Yn y drydedd Acwathlon Elusennol flynyddol yn Llanfair-ym-Muallt daeth athletwyr profiadol a phobl a oedd yn cymryd rhan am y tro cyntaf at ei gilydd i godi’r swm arbennig o £5,000 at Ambiwlans Awyr Cymru.
Roedd y digwyddiad yn agored i bobl o bob oed a gallu, ac roedd rhai cystadleuwyr wedi teithio o gyn belled â Harrogate a Gosport, gyda’r cyfranogwyr yn amrywio rhwng 12 oed a’u saithdegau.
Cynhaliwyd yr acwathlon yn y Groe ddydd Sul 9 Awst 2026, gan gynnig cyfle i’r gyfranogwyr gymryd rhan yn y digwyddiadau at achos da.
Eleni, roedd modd dewis rhwng tri digwyddiad – cymerodd unigolion ran mewn nofio 200m (8 hyd) yn y pwll ac yna rhedeg 3k, neu nofio 400m (16 hyd) yn y pwll ac yna rhedeg 5k.
Cymerodd timau â dau berson ran yn y ras gyfnewid, lle’r oedd un person yn nofio 400m, a’u partner yn rhedeg 5k.
Aeth Hugh Tamlyn, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru, i’r acwathlon a chymryd rhan yn y digwyddiad, gan dynnu sylw pellach at yr ysbryd cymunedol.
Rhannodd Helen Tuite, Cyd-drefnydd y digwyddiad poblogaidd, ei llawenydd. Dywedodd: “Gwych oedd gweld criw mor amrywiol yn dod at ei gilydd, gan brofi bod hwn yn wir yn ddigwyddiad i bawb.”
Chwaraeodd busnesau lleol ran ganolog yn llwyddiant y digwyddiad. Roedd Charcroft Electronics yn Llanwrtyd, Coyle Surfacing, a noddwyr eraill wedi rhoi cefnogaeth hanfodol.
“Heb haelioni ein noddwyr, ni fydden ni ddim wedi gallu codi’r swm anhygoel hwn at Elusen mor hanfodol.” meddai’r trefnwyr.
Ychwanegodd Vicky Mellor, Cyfarwyddwr yn Charcroft Electronics: ”Rydyn ni’n falch o gefnogi’r digwyddiad cymunedol gwych hwn ar gyfer achos mor deilwng.”
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth sy’n cael ei arwain gan feddygon ymgynghorol, sy’n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf. Mae’n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.
Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.
Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau, i gyd yn y fan lle bu’r digwyddiad.
Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal brys sy’n achub bywydau.
Dywedodd Hugh Tamlyn o’r Elusen: “Pleser o’r mwyaf oedd cymryd rhan yn yr acwathlon flynyddol. Mae’n ddigwyddiad hynod boblogaidd, diolch i’r trefnwyr, a gwych oedd gweld pobl o bob oed yn cymryd rhan. Fe wnes i fwynhau’r diwrnod yn fawr iawn. Diolch o galon i’r holl drefnwyr, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr a oedd wedi’i wneud yn ddigwyddiad mor llwyddiannus.
“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar gyfraniadau gan y cyhoedd i godi £13 miliwn bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Bydd digwyddiadau codi arian fel hwn, a oedd wedi codi £5,000, yn ein helpu ni i barhau i fod yno i bobl Cymru pan fyddan nhw ein hangen ni fwyaf.
“Rydym ni’n wir yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth gan bwyllgor Acwathlon Llanfair-ym-Muallt. Rydych chi i gyd wedi chwarae rhan yn achub bywydau ledled Cymru.”
Mae’r Acwathlon yn cael ei threfnu gan grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr lleol. Gall pawb sydd â diddordeb mewn cymryd rhan neu ddarparu nawdd corfforaethol neu arian cyfatebol ar gyfer y digwyddiad y flwyddyn nesaf gysylltu â builthaquathlon@gmail.com.
Photo Credit: Ted Edwards Photography, Builth Wells