Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
September 4, 2025 Home Our Impact Patient Stories Nick Williams

Nick Williams story

5 minute read

Mae’r cyn chwaraewr rygbi, Nick Williams, wedi rhannu ei brofiad o’i ‘daith hir o wella’ ar ôl dioddef ataliad y galon gan ei adael yn brwydro am ei fywyd.

Ar 30 Medi 2022, roedd disgwyl i’r cyn chwaraewr rygbi gyda Chaerdydd, Nick Williams, roi sylwebaeth ar gêm ym Mharc yr Arfau. Yn hytrach na hynny, roedd yn gwella mewn gwely yn yr ysbyty ar ôl dioddef ataliad y galon yng ngardd gefn ei ffrind.

Roedd y cyn chwaraewr rhif 8, a wnaeth ymddeol o rygbi proffesiynol yn 2020, ar ei ffordd i dŷ ei ffrind i gael tyst ar gyfer pasbort ei ferch pan syrthiodd yn sydyn.

Dywedodd Nick, gan alw i gof y diwrnod tyngedfennol hwnnw: “Doedd fy ffrind Jase ddim yn gwybod fy mod i’n dod draw ac ar hap roedd yn gweithio o gartref y diwrnod hwnnw. Es i drwy’r ffordd gefn i’w ardd, ond doedd ddim yno.

“Pan ddaeth yn ôl, gwnaeth fy ngweld i’n gorwedd ar lawr ei batio. Cefais ataliad y galon. Yn ffodus, roedd yn llawn adrenalin a dechreuodd berfformio CPR cyn cysylltu â’r gwasanaethau brys.”

Cyrhaeddodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac wedyn Ambiwlans Awyr Cymru.

Yr Ymarferwyr Gofal Critigol Elliott Rees, Caroline Arter a Rhyan Curtin oedd criw Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Elliott: “Pan wnaethom gyrraedd, roedd Nick wedi cael ei bedwaredd sioc diffibriliwr. Cawsom wybodaeth drosglwyddo gan y criw ambiwlans a wnaeth waith ardderchog ac asesu cyflwr Nick.

“Mae ein gwasanaeth yn darparu ymyriadau gofal critigol uwch a fyddai fel arfer ond ar gael mewn ysbyty.

“Roeddem yn gallu darparu triniaethau o safon ysbyty yng ngardd gefn Jason. Rhoddwyd tiwb i mewn i lwybr anadlu Nick a’i roi ar beiriant anadlu – a alluogodd i ni anadlu ar ei ran, gan amddiffyn ei ymennydd rhag niwed. Gwnaethom hefyd roi ychydig o feddyginiaethau i Nick er mwyn ei lonyddu a chynnal profion manwl megis sgan uwchsain ar ei galon a phrawf nwy gwaed, sy’n gallu rhoi cipolwg i ni ar y rheswm pam bod rhywun yn cael ataliad y galon.

“Pan oedd Nick yn fwy sefydlog ar y peiriant anadlu, gwnaethom ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru.”

Mae gyrfa broffesiynol Nick yn cynnwys chwarae i rai o dimau gorau’r byd, gan gynnwys Caerdydd, Ulster, Munster ac ochr Super Rugby yr Auckland Blues. Mae hefyd wedi ennill sawl cap rhyngwladol i’r Crysau Duon Iau. Yn eironig, ddau fis cyn y digwyddiad, chwaraeodd mewn gêm gymeradwyo ar gyfer Llysgennad Ambiwlans Awyr Cymru James Hook, a oedd yn codi arian ar gyfer yr elusen sy’n achub bywydau.

Nid yw’r Selandwr Newydd yn cofio llawer am y digwyddiad a wnaeth bron â’i ladd yn 38 oed, a dywedodd bod ei gyfnod gwella wedi bod yn daith emosiynol iawn ar hyd yr 16 mis diwethaf.

