Nododd cwpl hael o Sir Benfro eu pen blwydd priodas diemwnt drwy ofyn i’w gwesteion gyfrannu at Ambiwlans Awyr Cymru yn lle rhoi anrhegion iddynt.
Dathlodd Ann a Bernard Williams, o Lan-lwy, 60 mlynedd o briodas gyda pharti yn yr Old Brewery, Tyddewi. Ymunodd 115 o westeion â’r cwpl caredig i nodi eu diwrnod arbennig.
Llwyddodd haelioni eu teulu a’u ffrindiau i godi £1,220 at Elusen sydd wedi achub cymaint o fywydau.
Priododd y cwpl, sydd â thri o blant a phedwar o wyrion, yn Hwlffordd. Bu Ann, sy’n cael ei disgrifio fel person sy’n gofalu a bawb, yn gweithio fel cynorthwyydd gofal iechyd am 38 mlynedd yn Ysbyty Llwynhelyg, lle’r oedd pawb yn ei hadnabod fel ‘Polly’ am ei bod yn gofalu bob amser bod digon o ddŵr yn y tegell.
Mae’r cwpl yn mwynhau gweithio yn eu gardd a gwarchod ci achub eu mab, Kipper, sy’n cael eu ddifetha’n llwyr bob dydd.
Nid yw codi arian at y gwasanaeth Cymru gyfan hwn yn rhywbeth newydd i’r cwpl. Y llynedd gofynnodd Bernard am roddion i’r Elusen yn lle anrhegion ar achlysur dathlu ei ben blwydd yn 80 oed. Llwyddodd y garreg filltir honno i godi £550.
Mae Ann, a fydd yn 80 ar 19 Mawrth, hefyd yn bwriadu cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru drwy ofyn am roddion yn lle anrhegion i nodi ei phen blwydd arbennig.
Meddai eu merch, Jane: “Roedd y parti’n wych, ac mi oedd pawb mor hael. Roedd yn barti braf, ac mi aeth popeth yn dda. Mi gafwyd areithiau da ac mi oedd mam a dad dan deimlad erbyn y diwedd.
“Mi gafodd fy nghefnder ddamwain ofnadwy ac mi fu’n rhaid cael help Ambiwlans Awyr Cymru, ac felly hefyd fy nghymydog. Mae Ambiwlans Awyr Cymru’n elusen sy’n agos at ein calonnau.”
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei arwain gan ymgynghorwyr, sy’n dod â thriniaethau safon ysbyty at gleifion ac, os bydd angen, yn eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty sydd fwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf. Mae’n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus.
Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn cyflenwi ymgynghorwyr ac ymarferwyr gofal critigol medrus y GIG sy’n gweithio ar fwrdd cerbydau’r Elusen.
Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i weinyddu anesthesia, trallwysiadau gwaed a chynnal mân lawdriniaethau, i gyd yn lleoliad y digwyddiad.
Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd y criw pwrpasol, lle bynnag maent wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal brys i achub bywydau.
Bu Mike May, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer yr ardal yn ymweld â chartref Ann a Bernard lle cyflwynodd y cwpl siec iddo am £1,220.
Meddai Mike May: “Llongyfarchiadau i Ann a Bernard ar eu Pen Blwydd Priodas Diemwnt. Mae’n amlwg eu bod wedi mwynhau’r garreg filltir arbennig hon gyda’u teulu a’u ffrindiau. Roedd gofyn am roddion yn lle anrhegion i nodi eu pen blwydd priodas diemwnt yn weithred hael dros ben, ac rydym yn hynod o falch eu bod wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru i elwa ar eu haelioni.
“Rydym yn gwerthfawrogi’r ffaith bod Ann a Bernard mor awyddus i helpu eraill wrth iddynt ddathlu pen blwydd priodas arbennig iawn.
“Y llynedd, pan oedd Bernard yn dathlu ei ben blwydd yn 80 oed, mi wnaeth y penderfyniad caredig i ofyn am roddion gan ei deulu a’i ffrindiau i’n Helusen. Gyda’i gilydd, llwyddodd y ddau achlysur i godi’r swm rhyfeddol o £1,770. Mi oeddem yn falch dros ben o glywed bod Ann yn bwriadu gwneud yr un peth ar achlysur ei phen blwydd hithau’n 80 oed.
“Diolch i galon i bawb am eu rhoddion yn lle anrhegion i nodi’r pen blwydd priodas arbennig hwn. Rhaid i’r Elusen godi £13 miliwn bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Bydd rhoddion meddylgar fel y rhain yn ein helpu i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt. Diolch o galon.”