Rhoddion Corfforaethol
Mae ein partneriaid corfforaethol yn cael effaith enfawr ar gynnal ein gwasanaeth
Mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan gyda’n helusen. Gallwch ein cefnogi drwy ein rhaglen Elusen y Flwyddyn neu wahodd gweithwyr i wirfoddoli. Beth bynnag yw maint eich busnes, gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.
P’un a ydych chi eisiau codi ymwybyddiaeth o’ch brand, meithrin perthnasoedd gwerth chweil neu gynhyrchu sylw cysylltiadau cyhoeddus, gallwn eich helpu yn gyfnewid am eich cefnogaeth. Fel elusen gydnabyddedig a dibynadwy, gallwn eich helpu i godi eich proffil.
Mae gan bob partner corfforaethol ran amhrisiadwy i’w chwarae, gan godi arian ac ymwybyddiaeth o’n helusen sy’n achub bywydau. Byddwn yn gweithio gyda chi i lunio partneriaeth sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, mae sawl ffordd o weithio gyda’n gilydd:
- Elusen y Flwyddyn
- Gweithwyr yn Codi Arian
- Partneriaethau Masnachol
- Nawdd
- Rhoi drwy’r Gyflogres
- Cyfateb Arian
- Rhoddion ar ffurf Nwyddau
- Partneriaethau Strategol
Elusen y Flwyddyn
Dewiswch ni fel Elusen y Flwyddyn a byddwn yn ei gwneud yn flwyddyn i’w chofio.
Drwy enwebu Ambiwlans Awyr Cymru fel Elusen y Flwyddyn, rydych chi’n gallu dangos i’ch cwsmeriaid a’r gymuned eich bod yn ymroi i helpu elusen sy’n achub bywydau ledled Cymru bob dydd.
Dyma ffordd wych o ddod â’ch staff at ei gilydd a hyrwyddo eu llesiant – drwy gefnogi achos gwerth chweil sy’n agos at eu calon. Bydd ein cydlynwyr cymunedol yn gweithio gyda chi i rannu syniadau codi arian, i’ch cefnogi ac i’ch helpu i gyflawni eich nodau. Gallan nhw roi cyngor i’ch gweithwyr ar sut i gymryd rhan boed hynny trwy drefnu digwyddiad, gwirfoddoli neu godi arian.
Mae gweithio gyda ni yn ffordd wych o gael sylw yn y cyfryngau, yn enwedig os ydych chi’n dod yn bartner hirdymor. Drwy hyrwyddo eich targedau codi arian a’ch llwyddiannau, rydych chi’n rhoi hwb i forâl staff, yn achub bywydau, ac yn codi ymwybyddiaeth o’ch brand.
Gadewch i ni ei gwneud hi’n flwyddyn i’w chofio!
Cysylltu â ni
Gweithwyr yn Codi Arian
Gwnewch rywbeth i ddod â’r tîm at ei gilydd i gefnogi ein gwaith achub bywydau.
Gall codi arian ar gyfer achos da fod yn ysbrydoledig, gan wella morâl a chymhelliant gweithwyr, yn ogystal â bod yn wych i’ch busnes.
Gall eich Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol eich cefnogi gyda’ch mentrau codi arian, gan ddarparu syniadau a deunyddiau codi arian i chi, a dangos i chi sut mae eich digwyddiad codi arian yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Cysylltu â ni
Nawdd
P’un a ydych chi eisiau noddi digwyddiad, neu ran benodol o’n sefydliad, fel noddi cerbyd ymateb cyflym, mae eich nawdd yn rhan hanfodol o’n helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Drwy ddod yn noddwr corfforaethol, gallwch gynyddu ymwybyddiaeth brand, cryfhau perthnasoedd â chleientiaid presennol a meithrin rhai newydd, ac adeiladu enw da cryfach yn y gymuned.
Cysylltu â ni
Banciau dillad
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n chwilio am gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â busnesau i gael banc dillad ar eu safle. Nod y fenter hon yw codi arian ar gyfer ein gweithgareddau achub bywydau hanfodol a mynd i’r afael ag effaith amgylcheddol gwastraff tecstilau.
Mwy o wybodaeth
Rhoddion ar ffurf Nwyddau
Mae rhoi cynnyrch neu wasanaethau yn ffordd wych o gefnogi ein gwaith achub bywydau, gan ein galluogi i leihau ein costau rhedeg.
Os ydych chi eisiau rhoi eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau, cysylltwch â ni i drafod.
Cysylltu â ni
Rhoi drwy’r Gyflogres
Mae Rhoi drwy’r Gyflogres yn ffordd wych o gefnogi ein gwaith achub bywydau. Mae eich rhodd yn cael ei didynnu o’ch cyflog cyn treth, gan ei gwneud yn broses hawdd a didrafferth.
Os nad oes gan eich busnes neu’ch cyflogwr gynllun Rhoi drwy’r Gyflogres, gallwn eich helpu i sefydlu un.
Mae Rhoi drwy’r Gyflogres yn rhoi incwm cynaliadwy, rheolaidd i ni, gan sicrhau ein bod yn gallu parhau i roi gofal brys hanfodol i’r rhai y mae ei angen arnyn nhw.
Cysylltu â ni
Gweithwyr yn Gwirfoddoli
Wrth i’ch staff ymgysylltu mwy â’n partneriaeth, bydd yn bartneriaeth werth chweil. P’un a yw’ch staff eisiau codi arian neu roi eu hamser a’u sgiliau, mae gennym wahanol opsiynau fel bod rhywbeth at ddant pawb.
Dyma ffyrdd y gallwch chi ddechrau arni:
- Cymryd rhan mewn casgliadau bwced.
- Casglu ein blychau casglu.
- Gallwch ddefnyddio eich sgiliau a’ch profiad i helpu mewn gwahanol adrannau – er enghraifft, os ydych chi’n ffotograffydd brwd, gallech helpu ein tîm cyfryngau.
- Help gyda thasgau gweinyddol yn un o’n swyddfeydd.
- Hyrwyddo’r elusen.
- Mynd i ddigwyddiadau a helpu gyda thasgau amrywiol.
Byddem wrth ein bodd yn clywed eich syniadau, a helpu i ddatblygu cynllun sy’n ymwneud â’ch busnes.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â fundraising@walesairambulance.com
Gwirfoddoli Corfforaethol
Dyma ffyrdd eraill y gall eich busnes gefnogi ein helusen:
Heriau
Mae gennym galendr llawn o ddigwyddiadau ac mae amrywiaeth o ffyrdd o gymryd rhan ynddyn nhw.
Mae gennym amrywiaeth o ddigwyddiadau a heriau ledled Cymru, gan gynnwys Hanner Marathon Caerdydd, Marathon Caer, a Digwyddiad Darth Mannion. P’un a ydych chi’n cymryd rhan fel tîm neu ar eich pen eich hun, byddwn yn eich cefnogi drwy ddarparu deunyddiau codi arian, festiau rhedeg, a digon o gefnogaeth i gyrraedd eich nod.
Ydych chi’n chwilio am rywbeth llai corfforol? Beth am herio eich ymennydd neu gynnal eich digwyddiad eich hun?
Ewch ati i greu tîm, cofrestru ar gyfer her, a helpu i achub bywydau!
Heriau
Ers sefydlu Ascona yn ôl yn 2011, mae cefnogi ein cymunedau lleol wedi bod yn ganolog i’n diwylliant felly rydyn ni’n falch o gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.
Rydyn ni’n falch ein bod yn gwneud gwahaniaeth.
Darren Briggs, Ascona