Ein hymrwymiad i chi
Ni fyddai’r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru yn bosibl heb chi a’ch cefnogaeth gan Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.
Ein nod yw, a bydd bob amser, i ddarparu’r gofal gorau posibl, gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni, i bobl ledled Cymru – ble bynnag y maent a phryd bynnag y maent ei angen.
Dros y 24 mlynedd diwethaf, rydych chi wedi ymddiried ynom ni. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi darparu’r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yn y DU ac un o’r mwyaf datblygedig yn y byd.
Rydym yn apelio am eich ymddiriedaeth unwaith eto wrth i ni weithio gyda’n partneriaid meddygol i wella ein gwasanaeth achub bywydau ymhellach er budd pawb yng Nghymru.
Mae ein hymrwymiad i chi yn ddiamod ac yn dragwyddol, ac ni fydd hynny byth yn newid.
Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn barhau i fod yno i chi a’ch cymuned – nawr a bob amser.
Diolch
Mae eich rhoddion yn ailuno teuluoedd â’u hanwyliaid, ac yn rhoi dyfodol i’n cleifion.
Gallwch achub bywyd heddiw, mewn llai na 60 eiliad.