Ein Strategaeth
Ddechrau 2021, dechreuodd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ar y gwaith o gynnal adolygiad strategol llawn. Roedd yn adolygiad cynhwysol, yn cynnwys Ymddiriedolwyr ac Uwch Dîm Rheoli’r Elusen yn ogystal â nifer fawr o weithwyr Elusennol sydd wedi cymryd rhan frwd yn y gwaith ymchwil, cynllunio a chyflawni prosiectau helaeth a manwl. Gofynnwyd am farn yr holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys ein cefnogwyr a’n gwirfoddolwyr, yn ogystal â’n partneriaid meddygol a’n fflyd hedfan.
Mae’r Strategaeth ‘Hedfan i’r Dyfodol’ 2021-2026 wedi’i llunio i gydnabod ein hesblygiad dros y ddau ddegawd diwethaf a’n safle fel elusen amlwg ac uchel ei pharch yng Nghymru.
Mae amcanion y Strategaeth yn ystyried y pwysau, y gofynion a’r cyfleoedd mewn cymdeithas fodern, yn ogystal â’n hawydd i groesawu datblygiadau newydd yn y gwasanaeth o ran dadansoddi a darparu gofal brys. Drwy gynnal Adolygiad Strategol ar yr adeg dyngedfennol hon, roeddem yn cydnabod yr angen i adeiladu ar ein llwyddiannau, gan sicrhau bod y seiliau yn eu lle ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf o wasanaeth.
Amcanion strategol
Mae amcanion strategol yr Elusen yn cael eu llywio gan ganlyniadau’r ymchwil a’r ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid a ddigwyddodd ar ddechrau’r broses. Dyma’r amcanion:
Datblygu incwm cynaliadwy
- Develop a diverse portfolio of sustainable income streams.
- Invest in supporter stewardship and community relationships.
- Build high value partnerships.
Cyflawni amcanion elusennol.
- Deliver 24/7 emergency department standard care.
- Maximise the impact of our fund across Wales.
- Seek opportunities to improve patient care and outcomes.
Diffinio'r sefydliad
- Ensure ethical standards, sustainability and value for money in all that we do.
- Be a supportive organisation which is greater than the sum of its parts.
- Celebrate our national identity and inclusivity.
- Build an active, motivated and thriving volunteer network.
- Become a technology-enabled organisation which puts communication and connectivity at its heart.
Questions
Sut wnes i gyfrannu at y strategaeth newydd?
Beth wnaethoch chi gyda fy adborth?
Beth yw'r wyth rhaglen?
Beth ydych chi wedi'i gyflawni hyd yma?
Pa brosiectau sydd ar y gweill yn y dyfodol?
Answers
Ddechrau 2021, fe wnaethom ofyn i chi am eich barn am Ambiwlans Awyr Cymru drwy ein harolygon i gefnogwyr a gwirfoddolwyr. Roedd eich negeseuon yn gyson ac yn glir.
- Rydych chi’n angerddol am eich cymuned leol.
- Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru rôl bwysig a phenodol yn eich cymuned.
- Rydych chi am weld cenedlaethau’r dyfodol yn rhan o’n Helusen a’u bod yn cael budd ohono.
- Rydych chi’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi hunaniaeth Gymreig gref ein Helusen.
- Rydych chi am gael cynnwys ac ymgysylltiad rheolaidd sy’n canolbwyntio ar y gymuned, ynghyd â gwybodaeth am ein Helusen a’r gwasanaethau rydym ni’n eu cynnig.
Fe wnaethom gymryd eich adborth gwerthfawr ac ochr yn ochr â gwaith ymchwil mewnol ac allanol sylweddol gan gydweithwyr ar draws yr Elusen, lluniwyd wyth rhaglen ffocws sy’n ffurfio ein strategaeth newydd. Mae gan bob rhaglen amcan penodol, ac rydym yn gobeithio y gallwch weld sut gwnaeth eich adborth wneud cyfraniad allweddol i’n cynlluniau i’r dyfodol.
Dyma’r wyth rhaglen:
Ymgysylltu â Phobl Ifanc – Rydym am gyflwyno cynlluniau craff i ymgysylltu â phobl ifanc i drosglwyddo gwybodaeth, i godi ymwybyddiaeth am yr elusen a’i gwerthoedd, ac i annog cefnogaeth yn y dyfodol
Cynaliadwyedd – Byddwn yn dangos ymrwymiad hirdymor i ymarfer moesegol, yn hyrwyddo agenda werdd ac yn cynnal ein cyfrifoldeb ar y cyd dros genedlaethau’r dyfodol.
