Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Charaewch nawr!
Awst 3, 2026 Hafan Ein Effaith Straeon Cleifion Mandy Reynolds

Mandy Reynolds stori

5 munud o ddarllen

Roedd Mandy Reynolds yn cerdded ar y Gogarth y llynedd pan lithrodd ar greigiau garw ac roedd angen help gan Ambiwlans Awyr Cymru arni.

Ar 10 Ebrill 2025, roedd Mandy yn dychwelyd i’r maes parcio pan gafodd hi anafiadau a achosodd boen sylweddol ac roedd hi angen gofal critigol.

Cafodd tîm gofal critigol yr Elusen, Dr Gareth Thomas a’r Ymarferwyr Gofal Critigol Dan Evans a Jo Thomas, ei anfon i’r lleoliad. Pan gyrhaeddon nhw, fe wnaethon nhw asesu anafiadau Mandy.

Yn y fan a’r lle, cafodd Mandy feddyginiaeth a gwrthfiotigau cryf i helpu i atal haint yn yr anaf agored.

Symudodd y criw gofal critigol droed Mandy â llaw, gan rwymo’r anaf a’i osod mewn sblint. Gwellodd llif ei gwaed a’i churiad calon ar ôl y driniaeth, a chafodd hi ragor o feddyginiaeth i leddfu’r boen.

Dywedodd Mandy: “Roeddwn i’n cael diwrnod hyfryd yn Llandudno, rhywle cyfarwydd iawn i ni, gyda fy ngŵr a’m plant, sy’n oedolion bellach.  Roedd yr haul yn tywynnu, roedd hi wir yn ddiwrnod bendigedig.  Yna, fwyaf sydyn, roeddwn i mewn poen difrifol ac roedd gen i anafiadau ofnadwy ar fy nghoes a fy nhroed.  I ddechrau, roeddwn mewn cymaint o sioc, ond wedyn clywais hofrennydd uwch fy mhen a daeth yr ambiwlans awyr i’m hachub.  Roeddwn i’n ymwybodol o’r criw gofal critigol yn fy nghludo dros y traciau tram i ben y mynydd ar stretsier ac yna’n fy rhoi mewn hofrennydd. Roeddwn i’n teimlo’n ddiogel ac yn falch o gael y cymorth.”

Cafodd Mandy, 55 oed, o Swydd Gaer, anafiadau mor ddifrifol nes iddi gael ei chludo mewn awyren i’r ganolfan ar gyfer trawma mawr yn Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke.

Cafodd y fam i ddau anaf cymhleth iawn, gan ddatgymalu ei ffêr yn llwyr a thorri tri o’r esgyrn, â’r anafiadau’n torri trwy’r croen hefyd.

Dywedodd Mandy: “Fe wnes i ddeffro yn yr adran drawma ar ôl torri fy ffêr mewn sawl lle, â’r esgyrn wedi torri trwy’r croen, gan adael fy ffêr yn ansefydlog. Yn ystod fy nghyfnod yn yr ysbyty, cefais ddwy lawdriniaeth, un i osod teclyn i sefydlogi fy nghoes, tra bod y meddygon yn penderfynu ar y ffordd orau o achub fy nhroed, ac yna llawdriniaeth i osod platiau titaniwm a sgriwiau i ailadeiladu gwaelod y goes a’r ffêr. Daeth misoedd o waith adfer poenus ar ôl hyn.”

Yn dilyn llawdriniaeth blastig ac orthopedig, bu’n rhaid i Mandy ailddysgu sut i gerdded.

Dywedodd: “Nawr mae gen i lawer o fetel yn fy nhroed dde, lle bu’n rhaid ei hailadeiladu’n llwyr. Roedd yn rhaid i mi ddysgu sut i gerdded eto ac rydw i wedi cael gwybod y bydd fy anafiadau yn effeithio arna i am weddill fy oes.”

Mae Mandy, sy’n ddiolchgar iawn, wedi codi arian i’r elusen achub bywyd ers ei damwain ac mae hi’n gefnogwr gwych i’r gwasanaeth. Mae hi wedi bod yn gwerthu cerrig mân wedi’u peintio â llaw ar gyfer yr Elusen.

