Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Chwarae nawr!
April 21, 2026 Home The Charity News Ambiwlans Awyr Cymru yn gofyn am gefnogaeth wrth i brisiau tanwydd hedfan godi’n sydyn

Ambiwlans Awyr Cymru yn gofyn am gefnogaeth wrth i brisiau tanwydd hedfan godi’n sydyn

5 minute read

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn gofyn am gefnogaeth i helpu i gadw ei hofrenyddion sy’n achub bywydau yn yr awyr, ar ôl iddi wynebu cynnydd sylweddol mewn costau tanwydd hedfan sy’n gysylltiedig â’r rhyfel yn y Dwyrain Canol.

Hyd yn oed pe bai’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn dod i ben yn y dyddiau nesaf, byddai’r Elusen yn parhau i wynebu costau ychwanegol o oddeutu £50,000 oherwydd y cynnydd parhaus mewn prisiau tanwydd hedfan.

Bob dydd, mae criwiau’r Elusen yn ymateb i rai o’r argyfyngau meddygol mwyaf difrifol yng Nghymru – gan gyrraedd pobl sy’n ddifrifol wael neu sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol. Mae angen hediadau dros bellter hir yn aml ar gyfer hyn, i fynd â gweithwyr meddygol at gleifion ac yna eu cludo i ysbytai arbenigol yng Nghymru a Lloegr i gael y gofal brys sydd ei angen arnynt.

Meddai Capten James Gardiner, peilot Ambiwlans Awyr Cymru: “Bob tro rydym yn codi i’r awyr, rydym yn gwybod bod rhywun ar y ddaear yn dibynnu arnom yn ystod un o adegau gwaethaf eu bywydau. Nid yw tanwydd yn gost i ni yn unig – dyma sy’n caniatáu i ni fynd â’n gofal sydd o safon adrannau damweiniau ac achosion brys i’n cleifion, lle bynnag y maent yng Nghymru, ac yna i fynd â nhw i’r ganolfan gofal arbenigol mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.

“Pan fydd prisiau tanwydd yn codi mor gyflym â hyn, mae’n cael effaith wirioneddol. Mae’r gefnogaeth a gawn gan y cyhoedd wir yn helpu i’n cadw yn yr awyr, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy’n gwneud y gwasanaeth hwn yn bosibl.”

Ers dechrau’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol, mae costau tanwydd yr Elusen wedi cynyddu’n sylweddol, ar yr un pryd ag y mae’r defnydd o’r hofrennydd ambiwlans awyr yn cynyddu’n draddodiadol.

Ceir mwy o oriau o olau’r haul ac amodau tywydd gwell yn y gwanwyn a’r haf, sy’n arwain at gynnydd mewn oriau hedfan. Mae’r Elusen yn gofyn i gefnogwyr ystyried rhoi cyfraniad – ni waeth pa mor fach – i helpu i dalu am y costau tanwydd eithriadol hyn a sicrhau y gall criwiau barhau i ymateb pryd bynnag y gwneir yr alwad.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru dan arweiniad ymgynghorwyr, ac mae’n mynd â thriniaethau o safon ysbyty i’r claf ac, os oes angen, yn eu cludo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf. Fe’i darperir drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion cyhoeddus i godi’r £13 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys yn cyflenwi ymgynghorwyr ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i weinyddu anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, oll yn lleoliad y digwyddiad.

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd ei griwiau ymroddedig, ni waeth lle y maent wedi’u lleoli, yn teithio hyd a lled y wlad i ddarparu gofal brys sy’n achub bywydau.

Meddai Dr Barnes: “Mae’r rhyfel yn y Dwyrain Canol wedi creu her annisgwyl a thros dro, gobeithio. Mae costau tanwydd sy’n codi yn broblem ddifrifol i elusennau ambiwlans awyr ledled y DU ac yn adlewyrchu ffactorau byd-eang sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.

“Nid yw marchnadoedd tanwydd byd-eang yn ymateb yn syth i newid geowleidyddol, ac rydym yn rhagweld y bydd unrhyw ostyngiad mewn costau yn dilyn diwedd y rhyfel yn raddol ac wedi’i ledaenu dros gyfnod hir. Mae hyn yn golygu y byddai’r effaith ariannol ar yr Elusen yn parhau ymhell y tu hwnt i ddiwedd uniongyrchol y gwrthdaro.

“Pan fydd bywyd rhywun mewn perygl, rhaid i’n criwiau fod yn barod i hedfan, ni waeth beth yw’r pellter neu amser y dydd.


“Er ein bod yn rheoli’r cynnydd hwn yn ofalus, rydym hefyd yn gofyn i gefnogwyr, os gallant, ein helpu i liniaru’r cynnydd eithriadol hwn mewn costau tanwydd.

“Rydym yn gwybod bod nifer o bobl ledled Cymru’n wynebu costau sy’n cynyddu yn eu bywydau eu hunain, ac nid ydym yn cymryd y penderfyniad i ofyn am help yn ysgafn.”

I ganfod mwy ac i roi arian, ewch i: https://www.walesairambulance.com/fuel-cost-appeal