Rydym yn gweithio ar y fersiwn Cymraeg o'n gwefan a bydd diweddariad yn y Gymraeg ar gael yn fuan. Diolch am eich amynedd!

Charaewch nawr!
Gorffennaf 9, 2026 Hafan The Charity Newyddion Bois y Ffergi yn teithio eto, er budd gwasanaeth achub bywydau!

Bois y Ffergi yn teithio eto, er budd gwasanaeth achub bywydau!

5 munud o ddarllen

Mae grŵp o ffrindiau’n dod yn ôl at ei gilydd i gynnal taith tractor elusennol pellter hir gan ddefnyddio’r un cerbyd ag a ddefnyddiwyd ganddynt ar gyfer her debyg yn ôl yn yr 1980au, i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Martin Beynon, syrfewr o Lanedi, yn dod â’i hen griw o Glwb Ffermwyr Ifanc Llandybie – a elwir hefyd yn “Bois y Ffergi” – at ei gilydd.

Dywedodd: “Mae’n flwyddyn arbennig i Ambiwlans Awyr Cymru wrth i’r elusen ddathlu ei phen-blwydd yn 25ain oed.

“Hefyd, fe wnaethon ni golli Alun, un o’r hen griw y llynedd, felly fel grŵp roedden ni’n teimlo bod yr amser yn briodol i wneud rhywbeth arbennig.”

Yn ôl yn 1988, roedd Martin, Arwel, Brian, Iwan, Steve ac Alun yn ddynion ifanc a benderfynodd fynd ar daith tractor elusennol i ddigwyddiad gan Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc, a oedd yn cael ei gynnal yn Bournemouth.

Meddai Martin: “Daethom yn ymwybodol bod clybiau ffermwyr ifanc mewn mannau eraill yn cynnal gweithgareddau codi arian ar y ffordd i’r digwyddiad ac roeddem yn meddwl y gallen ni wneud rhywbeth ein hunain.

“Felly, fe benderfynon ni yrru hen dractor Ferguson ar y daith 215 milltir er budd elusennau lleol gan godi tua £2,000.”

Mae gan ei deulu gefndir ffermio cryf, a hyd at bum mlynedd yn ôl roedd Martin yn magu gwartheg Simmental pedigri fel hobi.

Dywedodd: “Roedd y tractor Ferguson wedi cael ei ddefnyddio ar y fferm am bron i 40 mlynedd ac roedd yn dangos ei oedran. Ar ôl rhoi’r gorau i ffermio, penderfynais y dylwn achub yr hen dractor a mynd ati i’w adfer.

Fy mwriad gwreiddiol oedd gwneud rhywfaint o waith atgyweirio hanfodol a glanhau ychydig arno, ond arweiniodd un peth at y llall, ac mae wedi arwain at ei adnewyddu’n llwyr. Gallech ddweud ei fod wedi bod yn llafur cariad!

“Fodd bynnag, fyddwn i byth wedi’i gwblhau heb gymorth a chyngor arbenigol Eddie Thomas, hen ffrind i’r teulu a pheiriannydd Massey Ferguson sydd wedi ymddeol”.

Pan soniodd wrth y criw ei fod yn adfer yr “hen Fergie” ac awgrymu y dylent gynnal taith elusennol arall, roedden nhw i gyd yn awyddus i gymryd rhan.

Meddai: ‘Mae’n mynd i fod yn daith hiraethus hyd lôn atgofion wrth i “Fois y Ffergi” deithio eto!‘

Ychwanegodd Brian Richards, cyd-aelod o Fois y Ffergi a Ffermwr o Lanedi: “Pan ddechreuon ni siarad am beth oedden ni eisiau ei wneud, roedden ni’n gwybod y dylai fod yn daith ar draws Cymru ac y byddai’n rhaid iddi fod er budd Elusen sy’n gweithredu dros Gymru gyfan.

“Penderfynon ni y byddai’r daith yn dechrau yn Sioe Môn ac yn gorffen yn Sioe Llandeilo, taith o 200 milltir. Wnaeth neb ohonon ni betruso pan awgrymwyd Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’n wasanaeth rhagorol sy’n gwasanaethu pobl Cymru 24/7.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty at gleifion ac, os bydd angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf.

Caiff ei darparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar gyfraniadau cyhoeddus i godi’r £13 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw’r hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol medrus iawn y GIG i weithio yng ngherbydau’r Elusen.

Mae’r gofal critigol neilltuol hwn yn cynnwys y gallu i roi anaesthesia, darparu trallwysiadau gwaed, a chynnal mân lawdriniaethau – i gyd yn y fan a’r lle.

Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd criwiau ymroddedig yr elusen, ble bynnag y maen nhw, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywyd brys.

Dywedodd Bois y Ffergi: Allwch chi di ddim peidio â rhyfeddu at y criw! Maen nhw’n gwneud miloedd o deithiau achub bob blwyddyn ac yn teithio ar hyd a lled Cymru.

“Dyna pam rydyn ni’n gwneud rhywbeth sy’n ein galluogi i deithio rhan fawr o’r wlad. Yn ystod ein taith, byddwn yn mynd a dod i ddigwyddiadau gwledig o’r Gogledd, drwy’r Canolbarth ac i lawr i Orllewin Cymru.

“Byddwn yn treulio cwpl o ddyddiau yn Sioe Môn, cyn cychwyn ar ein her. Ar yr ail ddiwrnod, byddwn yn gyrru i’r farchnad da byw yn Rhuthun, lle gobeithiwn ennyn rhagor o gefnogaeth, cyn mynd i farchnad da byw Caerfyrddin i wneud yr un peth.

“Bydd y cymal olaf yn mynd â ni i Sioe Llandeilo, lle byddwn yn cwrdd ag aelodau Ffermwyr Ifanc Llandybie, gan gwblhau cylch cyfan, yn y man lle dechreuodd y cyfan i ni.”

Bydd Bois y Ffergi yn cychwyn ddydd Mercher 12 Awst ac yn gorffen eu taith ddydd Sadwrn 15 Awst 2026.

Dywedodd Christian Sullivan, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: “Am ffordd wych o godi arian ar gyfer gwasanaeth hanfodol, drwy ail-greu taith a wnaed yn eu blynyddoedd iau!

Mae hon yn foment cau’r cylch yn llawn i Martin a Bois y Ffergi, sy’n dod yn ôl at ei gilydd bron i 40 mlynedd ar ôl cynnal eu taith tractor wreiddiol, i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Rydym yn hynod ddiolchgar eu bod mor frwdfrydig ac yn barod i ymgymryd â thaith 200 milltir er budd ein gwasanaeth achub bywydau. Diolch yn fawr iawn!”