Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Charaewch nawr!
Gorffennaf 16, 2026 Hafan The Charity Newyddion Digwyddiad Polo Brenhinol yn Codi £100k i Ambiwlans Awyr Cymru

Digwyddiad Polo Brenhinol yn Codi £100k i Ambiwlans Awyr Cymru

5 munud o ddarllen

Mae digwyddiad polo elusennol nodedig a gynhaliwyd gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yr wythnos diwethaf (10/07/26) wedi codi £100,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Cynhaliwyd Cwpan Polo Elusennol Brenhinol DMMI yng Nghlwb Polo’r Gwarchodlu yn Windsor. Roedd y Tywysog, a gafodd ei gyhoeddi’n Noddwr Brenhinol Ambiwlans Awyr Cymru ym mis Chwefror 2023, yn chwarae yn rhan o dîm U.S. Polo Assn. mewn twrnamaint oedd hefyd yn cynnwys tîm Mirror Polo a thîm Manta Marine Technologies – La Ilusión Polo Club.

Llwyddodd tîm U.S. Polo Assn. i amddiffyn y teitl yr oeddent wedi’i ennill y llynedd mewn cystadleuaeth gyffrous lle cafodd pob tîm gyfle i chwarae yn erbyn ei gilydd.

Dewiswyd Ambiwlans Awyr Cymru fel un o ddeg elusen i elwa o’r digwyddiad, ynghyd â Choleg Brenhinol y Parafeddygon, Shout, Tŷ Hafan, Forward Trust, Ysbyty Plant Evelina Llundain, Cynghrair Iechyd Meddwl Mamau, We Are Farming Minds, The Passage, ac Elusen y Llynges Frenhinol a’r Môr-filwyr Brenhinol.

Dywedodd Phae Jones, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm Ambiwlans Awyr Cymru: “Braint o’r mwyaf i ni yw cael ein dewis yn un o ddeg elusen fydd yn elwa o Gwpan Polo Elusennol Brenhinol DMMI.

“Mae ein helusen yn dathlu ei phen blwydd yn 25 oed eleni. Pan lansiwyd Ambiwlans Awyr Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2001, un ambiwlans awyr oedd gennym, ac roedd yn hedfan bum diwrnod yr wythnos. Chwarter canrif yn ddiweddarach, rydym wedi tyfu i fod yn un o’r gwasanaethau ambiwlans awyr mwyaf datblygedig yn y Deyrnas Unedig – gwasanaeth 24/7 dan arweiniad meddygon ymgynghorol sydd â mynediad at bedwar hofrennydd a fflyd o gerbydau ymateb cyflym, gan ddarparu gofal o safon ysbyty i bobl ledled Cymru, lle bynnag a phryd bynnag y mae ei angen arnynt.

“Erbyn hyn, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn rhan hanfodol o’r ymateb brys gofal critigol yng Nghymru, ac mae angen i ni godi £13 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd.

“Bydd yr arian a gawn o’r digwyddiad hwn yn gam enfawr tuag at gyrraedd y targed hwnnw. Mae pob ceiniog yn sicrhau ein bod ni’n gallu bod yno i bobl sy’n dioddef salwch neu anaf sy’n peryglu eu bywyd neu lle mae perygl y byddant yn colli aelod o’r corff. I roi hynny yn ei gyd-destun, aethom i dros 3,600 o ddigwyddiadau brys yn ystod 2025 ac rydym wedi mynd ar dros 57,000 o deithiau achub ers i’r Ambiwlans Awyr gael ei lansio yn 2001.

“Mae gan y Tywysog ddiddordeb brwd a rhagweithiol yn ein Helusen ac, fel cyn beilot ambiwlans awyr ei hun, mae’n deall yn well na’r rhan fwyaf o bobl pa mor bwysig yw gwasanaeth o’r fath. Mae wedi dod yn aelod brwd o deulu Ambiwlans Awyr Cymru, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis i fod yn un o’r elusennau fydd yn elwa yn sgil y Cwpan Polo Elusennol Brenhinol.”

Roedd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru hefyd yn bresennol mewn swper ffurfiol i ddathlu pen blwydd yr elusen yn 25 oed ym mis Mehefin 2026, a dywedodd wrth y gwesteion bryd hynny fod y garreg filltir honno’n gyfle nid yn unig i fyfyrio ar bopeth sydd wedi cael ei gyflawni dros y chwarter canrif diwethaf, ond hefyd i gydnabod y bobl eithriadol y mae eu hymroddiad, eu sgiliau a’u haelioni wedi gwneud y cyfan oll yn bosibl.

Talodd deyrnged i weithwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr yr Elusen, gan ddweud bod eu cyfraniad yn gwbl amhrisiadwy, a diolchodd i’r timau meddygol, y peilotiaid, y peirianwyr, y rhai sy’n trin y galwadau, y nyrsys cyswllt cleifion a’r timau cymorth gweithredol, y mae eu proffesiynoldeb, eu harbenigedd a’u hymroddiad wedi helpu i greu a chynnal y gwasanaeth.

Tynnodd Ei Uchelder Brenhinol sylw hefyd at statws Ambiwlans Awyr Cymru fel gwasanaeth sy’n cael ei barchu’n fyd-eang, gan nodi ei fod wedi datblygu enw da yn rhyngwladol am y gwasanaeth mae’n ei ddarparu ac am ei ymrwymiad i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth sy’n helpu i sicrhau’r gofal gorau posibl i bobl Cymru.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw Trydydd Sector a Sector Cyhoeddus rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS).  

O ganlyniad, mae’r gwasanaeth yn cael ei arwain gan feddygon ymgynghorol ac mae wedi dod yn ‘adran achosion brys symudol’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia a thrallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau – i gyd yn y fan a’r lle.

Gan ei fod yn wasanaeth i Gymru gyfan, mae criwiau’r ambiwlans awyr yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal brys sy’n achub bywydau.

Mae’r digwyddiad eleni yn golygu bod dros £15 miliwn wedi’i godi yn sgil Diwrnodau Polo Elusennol Brenhinol sydd wedi cael eu chwarae yn y Deyrnas Unedig dros y 15 mlynedd diwethaf.