Telerau ac Amodau > Teleraodau’r Loteriu ac Am

Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau’r Loteri

Drwy gymryd rhan yn y Loteri, rydych yn cytuno i lynu wrth y Telerau ac Amodau hyn. Mae unrhyw gyfarwyddiadau ar gymryd rhan yn y Loteri yn rhan o’r Telerau ac Amodau hyn. Ni fydd unrhyw gais nad yw’n cydymffurfio â’r Telerau ac Amodau hyn yn ddilys.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cadw’r hawl i ddiwygio neu addasu’r telerau ac amodau hyn heb rybudd.

Cwynion

Cyfrifoldeb cymdeithasol

Preifatrwydd

Cwynion

Cyfrifoldeb cymdeithasol

Preifatrwydd

Cwynion

Cyfrifoldeb cymdeithasol

Preifatrwydd

Gwybodaeth ychwanegol am ein loteri

Cyfrifoldeb y chwaraewr yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newid i gyfeiriad neu unrhyw fanylion aelodaeth eraill a ystyrir yn angenrheidiol.

Gellir canslo aelodaeth ar unrhyw adeg, er na fydd unrhyw gais o’r fath a geir ar ôl 17.00 ar nos Iau o bosibl yn cael ei weithredu tan ar ôl y raffl wythnosol. Os ydych yn talu drwy archeb sefydlog neu gerdyn debyd / credyd yn rheolaidd, yna rhaid i chi ganslo yn ysgrifenedig drwy’r post neu e-bost. Er mwyn canslo taliadau cerdyn, rhaid i chi roi eich manylion cerdyn gwreiddiol i ni. Cysylltwch â’r Adran Loteri yn Llanelli am gymorth pellach.

Rydym yn cadw’r hawl i wrthod cais neu ganslo tanysgrifiad cyfredol yn ôl ein disgresiwn llwyr. Gellir ailystyried unrhyw benderfyniad o’r fath os cyflwynir apêl ysgrifenedig i Reolwr y Loteri cyn pen 7 diwrnod. Bydd penderfyniad Rheolwr y Loteri yn derfynol.

  • Bydd aelodau newydd yn cael rhif(au) unigryw a ddewiswyd ar hap gan ein meddalwedd gyfrifiadurol gymeradwy a rhif aelodaeth personol
  • Bydd y raffl yn cael ei thynnu fel arfer bob dydd Gwener (ac eithrio pan fydd dydd Gwener yn ddiwrnod Gŵyl Banc, ac o dan y fath amgylchiadau, bydd y raffl yn cael ei thynnu ar y diwrnod gwaith nesaf yng Nghymru).
  • Mae’r gwobrau fel a ganlyn:

(a) Gwobr Gyntaf £1,000 wythnosol

(b) Ail Wobr £200 wythnosol

(c) Trydedd wobr £100 yr wythnos

(d) Pedwaredd wobr 20 x £10 wythnosol

  • Caiff enillwyr eu hysbysu drwy’r post o fewn wythnos i’r dyddiad y cynhaliwyd y raffl, a fydd yn cynnwys y siec berthnasol. Caiff rhifau buddugol wythnosol (ynghyd â theitl a chyfenw’r tri phrif enillydd) eu cyhoeddi ar ein gwefan. Drwy gymryd rhan yn y Loteri Achub Bywyd, rydych yn cytuno i’ch teitl a’ch cyfenw gael eu cyhoeddi os byddwch yn llwyddiannus. Bydd y rhifau buddugol hefyd ar gael drwy gysylltu â’r Adran Loteri yn ein swyddfa yn Llanelli.

Os na ellir talu gwobr o fewn 6 mis i ddyddiad y raffl, caiff ei fforffedu.

Unrhyw gynigion neu ohebiaeth a gaiff eu colli, eu dwyn neu eu hoedi yn y post, eu difrodi neu sy’n annarllenadwy, gan olygu na ellir adnabod yr enillydd, neu unrhyw gynigion neu ohebiaeth heb stamp digonol arnynt (nid yw prawf eich bod wedi postio’r eitem yn brawf ei bod wedi’i derbyn);
• Unrhyw daliadau banc hwyr;
• Methiant neu anallu’r Trwyddedai i gysylltu â chi a/neu ddyfarnu unrhyw wobr yn sgil gwallau, esgeulustod neu anghywirdeb o ran y manylion cyswllt neu’r manylion banc a roddwyd gennych neu fethiant ar eich rhan i’w diweddaru os ydynt yn newid;
• Colledion neu ddifrod a achosir gennych yn sgil cymryd rhan yn y Loteri neu eich defnydd o unrhyw wobr;
• Unrhyw ymyriadau neu wallau ar y Wefan;
• Gwallau neu fethiannau o ran y caledwedd neu’r feddalwedd neu unrhyw achosion o golli cysylltiad â’r rhwydwaith, cysylltiadau diffygiol neu ddiffyg gwasanaeth; neu
• unrhyw fethiant neu oedi y tu hwnt i reolaeth resymol y Trwyddedai.

Mae Loteri Achub Bywyd Wythnosol Ambiwlans Awyr Cymru wedi ei thrwyddedu gan y Comisiwn Hapchwarae o dan Ddeddf Gamblo 2005. Rhif Trwydded: 004829 Gwefan: www.gamblingcommission.gov.uk

Trwyddedai: Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Elusen, Llanelli Gate, Dafen, Llanelli SA14 8LQ
Rhif Elusen Gofrestredig: 1083645

Ffôn: 0300 0152 999 (gofynnwch am yr adran loteri)

E-bost: lottery@walesairambulance.com