa o’n gwasanaeth diolch i’ch cefnogaeth chi.
Oherwydd nifer y ceisiadau rydyn ni’n eu cael, nid ydym yn gallu cyflwyno sgwrs i bob grŵp. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio gwneud ein gorau.
Mae ein sgyrsiau’n cael eu cyflwyno gan ein gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig neu Reolwr Codi Arian Rhanbarthol.
Sylwer, mae’n annhebygol iawn y bydd un o’n criw yn gallu cymryd rhan yn y sgwrs.