Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Charaewch nawr!
Awst 18, 2026 Hafan The Charity Newyddion Cymwynas garedig Bryan i wasanaeth achub bywyd i nodi pen-blwydd pwysig

Cymwynas garedig Bryan i wasanaeth achub bywyd i nodi pen-blwydd pwysig

5 munud o ddarllen

Mae hen daid ym Mhowys wedi dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed drwy godi £490 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Gofynnodd Bryan Jandrell am roddion i’r Elusen achub bywyd yn lle anrhegion i nodi ei ben-blwydd arbennig.

Roedd Bryan, o’r Drenewydd, wedi dathlu ei ben-blwydd arbennig ar 19 Gorffennaf drwy ddigwyddiad codi arian yn Hafan yr Afon.

Mae gan Bryan dair merch, chwech o wyrion a saith o or-wyrion, a daeth 84 o westeion ynghyd i ddathlu gydag ef, rhai o gyn belled â Gwlad yr Haf.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth sy’n cael ei arwain gan feddygon ymgynghorol, sy’n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at gleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf. Mae’n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.

Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.

Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau, i gyd yn y fan lle bu’r digwyddiad.

Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywyd brys.

Bu Oli Sharman, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru yn cwrdd â Bryan yn ddiweddar a derbyniodd y rhodd o £490. Dymunodd Oli ben-blwydd hapus i Brian a diolchodd iddo am ei gefnogaeth i Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Oli Sharman: “Roedd hi’n hyfryd cwrdd â Bryan, a ddathlodd ei ben-blwydd arbennig yn 90 oed yn ddiweddar. Dathlodd Bryan ei ben-blwydd arbennig mewn ffordd wych, drwy godi arian i’n gwasanaeth hanfodol. Mae gofyn am roddion yn hytrach nag anrhegion yn dangos ei fod yn ddyn caredig dros ben. Mae’n swnio fel bod Bryan, ei deulu a’i ffrindiau i gyd wedi mwynhau noson wych yn dod at ei gilydd i ddathlu ei ben-blwydd.

“Rydym wir yn gwerthfawrogi’r ffaith bod Bryan eisiau helpu eraill wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed.

“Diolch i bawb am roi rhoddion yn lle anrhegion i nodi pen-blwydd Bryan yn 90 oed. Rydych chi i gyd yn helpu i achub bywydau ledled Cymru a sicrhau ein bod ni’n gallu bod yno i bobl Cymru pan fyddan nhw ein hangen ni fwyaf. Diolch yn fawr.”

(Llun : Yvonne and Hywel Lovgreen.)