Manwerthu – Byddwn yn gweithredu portffolio manwerthu sy’n taro’r cydbwysedd cywir rhwng cynhyrchu incwm a chadw presenoldeb cymunedol.
Incwm – Byddwn yn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu ein gwasanaeth i achub bywydau trwy feithrin, datblygu a chynnal portffolio amrywiol o ffrydiau incwm cynaliadwy.
Digidol a Thechnoleg – Rydym eisiau bod yn sefydliad sydd wedi’i alluogi gan dechnoleg sy’n rhoi cyfathrebu a chysylltedd wrth ei galon.
Pobl – Byddwn yn sefydliad sy’n cefnogi ein gweithwyr. Byddwn yn meithrin diwylliant cynhwysol a chydweithredol sy’n gwerthfawrogi cyfraniadau, yn darparu cyfle cyfartal, yn galluogi pawb i gyrraedd eu potensial, ac yn sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg a gyda pharch.
Cyflenwi Gwasanaethau – Byddwn yn parhau i alluogi darparu gofal o safon adrannau brys i chi, bobl Cymru 24/7, ble bynnag a phryd bynnag y mae ei angen. Byddwn hefyd yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol, gan fanteisio i’r eithaf ar effaith eich rhoddion ledled Cymru gyfan. Bydd ein Helusen bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella’r gofal a’r canlyniadau i gleifion.
Uniondeb a Thryloywder – Byddwn yn ad-dalu’r ymddiriedaeth rydych chi, bobl Cymru, wedi’i roi ynom drwy fabwysiadu’r safonau moesegol uchaf, gan ymgorffori cynaliadwyedd a gwerth am arian ym mhopeth a wnawn.
Bydd ein hymrwymiad i’n Hunaniaeth Gymreig yn llifo drwy bob un rhaglen. Byddwn bob amser yn cydnabod y berthynas unigryw sydd gennym gyda chi wrth ddathlu ein hunaniaeth genedlaethol a sicrhau bod ein gweithgareddau yn adlewyrchu anghenion yr holl wahanol gymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu. Mae cynhwysiant yn un o werthoedd craidd Hunaniaeth Gymreig – ac rydym yma i bawb yn ein gwlad sydd angen ein help.
- Rydym wedi cwblhau ein Prosiect Iaith Gymraeg, er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael amlygrwydd a blaenoriaeth ddyledus ar draws yr Elusen.
- Ym maes Manwerthu, rydym wedi creu cynllun teyrngarwch cwsmeriaid, llunio fframwaith i safoni prosesau caffael ac agor siopau, sefydlu strwythur hwb cymunedol gyda siopau newydd yng Nghaernarfon, Yr Wyddgrug a Phen-y-bont ar Ogwr, a datblygu dangosfwrdd gwybodaeth ar reoli siopau manwerthu gyda hyfforddiant i reolwyr allu monitro perfformiad siopau bob dydd.
- Rydym wedi cyflwyno brand newydd i’n siopau gan greu amgylchedd dymunol i gwsmeriaid.
- Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn seiliedig ar strategaeth codi arian newydd. Mae hyn yn cynnwys creu model codi arian rhanbarthol newydd a datblygu tîm corfforaethol a ‘gwerth uchel’. Rydym hefyd wedi gwella ein cyfleoedd i gynhyrchu incwm, megis lansio cynnyrch newydd i unigolion allu cyfrannu a system codi arian cymunedol.
- Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran harneisio a defnyddio data clyfar ar gyfer ymgyrchoedd.
- Rydym wedi symud o brosesau TG allanol yn canolbwyntio ar drafodion i sefydlu tîm TG mewnol i’r Elusen am y cyntaf erioed. O ganlyniad, rydym wedi gwella ein seilwaith TG, cysylltedd a seiberddiogelwch (rydym bellach wedi’u hachredu Cyber Essentials Plus). Yn ogystal, rydym wedi datblygu systemau gwybodaeth rheoli i gynorthwyo gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi darparu mewnrwyd newydd a system gyllid newydd.
- Mae’r Elusen hefyd wedi cofleidio systemau Awtomeiddio Prosesau Robotig (RPA), gan gyflwyno ‘robot’ sy’n gweithio ar dasgau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’n Loteri Achub Bywydau. Mae hyn wedi ein helpu i godi arian yn fwy effeithiol, adeiladu sgiliau digidol gweithwyr, a lleihau ein heffaith amgylcheddol.
- Mae gennym bellach dîm mewnol hyfforddedig sy’n gallu datblygu RPA ar gyfer prosesau gweinyddol eraill sy’n draul ar amser ar draws y sefydliad.
