Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Charaewch nawr!
Medi 9, 2026 Hafan The Charity Newyddion Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu Wythnos Ambiwlans Awyr 2026 

Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu Wythnos Ambiwlans Awyr 2026 

5 munud o ddarllen

Mae Wythnos Ambiwlans Awyr 2026 yn cael ei chynnal rhwng 7 a 13 Medi, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r gwaith y mae elusennau ambiwlans awyr yn ei wneud i achub bywydau ar draws y DU. 

  Yma yng Nghymru, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gofal uwch cyn cyrraedd yr ysbyty 24/7 ar gyfer y genedl gyfan. 

Mae’r wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol yn dod ag elusennau ambiwlans awyr o bob cwr o’r DU at ei gilydd i rannu un neges bwerus: “Mae Pob Taith yn Dechrau gyda Chi”. 

Mae criwiau ambiwlans awyr yn cael eu hanfon i dros 137 o achosion achub bywydau bob dydd ar draws y DU, gyda phob achos yn bosib bron yn gyfan gwbl oherwydd cefnogaeth y cyhoedd. Yng Nghymru, mae’r gwasanaeth ambiwlans awyr yn cyrraedd tua 3,600 o argyfyngau bob blwyddyn sy’n bygwth bywydau neu sy’n fygythiad i goesau neu freichiau.  

Yn 2026, mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn nodi ei phen-blwydd yn 25 oed, ar ôl  cyflawni dros 58,000 o deithiau ers ei sefydlu yn 2001.  

Yn ystod Wythnos Ambiwlans Awyr, bydd yr Elusen yn rhannu straeon y bobl y mae eu bywydau wedi cael eu hachub gan y gwasanaeth, yn ogystal â thaflu goleuni ar y rhai sy’n cyfrannu, fel y criwiau, gwirfoddolwyr a chefnogwyr. 

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Nod Wythnos Ambiwlans Awyr yw codi ymwybyddiaeth o’r gwaith hollbwysig y mae ambiwlansys awyr yn ei wneud yn achub bywydau ar draws y DU, gan gynnwys yma yng Nghymru. Ni yw’r unig elusen ambiwlans awyr benodedig yn ein gwlad. 

  “Mae pob taith yn dechrau gyda’n cefnogwyr ymroddedig. Nawr ac yn y dyfodol, ein nod yw bod yno pryd bynnag a lle bynnag y bydd ein hangen. Ni fyddai hyn yn bosib heb y bobl anhygoel ledled Cymru sydd wedi cymryd Ambiwlans Awyr Cymru i’w calonnau ac wedi dangos angerdd diwyro dros yr Elusen a’i gwaith ers dros 25 mlynedd.” 

“I’n cefnogwyr a’n gwirfoddolwyr – diolch. Rydych chi’n helpu i achub bywydau ac i wella canlyniadau i gleifion bob dydd.” 

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei arwain gan ymgynghorwyr, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty at y cleifion ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf. Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu  drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. 

Rhaid i Ambiwlans Awyr Cymru godi £13 miliwn bob blwyddyn, wedi’i ariannu gan gymunedau lleol a chefnogwyr ymroddedig. Ar gyfartaledd, mae taith mewn hofrennydd a thaith mewn car gofal critigol yn costio £3,545 gyda’i gilydd. 

Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn cyflenwi ymgynghorwyr hynod o fedrus ac ymarferwyr gofal critigol o’r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. 

Mae’r uwch ofal critigol hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, rhoi trallwysiadau gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hynny i gyd ar leoliad y digwyddiad. 

Fel gwasanaeth i Gymru gyfan, bydd ei griwiau ymroddedig, ble bynnag maen nhw wedi’u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i roi gofal achub bywyd mewn argyfwng. 

Yn ystod Wythnos Ambiwlans Awyr eleni, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn galw ar bobl ledled Cymru i gefnogi’r Elusen fel y gall barhau i gyrraedd cleifion fel Mandy Reynolds pan fydd angen gofal critigol brys arnyn nhw. 

Y llynedd, roedd Mandy yn mwynhau taith gerdded ar Ben y Gogarth pan lithrodd ar greigiau geirwon, a bu’n rhaid i dîm Ambiwlans Awyr Cymru gael ei anfon i’w helpu. 

Ar ôl iddi ddisgyn, fe wnaeth y fam i ddau ddioddef toriad triphlyg agored cymhleth iawn gan ddadleoli ei ffêr yn llwyr. Yn ddiweddarach, cafodd Mandy lawdriniaeth blastig ac orthopedig, a bu’n rhaid iddi ddysgu cerdded unwaith eto. 

Dywedodd Mandy: “Rwy’n hynod o ddiolchgar i griw Ambiwlans Awyr Cymru, a ddaeth i fy achub pan oeddwn mewn angen brys. Fe wnaeth sgiliau tîm Ambiwlans Awyr Cymru roi ail gyfle i fi ac achub fy nhroed. Fe fyddaf wastad yn ddiolchgar iawn i’r gwasanaeth ac i bawb sydd wedi fy helpu yn ystod y digwyddiad hwn a newidiodd fy mywyd.” 

Os hoffech chi gymryd rhan yn ystod Wythnos Ambiwlans Awyr, mae sawl ffordd y gallwch chi gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Ewch i www.walesairambulance.com/support-us/ways-to-donate -donate