Dywedodd y cyn athrawes: “Byddaf yn ddiolchgar am byth i Ambiwlans Awyr Cymru am y caredigrwydd a’r driniaeth a gefais ganddyn nhw’r diwrnod hwnnw, ac am y gefnogaeth barhaus maen nhw wedi’i rhoi i ni fel teulu i’n helpu i ddod i delerau â’r hyn a ddigwyddodd a’r effaith enfawr y mae’n ei chael ar ein bywydau. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy llethu’n llwyr gan fy namwain ac nid oeddwn i’n llwyr werthfawrogol o’r hyn y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei wneud, nes roedd eu hangen arnom ni.

“Rwy’n teimlo’n hynod ddiolchgar bod y criw wedi gallu fy helpu’r diwrnod hwnnw. Alla i ddim mynegi beth oedd eu gweithredoedd yn ei olygu i mi.“

Yn ogystal â bod yno o’r dechrau, parhaodd Ambiwlans Awyr Cymru i gefnogi Mandy ar ôl iddi gael ei rhyddhau o’r ysbyty.

Mae’r Elusen yn cynnig Gwasanaeth Ôl-ofal gan ei Nyrsys Cyswllt Cleifion. Diolch i’r gwasanaeth hwn, mae’r Elusen nid yn unig yn un o’r rhai cyntaf i gyrraedd y claf, ond hefyd yn un o’r rhai olaf i adael, gan eu cefnogi nhw a’u teuluoedd drwy gydol eu gwellhad.

Cafodd Mandy gymorth gan y Nyrs Cyswllt Cleifion, Hayley Whitehead-Wright. Yn ddiweddar, roedd Mandy wrth ei bodd yn cwrdd â Hayley yn ystod ymweliad ag un o’n canolfannau. Dywedodd: “Roedd Hayley a’r gwasanaeth ôl-ofal yn wych. Cafodd popeth a oedd wedi digwydd i mi ei egluro’n llawn, e.e. y meddyginiaethau a gefais, fy arsylwadau ac enwau’r criw. Cefais wybodaeth drwy gydol y broses, gan gynnwys cynnig cymorth parhaus i mi a’m teulu, fel gwasanaethau cwnsela. Roedd Hayley yn deall yn llwyr sut roeddwn i’n teimlo ac yn gwneud i mi deimlo bod rhywun yn gwrando arna i drwy gydol y broses.

“Roedd hi’n wych cwrdd â Hayley, sy’n parhau i fy nghefnogi ers fy namwain.”

“Rwy’n hynod ddiolchgar i griw Ambiwlans Awyr Cymru, a ddaeth i’m hachub pan oeddwn i mewn angen brys. Roedd cwrdd â’r criw yn brofiad emosiynol iawn ac yn ddiwrnod bythgofiadwy. Roedd fy nheulu’n adnabod eu hwynebau, ond y cyfan y gallwn ei gofio i ddechrau oedd y gofal a’r caredigrwydd yn eu lleisiau. Roedd yn foment wirioneddol arbennig i mi a’m teulu.“

“Rhoddodd sgiliau tîm Ambiwlans Awyr Cymru ail gyfle i mi, ac achub fy nhroed. Byddaf yn ddiolchgar am byth i’r gwasanaeth ac i bawb sydd wedi fy helpu ers i fy mywyd newid yn llwyr.”

Yn ogystal â Mandy’n codi arian ar gyfer yr elusen, mae ei ffrind Louis Davies, sydd yn agos iawn at y teulu Reynolds, wedi bod yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ac i Mandy.

Mae Louis wedi rhedeg sawl marathon a rasys hirach na marathon, ac eleni fe gymerodd ran ym Marathon Manceinion a chodi swm anhygoel o £1,814.

Roedd Mandy yn falch bod Louis wedi dewis rhedeg iddi hi ac Ambiwlans Awyr Cymru. Ers hynny, mae Louis wedi gwneud cais am le ym Marathon Llundain 2027 er budd yr Elusen.