- Rydym wedi cyflwyno prosesau cynefino/gadael newydd i weithwyr, ein meddalwedd recriwtio cyntaf sydd wedi’i integreiddio gyda’r wefan, a llwyfan e-ddysgu newydd gydag offer gwerthuso a llwybrau pwrpasol ar gyfer pob gweithiwr. Rydym hefyd wedi sefydlu pecyn buddion gweithwyr, cynlluniau llesiant a gwirfoddoli newydd, fforwm gweithwyr, a gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu mewnol newydd.
- Rydym wedi lansio cynllun prentisiaeth llwyddiannus. Mae dau berson ifanc wedi cwblhau eu prentisiaethau ac wedi symud i gyflogaeth barhaol gyda’r Elusen ac mae’r trydydd prentis yn datblygu’n dda. Mae pedwerydd cyfle prentisiaeth yn mynd i fod ar gael o fewn y tîm Cyfathrebu.
- Rydym wedi ymgymryd â phroses gaffael newydd ar gyfer yr hofrenyddion ac wedi goruchwylio’r symud i ddarparwr newydd. Darllenwch fwy yma (link).
- Ar ôl i’r gwelliannau gwasanaeth newydd gael eu cymeradwyo (cliciwch yma am ragor o wybodaeth – link to service improvement), byddwn nawr yn canolbwyntio ar ddatblygu canolfan awyr newydd i ddarparu gwasanaeth gwell i bobl Cymru.
- Mae cynaliadwyedd a’r agenda werdd yn elfennau pwysig o’n strategaeth. Bydd y ffocws hwn yn flaenllaw wrth ddatblygu ein canolfan awyr newydd a fydd yn cynnwys ffrwd waith benodol sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd. Bydd y gwersi a ddysgwyd o’r prosiect hwn wedyn yn cael eu datblygu a’u gweithredu ar draws safleoedd eraill yr Elusen.
- Byddwn yn datblygu strategaeth e-fasnach, gyda’r bwriad o’i chyflwyno yn y 24 mis nesaf.
- Rydym wrthi’n llunio gwefan newydd sy’n fwy ymarferol a hygyrch. Rydym yn gobeithio ei lansio ym mis Mawrth 2025.
- Mae prosiect ar y gweill hefyd i ddatblygu ein haeddfedrwydd data, gan gryfhau ein gallu i ddefnyddio data i gyflawni ein nodau strategol, gweithrediadol a chorfforaethol.
- Byddwn yn datblygu ac yn cyflwyno cynllun sy’n canolbwyntio ar ysgolion a gweithgareddau grwpiau ieuenctid/cymunedol.
Questions&Answers

Crynodeb o Gynnydd y Strategaeth
Mae’n bleser gennym ddweud ein bod eisoes wedi cwblhau 60% o’r prosiectau a fydd yn ein galluogi i wireddu ein hamcanion strategol. Bydd gwaith yn parhau dros y blynyddoedd nesaf i ymgymryd â’r prosiectau sy’n weddill a’u cwblhau.
Drwy Strategaeth 2021-2026 yr Elusen a’r amcanion i’w cyflawni, credwn y byddwn yn diogelu ein sefydliad at y dyfodol a’n gwasanaeth achub bywyd hanfodol am genedlaethau i ddod.
Beth sydd eisoes wedi’i gyflawni?
Y Gymraeg
Manwerthu
Brand Manwerthu
Codi Arian
Data Clyfar
TG
Awtomeiddio Prosesau Robotig
Hyfforddiant Awtomeiddio Prosesau Robotig
Adnoddau dynol
Prentisiaethau
Caffael Contract Hofrenyddion

Prosiectau Strategol y Dyfodol
- Ar ôl i’r gwelliannau gwasanaeth newydd gael eu cymeradwyo (cliciwch yma am ragor o wybodaeth – link to service improvement), byddwn nawr yn canolbwyntio ar ddatblygu canolfan awyr newydd i ddarparu gwasanaeth gwell i bobl Cymru.
- Mae cynaliadwyedd a’r agenda werdd yn elfennau pwysig o’n strategaeth. Bydd y ffocws hwn yn flaenllaw wrth ddatblygu ein canolfan awyr newydd a fydd yn cynnwys ffrwd waith benodol sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd. Bydd y gwersi a ddysgwyd o’r prosiect hwn wedyn yn cael eu datblygu a’u gweithredu ar draws safleoedd eraill yr Elusen.
- Byddwn yn datblygu strategaeth e-fasnach, gyda’r bwriad o’i chyflwyno yn y 24 mis nesaf.
- Rydym yn datblygu gwefan newydd sy’n haws ei defnyddio ac yn fwy hygyrch. Caiff y wefan ei lansio yng ngwanwyn 2025.