Dywedodd: “Pan wnes i ddeffro, gofynnais i fy mrawd a oeddent wedi ennill neu wedi colli’r gêm, gan feddwl fy mod wedi cael fy mwrw’n anymwybodol ar ôl chwarae rygbi. Roedd cael gwybod fy mod wedi cael ataliad y galon yn anodd ei brosesu ac rwyf wedi bod ar daith ers hynny.

Nick Williams

“Mae llawer o bobl yn meddwl bod chwaraewyr rygbi yn fechgyn mawr caled, ac rwyf wedi chwarae o flaen miloedd o bobl ledled y byd, ond dyma’r her fwyaf rwyf wedi ei chael o bell ffordd.

“Rwy’n ffodus iawn o gael fy ngwraig hyfryd, Gemma, sydd wedi bod yn asgwrn cefn i mi bob cam o’r ffordd a fy nhair merch hyfryd sy’n fy nghadw i fynd.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Fel rhan o gyfnod Nick o wella, gwnaeth gwrdd â’r criw meddygol a helpodd i achub ei fywyd, gyda Gemma a’i dair merch sydd bellach yn 12 oed, 10 oed a 6 oed.

Gwnaethant roi llinell amser fanwl i Nick a’i deulu am y gweithdrefnau a berfformiwyd ar y safle a llenwi’r “bylchau” nad oedd yn eu cofio.

Dywedodd Nick: “Ni sylweddolais faint y byddwn yn elwa o gwrdd â’r criw a helpodd i achub fy mywyd. I ddechrau, roeddwn am i fy merched gwrdd â’r bobl a achubodd ‘bywyd Dad’ a dangos iddynt sut mae arwyr go iawn yn edrych, yn ogystal â diolch iddynt am bopeth a wnaethant i mi. Cefais lawer o fudd o hyn yn ogystal â fy nheulu.

“Roeddwn yn emosiynol yn gweld yr hofrennydd a ddaeth i fy achub a chael cwrdd â phawb, byddaf bob amser yn ddyledus iddynt.”

Nick Williams

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio’n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy’n Hedfan’. Mae’r meddygon ymgynghorol a’r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o’r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle’r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Mae’r gofal critigol neilltuol hwn yn cynnwys gweinyddu anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed a chynnal mân lawdriniaethau, i gyd yn lleoliad y digwyddiad.

Yn aml, caiff y Gwasanaeth ei ddisgrifio fel ‘adran achosion brys sy’n hedfan’, ond gall hefyd ddarparu gofal o’r un safon ar y ffordd drwy ei fflyd o gerbydau ymateb cyflym.

Darperir y gwasanaeth 24/7 hwn drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi’r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn cyflenwi ymgynghorwyr medrus iawn ac ymarferwyr gofal critigol o’r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd y criwiau ymroddedig, waeth ble maen nhw wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywydau brys.

Dywedodd Nick, gan fyfyrio ar y gwasanaeth a achubodd ei fywyd: “Bob dydd rwy’n cyfri fy mendithion ac yn diolch i’r arwyr yn Ambiwlans Awyr Cymru am fod yna i mi pan oeddwn eu hangen fwyaf. Dydych chi ddim yn sylwi pa mor werthfawr yw bywyd neu faint rydych yn ei gymryd yn ganiataol nes i chi ddod mor agos at golli popeth.

Does dim digon o glod yn y byd i fynegi pa mor ddiolchgar ydw i.

Nick Williams

Mae Nick yn ôl yn ‘gwneud yr hyn y mae’n ei wneud orau’ fel Pennaeth Rygbi mewn ysgol annibynnol yn Dorset.

Dywedodd: “Dydw i byth yn stopio meddwl am yr arwyr yn Ambiwlans Awyr Cymru. Bob amser rydym yn gweld hofrennydd, mae fy merch fach yn dweud, ‘edrycha Dad, ein ffrindiau,’ ac rwy’n cyfri fy mendithion bob dydd ac yn meddwl am y bobl hyfryd hyn a’r criw ardderchog yn Ambiwlans Awyr Cymru am achub fy mywyd.”