Bob blwyddyn, mae angen i ni godi £11.2 miliwn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a chadw cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae pob rhodd, fawr neu fach, yn cael effaith ac mae llawer o ffyrdd i chi roi:
Rhoi’n rheolaidd
Gall rhodd fisol reolaidd ein helpu i gynllunio ein hincwm yn y dyfodol, a diogelu eich teulu ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Rhoi
Mewn dathliad
Dathlu eich achlysur arbennig trwy ofyn i’ch anwyliaid gyfrannu i elusen yn hytrach na rhoi anrhegion. Trwy ddewis cefnogi ein helusen ar eich pen-blwydd, eich dathliad neu eich priodas, byddwch yn ein helpu i barhau i achub bywydau ledled Cymru.
Mwy o wybodaeth
Gadael Rhodd yn eich Ewyllys
Bydd Ewyllys yn gwneud amser anodd ychydig yn haws i’r rhai o’ch cwmpas. Rydyn ni’n gobeithio, ar ôl gofalu am eich anwyliaid, y byddwch hefyd yn meddwl amdanom ni.
Gadael Rhodd mewn Ewyllys
Creu eich digwyddiad codi arian eich hun
Mae codi arian yn ffordd wych o sicrhau dyfodol ein hofrenyddion, tra’n cael hwyl a gwneud gwahaniaeth go iawn.
Codi Arian
Ymddiriedolaethau a Mudiadau
Mae Ymddiriedolaethau a Grantiau yn gyfranwyr hanfodol a gwerthfawr at Ambiwlans Awyr Cymru, gan ein helpu i barhau i ddarparu gofal meddygol neilltuol i achub bywydau pobl ledled Cymru.
Mwy o wybodaeth
Cofrestru ar gyfer digwyddiad
Does dim ots a yw’n well gennych ddigwyddiad ar-lein neu rywfaint o adrenalin, mae pob digwyddiad rydych chi’n cymryd rhan ynddo yn achub bywydau.
Mwy o wybodaeth
Cymorth Corfforaethol
Mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan gyda’n helusen. Gallwch ein cefnogi drwy ein rhaglen Elusen y Flwyddyn neu wahodd gweithwyr i wirfoddoli. Beth bynnag yw maint eich busnes, gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.
Rhoddion Corfforaethol
Ymweld â’n siopau
Mae gennym nifer o siopau ledled Cymru sy’n cael eu rhedeg gan staff yr Elusen a byddin o wirfoddolwyr.
Mwy o wybodaeth
“Allwn ni ddim achub bywydau heboch chi!”
“Allwn ni ddim achub bywydau heboch chi!”
Mae’n cymryd llai na 60 eiliad i achub bywyd.